Rydyn Ni Angen Byd Gwell!
“Rydyn ni’n byw mewn byd llawn problemau,” meddai António Guterres, ysgrifennydd cyffredinol y Cenhedloedd Unedig. Mae’n siŵr eich bod chi’n cytuno.
Mae’r newyddion yn llawn adroddiadau erchyll:
Clefydau a phandemigau
Trychinebau naturiol
Tlodi a newyn
Llygredd a chynhesu byd-eang
Trosedd, trais, ac anonestrwydd
Rhyfeloedd
Yn amlwg, rydyn ni angen byd gwell, un lle mae ’na:
Iechyd perffaith
Diogelwch i bawb
Digonedd o fwyd
Amgylchedd glân
Cyfiawnder i bawb
Heddwch byd-eang
Ond beth rydyn ni’n ei olygu wrth sôn am fyd gwell?
Beth fydd yn digwydd i’r byd rydyn ni’n byw ynddo nawr?
Beth gallwn ni ei wneud i fyw mewn byd gwell?
Bydd y rhifyn hwn o’r Tŵr Gwylio yn esbonio atebion cysurlon y Beibl i’r cwestiynau hyn a rhai tebyg.