Neidio i'r cynnwys

Neidio i'r cynnwys

Pam Nad Ydy Duw yn Ateb Pob Gweddi?

Pam Nad Ydy Duw yn Ateb Pob Gweddi?

Mae ein Tad nefol, Jehofa Dduw, yn fodlon gwrando ar ein gweddïau diffuant. Ond mae yna rai pethau a fyddai yn ei atal rhag ateb ein gweddïau. Beth ydy’r pethau hyn, a beth dylen ni ei gofio wrth weddïo? Dyma rai canllawiau o’r Beibl.

“Tywalltwch beth sydd ar eich calon o’i flaen.”—Salm 62:8.

Nid ydy Jehofa am inni ailadrodd gweddïau oddi ar ein cof neu eu darllen o lyfr gweddi. Y mae eisiau inni siarad o’n calonnau. Dychmygwch pa mor ddiflas byddai clywed ffrind yn dweud yr un peth wrthoch chi ddydd ar ôl dydd. Mae ffrindiau da yn onest ac yn bur o galon. Pan weddïwn yn ein geiriau ein hunain, mae’n dangos ein bod ni’n gweld ein Tad nefol fel ffrind.

“Dych chi ddim yn derbyn . . . am eich bod chi’n gofyn am y rheswm anghywir!”—Iago 4:3.

Fydden ni ddim yn disgwyl i Dduw ateb gweddïau am rywbeth nad ydy ef am inni ei wneud neu ei gael. Er enghraifft, mae Jehofa wedi dweud wrthon ni am beidio â bod yn farus nac yn ofergoelus. (Eseia 65:11; Luc 12:15) Felly, a fyddai’n ateb gweddi am lwc dda gan rywun sy’n gamblo? Byddai’n hollol afresymol disgwyl i Jehofa ateb gweddi o’r fath! Os ydyn ni eisiau i Dduw ateb ein gweddïau, mae angen inni ofyn am bethau sy’n cyd-fynd â’r canllawiau yn y Beibl.

“Mae’n gas gan Dduw wrando ar weddi rhywun sy’n gwrthod gwrando ar y Gyfraith.”—Diarhebion 28:9.

Yn amser y Beibl, nid oedd Duw yn ateb gweddïau pobl oedd yn gwrthod ufuddhau i’w gyfreithiau cyfiawn. (Eseia 1:15, 16) Nid ydy Duw wedi newid. (Malachi 3:6) Os ydyn ni eisiau i Dduw ateb ein gweddïau, mae’n rhaid i ni wneud ein gorau i ddilyn ei gyfreithiau yn ein bywydau. Ond beth os ydyn ni wedi pechu yn y gorffennol? Ydy hynny’n golygu na fydd Jehofa byth yn gwrando arnon ni? Dim o gwbl! Bydd Duw yn maddau inni os ydyn ni’n newid cwrs ein bywyd a gwneud ein gorau i’w blesio.—Actau 3:19.