Trechu’r Gelyn, Marwolaeth—Sut?
NID YW pwrpas Duw ar gyfer y ddaear wedi newid er gwaetha’r ffaith fod anufudd-dod ein rhieni cyntaf, Adda ac Efa, wedi dod â phechod a marwolaeth i’r ddynoliaeth. Mae Duw, drwy ei Air y Beibl, wedi cadarnhau droeon nad yw ei bwrpas wedi newid.
-
“Y mae’r cyfiawn yn etifeddu’r tir, ac yn cartrefu ynddo am byth.”—Salm 37:29, Beibl Cymraeg Diwygiedig.
-
“Bydd marwolaeth wedi’i lyncu am byth. Bydd fy Meistr, yr ARGLWYDD, yn sychu’r dagrau oddi ar bob wyneb.”—Eseia 25:8.
-
“A’r gelyn olaf i gael ei ddinistrio fydd marwolaeth.”—1 Corinthiaid 15:26.
-
“Fydd dim marwolaeth o hyn ymlaen, dim galaru, dim wylo, dim poen.”—Datguddiad 21:4.
Sut bydd Duw yn ‘llyncu marwolaeth,’ gan ei dinistrio? Er i’r Beibl ddangos yn glir y bydd y “cyfiawn” yn byw “am byth,” mae hefyd yn dweud: “Nid oes neb cyfiawn ar y ddaear sydd bob amser yn gwneud daioni.” (Pregethwr 7:20, BCND) Ydy hyn yn golygu bydd Duw yn cefnu ar ei safonau er mwyn i bobl fyw am byth? Mae’n amhosib credu hynny gan fod “Duw ddim yn gallu dweud celwydd!” (Titus 1:2) Sut, felly, bydd Duw yn cyflawni ei bwrpas cariadus ar gyfer dynolryw?
BYDD DUW YN ‘LLYNCU MARWOLAETH AM BYTH.’—ESEIA 25:8
TRECHU MARWOLAETH DRWY DALU PRIDWERTH
Oherwydd ei gariad mawr, trefnodd Jehofa Dduw i achub dynolryw rhag crafangau marwolaeth drwy dalu pridwerth. Yn syml, pridwerth yw rhywbeth a roddir i gyfateb i gost difrod neu i fodloni gofynion cyfiawnder. Gan fod yr holl ddynolryw o dan ddedfryd marwolaeth, mae’r Beibl yn dweud yn blaen: “All dyn ddim ei ryddhau ei hun, na thalu i Dduw i’w ollwng yn rhydd! (Mae pris bywyd yn rhy uchel; waeth iddo adael y mater am byth!)”—Salm 49:7, 8.
Pan fydd person amherffaith yn marw, dim ond am ei bechodau ei hun mae’n gallu talu; nid yw’n gallu ei achub ei hun, na thalu am bechodau rhywun arall. (Rhufeiniaid 6:7) Roedden ni angen i berson heb bechod aberthu ei fywyd, nid dros ei bechodau ei hun, ond dros ein pechodau ni.—Hebreaid 10:1-4.
Dyna’n union beth wnaeth Jehofa ei drefnu. Anfonodd ei Fab, Iesu, o’r nefoedd i gael ei eni yn ddyn perffaith, heb bechod. (1 Pedr 2:22) Dywedodd Iesu, “Des i fel gwas i aberthu fy mywyd er mwyn talu’r pris i ryddhau llawer o bobl.” (Marc 10:45) Bu farw Iesu er mwyn trechu marwolaeth ac er mwyn i ni gael byw.—Ioan 3:16.
PRYD CAIFF MARWOLAETH EI THRECHU?
Heddiw, fel y proffwydodd y Beibl, rydyn ni’n byw mewn “adegau ofnadwy o anodd,” sy’n profi bod “cyfnod olaf” y drefn ddrygionus hon wedi cyrraedd. (2 Timotheus 3:1) Diwedd y cyfnod olaf fydd “dydd y farn, pan fydd pobl annuwiol yn cael eu dinistrio.” (2 Pedr 3:3, 7) Ond, ar y llaw arall, bydd y rhai sy’n caru Duw yn goroesi ac yn cael eu bendithio â bywyd tragwyddol.—Mathew 25:46.
Ar ôl cael eu hatgyfodi, bydd miliynau yn cael y cyfle i fyw am byth. Pan aeth Iesu i ddinas Nain, dangosodd fod atgyfodiad yn bosib. Bu farw unig fab gwraig weddw, a chan ei fod “yn teimlo Luc 7:11-15) Yn ogystal, dywedodd yr apostol Paul: “Dw i’n credu bod Duw yn mynd i ddod â phobl sy’n gyfiawn yn ei olwg a phobl ddrwg yn ôl yn fyw.” Mae’r gobaith cadarn hwnnw yn dangos cariad rhyfeddol Duw tuag at y ddynoliaeth.—Actau 24:15.
drosti,” atgyfododd Iesu ei mab. (Gall biliynau edrych ymlaen at fyw am byth. Dywed y Beibl: “Y rhai cyfiawn a etifeddant y ddaear, ac a breswyliant ynddi yn dragywydd.” (Salm 37:29, Beibl Cysegr-lân) Bryd hynny, byddan nhw’n profi cyflawniad y geiriau calonogol a ysgrifennodd yr apostol Paul yn y ganrif gyntaf: “O farwolaeth! Ble mae dy fuddugoliaeth di? O farwolaeth! Ble mae dy bigiad marwol di?” (1 Corinthiaid 15:55) Bydd marwolaeth, ein gelyn arswydus, wedi ei threchu!