Neidio i'r cynnwys

Mae’r Beibl yn Newid Bywydau

Mae’r Beibl yn Newid Bywydau

Mae’r Beibl yn Newid Bywydau

SUT cafodd ddynes ifanc gyda phlentyndod trasig hyd i wir ystyr mewn bywyd? Beth sbardunodd gwrthryfelwr treisgar i ddod yn weinidog heddychlon? Darllenwch yr hanesion hyn i ddod o hyd i’r atebion.

“O’n i’n crefu am gariad a chynhesrwydd.”—INNA LEZHNINA

GANWYD: 1981

GWLAD ENEDIGOL: RWSIA

HANES: PLENTYNDOD TRASIG

FY NGHEFNDIR: Ces i fy ngeni’n fyddar i rieni byddar. Roedd chwe blynedd cyntaf fy mywyd yn bleserus, yna ysgarodd fy rhieni. Er o’n i’n ifanc iawn roeddwn i’n deall beth oedd ysgariad yn ei olygu, ac roedd yn fy mrifo i’r byw. Ar ôl yr ysgariad, gwnaeth fy nhad a’m brawd hynaf aros yn Troitsk, ond aeth fy mam a minnau i fyw i Chelya­binsk. Mewn amser, gwnaeth hi ailbriodi. Roedd fy llystad yn alcoholig, ac mi fyddai’n curo fy mam a minnau yn aml.

Ym 1993, gwnaeth fy annwyl frawd, yr hynaf, foddi. Roedd y ddamwain yn ergyd fawr i’r teulu. Dechreuodd fy mam yfed, ac yn ogystal â fy llystad, dechreuodd hi fy ngham-drin hefyd. Dechreuais chwilio am fywyd gwell. O’n i’n crefu am gariad a chynhesrwydd. Dechreuais fynychu gwahanol eglwysi, yn edrych am gysur, ond chefais i ddim hyd iddo.

SUT NEWIDIODD Y BEIBL FY MYWYD: Pan o’n i’n 13 oed, gwnaeth cyd-ddisgybl, oedd yn un o Dystion Jehofa, adrodd straeon o’r Beibl imi. Gwnes i fwynhau dysgu am gymeriadau fel Noa a Job, a oedd yn gwasanaethu Duw er gwaethaf amgylchiadau anodd. Yn fuan roeddwn i’n astudio’r Beibl gyda’r Tystion ac yn mynychu eu cyfarfodydd.

Gwnaeth astudio’r Beibl agor fy llygaid i lawer o wirioneddau hardd. Mi wnes i ddysgu bod gan Dduw enw, a gwnaeth hynny gyffwrdd â nghalon. (Salm 83:18, Beibl Cysegr-lân) Gwnaeth y ffaith fod y Beibl wedi mynegi’r amodau a fyddai’n bodoli yn ystod y dyddiau diwethaf, greu cryn argraff arna i. (2 Timotheus 3:1-5) Ac roeddwn i wrth fy modd yn dysgu am obaith yr atgyfodiad. Meddyliwch—mi fyddaf yn gweld fy mrawd unwaith eto!—Ioan 5:28, 29.

Ond, nid pawb oedd yn rhannu fy llawenydd. Doedd fy mam a’m llystad ddim yn hoff iawn o Dystion Jehofa. Gwnaethon nhw roi pwysau arna i i roi’r gorau i astudio’r Beibl. Ond o’n i wrth fy modd efo’r hyn o’n i’n ei ddysgu, ac o’n i’n benderfynol o beidio stopio.

Doedd hi ddim yn hawdd ymdopi efo gwrthwynebiad fy nheulu. Ces i ergyd arall pan wnaeth fy mrawd iau, a oedd wedi dod efo fi i gyfarfodydd Tystion Jehofa, foddi hefyd. Eto roedd y Tystion wastad yno imi. Yn eu plith nhw, ces i hyd i’r cariad a’r cynhesrwydd o’n i wedi crefu amdano ar hyd fy mywyd. O’n i’n gwybod mai hwn oedd y gwir grefydd. Ym 1996, ces i fy medyddio yn un o Dystion Jehofa.

FY MENDITHION: Ers chwe blynedd dw i wedi bod yn briod i ddyn arbennig o’r enw Dmitry. ’Dyn ni’n gwasanaethu gyda’n gilydd yn swyddfa cangen Tystion Jehofa yn St. Petersburg. Mewn amser, gwnaeth agwedd fy rhieni tuag at fy nghrefydd feddalu.

Dw i mor ddiolchgar fy mod i’n adnabod Jehofa! Mae gwasanaethu ef wedi dod â gwir ystyr i fy mywyd.

“Roedd gen i lawer o gwestiynau oedd yn fy mhoeni.”—RAUDEL RODRÍGUEZ RODRÍGUEZ

GANWYD: 1959

GWLAD ENEDIGOL: CIWBA

HANES: GWRTHRYFELWR GWLEIDYDDOL

FY NGHEFNDIR: Ces i fy ngeni yn Havana, Ciwba, a ches i fy magu mewn cymdogaeth dlawd lle roedd gweld pobl yn cwffio yn y stryd yn beth cyffredin. Wrth imi dyfu i fyny wnes i feithrin diddordeb mewn jiwdo a chrefftau ymladd eraill.

Roeddwn i’n fyfyriwr da, a gwnaeth fy rhieni fy annog i fynd i’r brifysgol. Yno, gwnes i ddechrau teimlo bod system wleidyddol y wlad angen newid. Gwnes i benderfynu gwrthryfela. Gwnaeth cyd-ddisgybl a minnau ymosod ar swyddog yr heddlu, yn y gobaith o ddwyn ei wn oddi arno. Fel canlyniad, cafodd y swyddog ei anafu’n ddifrifol yn ei ben. Cafodd fy ffrind a minnau ein carcharu am yr ymosodiad a’n dedfrydu i farwolaeth gan fintai saethu. Dim ond 20 mlwydd oed oeddwn i, ac o’n i ar fin marw!

Yn unigedd fy nghell wnes i ymarfer sut roeddwn i’n mynd i ymddwyn o flaen y fintai saethu. Doeddwn i ddim eisiau dangos unrhyw ofn. Ond ar yr un pryd, roedd gen i lawer o gwestiynau yn fy mhoeni. Gwnes i feddwl i fi fy hun: ‘Pam mae ’na gymaint o anghyfiawnder yn y byd? Ai’r bywyd hwn yw’r cyfan sydd?’

SUT NEWIDIODD Y BEIBL FY MYWYD: Cafodd ein dedfryd o farwolaeth ei lleihau i 30 mlynedd o garchar. Dyma’r adeg wnes i gwrdd â rhai o Dystion Jehofa oedd yn y carchar am eu daliadau crefyddol. Creodd ymddygiad dewr a heddychlon y Tystion argraff arna i. Er eu bod nhw wedi cael eu carcharu ar gam, doedden nhw ddim yn dal dig nac yn chwerw.

Ces i fy nysgu gan y Tystion fod gan Dduw bwrpas ar gyfer dynolryw. Gwnaethon nhw ddangos imi o’r Beibl y bydd ef yn trawsffurfio’r ddaear i baradwys rhydd rhag trosedd ac anghyfiawnder. Mi wnes i ddysgu ganddyn nhw y bydd y ddaear yn cael ei llenwi â phobl dda, a bydd y cyfle ganddyn nhw i fyw am byth mewn amgylchiadau perffaith.—Salm 37:29.

Mi wnes i fwynhau beth roeddwn i’n ei ddysgu gan y Tystion, ond o’n i’n berson gwahanol iawn iddyn nhw. Roeddwn i’n meddwl y byddai bod yn niwtral mewn materion gwleidyddol neu droi’r foch arall yn amhosib imi. Felly wnes i benderfynu darllen y Beibl ar fy mhen fy hun. Erbyn imi orffen, roeddwn i’n sylweddoli mai Tystion Jehofa yw’r unig bobl sy’n ymddwyn fel y Cristnogion cynnar.

O astudio’r Beibl, roeddwn i’n gwybod byddai’n rhaid imi wneud newidiadau drastig yn fy mywyd. Er enghraifft, roedd angen imi lanhau fy ffordd o siarad, am fy mod i wastad yn defnyddio geiriau anweddus. Hefyd, roedd angen imi roi’r gorau i ysmygu. A byddai’n rhaid imi stopio cymryd ochr mewn dadleuon gwleidyddol. Doedd hi ddim yn hawdd gwneud y newidiadau hyn, ond o dipyn i beth, gyda help Jehofa, wnes i lwyddo.

Un o’r newidiadau anoddaf oedd dysgu sut i reoli fy nhymer. Hyd heddiw, dw i’n dal i weddïo am hunanreolaeth. Dw i wedi cael fy helpu’n fawr gan adnodau fel Diarhebion 16:32, sy’n dweud: “Mae ymatal yn well nag ymosod, a rheoli’r tymer yn well na choncro dinas.”

Ym 1991, ces i fy medyddio’n un o Dystion Jehofa. Cafodd y bedydd ei wneud mewn casgen o ddŵr yn y carchar. Y flwyddyn wedyn, ces i a rhai o’r carcharorion eraill ein rhyddhau a’n hanfon i Sbaen am fod gynnon ni berthnasau yno. Wrth gyrraedd Sbaen, dechreuais fynychu cyfarfodydd Tystion Jehofa yn syth. Gwnaeth y Tystion fy nghroesawu fel petaswn ni wedi bod yn eu mysg nhw ers blynyddoedd, ac mi wnaethon nhw fy helpu i ddechrau fy mywyd o’r newydd.

FY MENDITHION: Dw i’n ddyn hapus, yn gwasanaethu Duw gyda’m gwraig a’n merched. Mae gen i’r fraint o helpu eraill i ddysgu am y Beibl. Weithiau bydda i’n cael atgofion o’r dyn ifanc hwnnw oedd ar fin marw, a dw i’n gwerthfawrogi gymaint dw i ar fy ennill ers hynny. Nid yn unig ydw i’n fyw, ond mae gen i obaith hefyd. Dw i’n edrych ymlaen at y Baradwys i ddod—at yr amser pan fydd cyfiawnder yn arglwyddiaethu a phan “fydd dim marwolaeth” bellach.—Datguddiad 21:3, 4.

[Broliant]

“Mi wnes i ddysgu bod gan Dduw enw, a gwnaeth hynny gyffwrdd â nghalon”

[Broliant]

Mae fy ngŵr a minnau yn mwynhau rhannu cyhoeddiadau iaith arwyddion gyda’r byddar