Neidio i'r cynnwys

Neidio i'r cynnwys

Sut Gallwch Chi Fyw Mewn Byd Newydd?

Sut Gallwch Chi Fyw Mewn Byd Newydd?

Mae’r erthyglau blaenorol wedi dangos y bydd Duw yn dod â’r system ddrygionus hon, a’i holl broblemau, i ben yn fuan. Gallwn fod yn sicr y bydd hynny’n digwydd. Pam? Am fod Gair Duw, y Beibl, wedi addo:

“Mae’r byd yn mynd heibio.”—1 IOAN 2:17.

Gallwn ni fod yn sicr y bydd rhai yn goroesi oherwydd mae’r adnod uchod hefyd yn addo:

“Mae’r sawl sy’n gwneud beth mae Duw eisiau yn byw am byth.”

Felly, mae gwneud ewyllys Duw yn allweddol er mwyn goroesi. I wybod beth yw ewyllys Duw, mae’n rhaid inni ddod i’w adnabod yn gyntaf.

GOROESI’R DIWEDD DRWY DDOD I ADNABOD DUW

Dywedodd Iesu: “Dyma beth sy’n arwain i fywyd tragwyddol, eu bod nhw’n dod i dy adnabod di, yr unig wir Dduw.” (Ioan 17:3) Er mwyn goroesi’r diwedd a byw am byth, mae’n rhaid inni ddod i adnabod Duw. Mae hynny’n golygu mwy na dim ond cydnabod bod Duw yn bodoli, neu wybod ychydig o ffeithiau amdano. Mae angen bod yn ffrindiau ag ef. Rydyn ni angen treulio amser gyda’n ffrindiau os ydyn ni eisiau i’r berthynas honno fod yn gryf. Mae’r un peth yn wir am ein perthynas â Duw. Ystyriwch rai gwirioneddau pwysig rydyn ni’n eu dysgu o’r Beibl sy’n ein helpu ni i feithrin perthynas â Duw ac i aros yn ffrind iddo.

DARLLEN GAIR DUW, Y BEIBL, BOB DYDD

Gallwch chi oroesi diwedd y byd hwn drwy weddïo am help Duw a gwneud ei ewyllys

Rydyn ni’n bwyta bwyd yn rheolaidd er mwyn aros yn fyw. Ond dywedodd Iesu: “Mae’n rhaid i ddyn fyw, nid ar fara yn unig, ond ar bob gair sy’n dod o geg Jehofa.”—Mathew 4:4.

Heddiw, cawn hyd i bopeth mae Duw’n ei ddweud yn nhudalennau’r Beibl. Wrth ichi astudio’r llyfr sanctaidd hwnnw, byddwch chi’n dysgu beth mae Jehofa wedi ei wneud yn y gorffennol, beth mae’n ei wneud nawr, a beth bydd yn ei wneud yn y dyfodol.

GWEDDÏO AR DDUW AM HELP

Beth gallwch chi ei wneud os ydych chi eisiau bod yn ufudd i Dduw, ond yn ei chael hi’n anodd stopio gwneud pethau sy’n mynd yn groes i’w ewyllys? Yn yr achos hwnnw, gall dod i adnabod Duw eich helpu mewn ffordd arbennig iawn.

Ystyriwch ddynes gwnawn ni ei galw’n Sakura a oedd yn byw bywyd anfoesol. Pan ddechreuodd hi astudio’r Beibl, gwnaeth hi ddysgu am orchymyn Duw: “Ffowch oddi wrth anfoesoldeb rhywiol.” (1 Corinthiaid 6:18) Gweddïodd Sakura ar Dduw am nerth, a llwyddodd i roi’r gorau i’w harferion drwg. Ond mae hi’n brwydro temtasiynau hyd heddiw. “Os ydy pethau anfoesol yn codi yn fy meddwl,” meddai, “dw i’n siarad yn gwbl agored â Jehofa mewn gweddi, gan wybod fedra i ddim brwydro yn erbyn hyn ar fy mhen fy hun. Dw i’n agosach at Jehofa oherwydd grym gweddi.” Fel Sakura, mae miliynau yn dod i adnabod Duw. Mae ef yn rhoi iddyn nhw’r nerth maen nhw ei angen i wneud newidiadau yn eu bywydau, ac i fyw mewn ffordd sy’n ei blesio.—Philipiaid 4:13.

Y mwyaf rydych chi’n dod i adnabod Duw, y mwyaf byddwch chi’n cael “eich adnabod gan Dduw” fel ffrind gwerthfawr. (Galatiaid 4:9; Salm 145:18) Yna, byddwch chi’n gallu goroesi i fyd newydd Duw. Ond sut le fydd y byd newydd hwnnw? Bydd yr erthygl nesaf yn esbonio.

a Jehofa ydy enw Duw, fel mae’r Beibl yn dangos.