Neidio i'r cynnwys

Neidio i'r cynnwys

Pam Mae Hanes Eden yn Bwysig i Chi

Pam Mae Hanes Eden yn Bwysig i Chi

Pam Mae Hanes Eden yn Bwysig i Chi

MAE rhai pobl yn cael hi’n anodd credu yn hanes gardd Eden am eu bod nhw’n dweud nad ydy gweddill y Beibl yn sôn amdano. Er enghraifft, mae’r Athro Astudiaethau Crefyddol Paul Morris yn ysgrifennu: “Does ’na ddim cyfeiriadau uniongyrchol at hanes Eden yn y Beibl hwyrach ymlaen.” Er bod rhai “arbenigwyr” yn cytuno ag ef, mae hyn yn mynd yn gwbl groes i’r ffeithiau.

Mewn gwirionedd mae’r Beibl yn cyfeirio yn aml at ardd Eden, Adda, Efa, a’r neidr. * Mae camgymeriad ychydig o ysgolheigion yn fach i gymharu â chamgymeriad llawer mwy difrifol. Drwy fynd ati’n amharchus i danseilio hanes Eden yn Genesis, mae arweinwyr crefyddol a beirniaid y Beibl mewn gwirionedd yn ymosod ar y Beibl ei hun. Sut felly?

Mae deall beth ddigwyddodd yn Eden yn hanfodol ar gyfer deall gweddill y Beibl. Er enghraifft, mae Gair Duw wedi ei llunio i’n helpu ni i gael atebion i’r cwestiynau dyfnaf a mwyaf pwysig gall pobl eu hwynebu. Dro ar ôl tro mae atebion y Beibl i’r cwestiynau hynny yn cyfeirio at bethau a ddigwyddodd yng ngardd Eden. Ystyriwch rai enghreifftiau.

Pam ydyn ni’n mynd yn hen ac yn marw? Roedd Adda ac Efa i fyw am byth petasen nhw’n cadw’n ufudd i Jehofa. Dim ond petasen nhw’n gwrthryfela y bydden nhw’n marw. Y diwrnod wnaethon nhw wrthryfela dechreuon nhw farw. (Genesis 2:16, 17; 3:19) Collon nhw berffeithrwydd ac o hynny allan dim ond pechod ac amherffeithrwydd oedden nhw’n gallu pasio ymlaen i’w plant. Fel hyn mae’r Beibl yn esbonio: “Daeth pechod i’r byd drwy un dyn, a marwolaeth o ganlyniad i hynny. Ac mae pawb yn marw, am fod pawb wedi pechu.”—Rhufeiniaid 5:12.

Pam mae Duw yn caniatáu drygioni? Yng ngardd Eden, cyhuddodd Satan Dduw o ddweud celwydd ac o gadw pethau da oddi wrth fodau dynol. (Genesis 3:3-5) Drwy wneud hynny, roedd yn cwestiynu cyfiawnder ffordd Jehofa o reoli. Dewisodd Adda ac Efa i ddilyn Satan; felly, yn yr un modd wnaethon nhw wrthod sofraniaeth Jehofa ac, mewn ffordd, wnaethon nhw honni bod dyn yn gallu penderfynu drosto ei hun beth sy’n dda a beth sy’n ddrwg. Yn ei gyfiawnder a’i ddoethineb perffaith, roedd Jehofa’n gwybod mai dim ond un ffordd oedd ’na i ateb yr her yn iawn—caniatáu i amser fynd heibio, gan roi cyfle i bobl reoli eu hunain yn ôl eu dewis eu hunain. Mae’r drygioni a ddaeth yn ei sgil, wedi dod yn rhannol oherwydd dylanwad parhaol Satan ac mae hyn wedi dod â gwirionedd mawr i’r amlwg, sef: Mae dyn yn methu’n glir â’i reoli ei hun heb Dduw.—Jeremeia 10:23.

Beth yw pwrpas Duw ar gyfer y ddaear? Yng ngardd Eden, gosododd Jehofa safon harddwch ar gyfer y ddaear. Gorchmynnodd Adda ac Efa, ‘llanwch y ddaear gyda’ch plant’ a “darostyngwch hi” er mwyn dod â’r un mesur o harddwch a harmoni i’r blaned i gyd. (Genesis 1:28, Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig) Felly, pwrpas Duw ar gyfer y ddaear yw iddi fod yn baradwys, gyda theulu unedig perffaith o ddisgynyddion Adda ac Efa yn byw ynddi. Mae rhan helaeth o’r Beibl yn trafod y ffordd y bydd Duw yn cyflawni’r pwrpas gwreiddiol hwnnw.

Pam daeth Iesu Grist i’r ddaear? Daeth y gwrthryfel yng ngardd Eden â dedfryd marwolaeth ar Adda ac Efa a’u holl ddisgynyddion, ond darparodd Duw obaith. Anfonodd ei Fab i’r ddaear i roi beth mae’r Beibl yn ei alw’n bridwerth. (Mathew 20:28) Beth mae hyn yn ei olygu? Wel, Iesu oedd yr “Adda olaf”; llwyddodd Iesu lle methodd Adda. Cadwodd Iesu ei fywyd dynol perffaith drwy fod yn ufudd i Jehofa. Yna, o’i wirfodd, rhoddodd ei fywyd yn aberth, neu bridwerth. Rhoddodd hyn y modd i fodau dynol ffyddlon gael maddeuant am eu pechodau ac, yn y pen draw, cael y math o fywyd roedd Adda ac Efa yn ei fwynhau yn Eden cyn iddyn nhw bechu. (1 Corinthiaid 15:22, 45; Ioan 3:16) Rhoddodd Iesu sicrwydd y bydd pwrpas Jehofa i droi’r ddaear yn baradwys fel Eden yn dod yn wir. *

Dydy pwrpas Duw ddim yn niwlog, nac yn rhyw ddamcaniaeth ddiwinyddol chwaith. Mae’n glir ac yn real. Fel roedd gardd Eden yn lle go iawn ar y ddaear, gydag anifeiliaid go iawn a phobl go iawn, felly mae addewid Duw ar gyfer y dyfodol yn ffaith, ac yn realiti a fydd yn dod yn fuan. A fydd hi’n ddyfodol i chi, eich realiti chi? Wel, mae llawer yn dibynnu arnoch chi. Mae Duw eisiau’r dyfodol hwnnw ar gyfer cymaint o bobl ag sy’n bosib, hyd yn oed ar gyfer y rhai y mae pethau wedi mynd o chwith iddyn nhw yn eu bywydau.—1 Timotheus 2:3, 4.

Wrth i Iesu farw, siaradodd â dyn a oedd yn droseddwr ac yn haeddu marw. Mi drodd at Iesu am gysur ac am obaith. Beth oedd ymateb Iesu? “Cei di ddod gyda mi i baradwys.” (Luc 23:43) Os yw Iesu eisiau gweld y cyn-droseddwr hwnnw yno—wedi ei atgyfodi a’i fendithio gyda’r cyfle o fyw am byth—gallwch chi fod yn sicr fod Ef a’i Dad eisiau i chi fod yno hefyd. Os ydych chi eisiau’r dyfodol hwnnw i chi’ch hun, gwnewch bopeth a allwch chi i ddysgu am y Duw a wnaeth gardd Eden.

[Troednodiadau]

^ Par. 8 I ddysgu mwy am aberth pridwerthol Crist, gweler pennod 5 y llyfr Beth Mae’r Beibl yn ei Wir Ddysgu? a gyhoeddir gan Dystion Jehofa.

[Blwch/Lluniau]

PROFFWYDOLIAETH SY’N CLYMU’R BEIBL AT EI GILYDD

“Byddi di [y neidr] a’r wraig yn elynion. Bydd dy had di a’i had hi bob amser yn elynion. Bydd e’n sathru dy ben di, a byddi di’n taro ei sawdl e.”—Genesis 3:15.

Dyna broffwydoliaeth gyntaf y Beibl, a gafodd ei ynganu gan Dduw yn Eden. Pwy yw’r pedwar cymeriad: y wraig, ei had, y neidr, a’i had hi? Ym mha ffordd mae’r cymeriadau yn “elynion” i’w gilydd?

Y NEIDR

Satan y Diafol.—Datguddiad 12:9.

Y WRAIG

Cyfundrefn Jehofa o fodau nefol. (Galatiaid 4:26, 27) Siaradodd Eseia am “y wraig,” gan ragddweud y byddai hi’n rhoi genedigaeth i genedl ysbrydol yn y dyfodol.—Eseia 54:1; 66:8.

HAD Y NEIDR

Y rhai sy’n dewis gwneud ewyllys Satan.—Ioan 8:44.

HAD Y WRAIG

Yn bennaf Iesu Grist, a ddaeth o ran nefol cyfundrefn Jehofa. Mae brodyr ysbrydol Crist hefyd yn rhan o’r “had,” ac mae’r rhain yn rheoli yn y nefoedd gyda Christ. Mae’r Cristnogion eneiniog hynny yn genedl ysbrydol, sef “Israel Duw.”​—Galatiaid 3:16, 29; 6:16, BCND; Genesis 22:18.

BRIW’R SAWDL

Ergyd poenus i’r Meseia ond un wnaeth dim effeithio arno’n barhaol. Llwyddodd Satan i roi Iesu i farwolaeth. Cafodd Iesu ei atgyfodi.

BRIW’R PEN

Ergyd marwol i Satan. Bydd Iesu yn achosi Satan i fynd allan o fodolaeth am byth. Hyd yn oed cyn hynny, bydd Iesu yn dad-wneud y drygioni a ddechreuodd Satan yn Eden.—1 Ioan 3:8; Datguddiad 20:10.

Am grynodeb o brif thema’r Beibl, gweler y llyfryn Y Beibl—Beth Yw Ei Neges? a gyhoeddir gan Dystion Jehofa.

[Llun]

Roedd canlyniad pechod i Adda ac Efa yn drychinebus