Neidio i'r cynnwys

Mae’r Beibl yn Newid Bywydau

Mae’r Beibl yn Newid Bywydau

Mae’r Beibl yn Newid Bywydau

SUT gwnaeth dynes ifanc heb unrhyw ddiddordeb yn Nuw a gyda gyrfa addawol ddod o hyd i wir bwrpas mewn bywyd? Beth ddysgodd dyn ifanc Catholig am farwolaeth a wnaeth iddo newid cwrs ei fywyd? Beth oedd dyn ifanc oedd wedi ei dadrithio â bywyd ddysgu am Dduw a’i ysgogi i ddod yn weinidog Cristnogol? Darllenwch beth sydd gan y bobl ganlynol i’w ddweud.

“Am Flynyddoedd o’n I’n Gofyn i Fi Fy Hun, ‘Pam ’Dyn Ni Yma?’”ROSALIND JOHN

GANWYD: 1963

GWLAD ENEDIGOL: PRYDAIN

HANES: DILYN GYRFA LEWYRCHUS

FY NGHEFNDIR: Ces i fy ngeni yn Croydon, De Llundain, y chweched o naw o blant. Daeth fy rhieni yn wreiddiol o ynys San Finsent yn y Caribî. Roedd fy mam yn mynd i eglwys Fethodistaidd. Doedd gen i ddim diddordeb mewn dysgu am Dduw, er bod gen i awydd mawr i ddysgu pethau newydd. Byddwn yn treulio fy ngwyliau ysgol ar lan llyn cyfagos, yn darllen nifer o lyfrau o’n i wedi benthyg o’r llyfrgell.

Rai blynyddoedd ar ôl gadael yr ysgol, wnes i sylweddoli mod i eisiau helpu pobl fregus. Wnes i ddechrau gweithio gyda’r di-gartref a’r rhai gydag anableddau corfforol a dysgu. Yna dilynais i gwrs prifysgol mewn gwyddorau iechyd. Wedi imi raddio, yn annisgwyl ges i gyfres o swyddi eithaf uchel eu statws, a oedd yn fy ngalluogi i fyw bywyd mwy a mwy moethus. Fel ymchwiliwr cymdeithasol ac ymgynghorydd llawrydd i reolwyr , y cwbl o’n i angen ar gyfer fy ngwaith oedd fy ngliniadur a mynediad i’r We. Byddwn i’n hedfan tramor am ychydig wythnosau ar y tro, aros yn fy hoff westy, mwynhau’r golygfeydd hardd, a defnyddio’r sba a’r gampfa i gadw’n heini. Yn fy meddwl i dyma oedd bywyd. Ond wnes i erioed golli fy nghonsýrn tuag at bobl ddifreintiedig.

SUT NEWIDIODD Y BEIBL FY MYWYD: Am flynyddoedd o’n i’n gofyn i fi fy hun, ‘Pam ’dyn ni yma, a beth yw pwrpas bywyd?’ Ond wnes i erioed geisio cael hyd i atebion o’r Beibl. Un diwrnod ym 1999, daeth fy chwaer ifancaf Margaret, a oedd wedi dod yn un o Dystion Jehofa, i fy ngweld i gyda’i ffrind oedd yn Dyst, a dangosodd honno ddiddordeb personol yno i. Ymhen dim o’n i wedi cytuno i astudio’r Beibl gyda ffrind fy chwaer, ond araf iawn oedd fy nghynnydd, gan fod fy ngyrfa a’m ffordd o fyw yn cael y flaenoriaeth.

Yn haf 2002, symudais i dde-orllewin Lloegr. Yno, cychwynnais gwrs gradd ôl-raddedig yn y brifysgol mewn ymchwil cymdeithasol, gyda’r nod o gael doethuriaeth. Wnes i ddechrau mynd i gyfarfodydd yn Neuadd y Deyrnas yn fwy rheolaidd gyda fy mab ifanc. Er oeddwn i’n mwynhau addysg uwch, roedd fy astudiaeth o’r Beibl yn dod â dealltwriaeth well imi o broblemau bywyd a sut i’w datrys nhw. Des i ddeall gwirionedd Mathew 6:​24, sy’n dweud, “Does neb yn gallu gweithio i ddau feistr gwahanol ar yr un pryd.” Roedd rhaid dewis rhwng Duw neu gyfoeth. O’n i’n gwybod y byddai rhaid imi wneud penderfyniad ynglŷn â fy mlaenoriaethau mewn bywyd.

Y flwyddyn cynt, o’n i wedi ymuno’n aml â grŵp astudio’r Beibl mewn cartref lle roedd y Tystion yn astudio’r llyfr Is There a Creator Who Cares About You? a Roedd hynny’n ddigon i fy narbwyllo mai’r Creawdwr, Jehofa, yn unig sydd â’r ateb i broblemau dynolryw. Nawr, yn y brifysgol, o’n i’n cael fy nysgu bod ystyr bywyd ddim yn cynnwys cred mewn Creawdwr. O’n i’n gandryll. Ar ôl deuddydd, wnes i roi’r gorau i fy nghwrs prifysgol a phenderfynu rhoi mwy o amser i bethau ysbrydol.

Yr adnod a’m cymhellodd i newid fy ffordd o fyw oedd Diarhebion 3:5, 6: “Trystia’r ARGLWYDD yn llwyr; paid dibynnu ar dy syniadau dy hun. Gwrando arno fe bob amser, a bydd e’n dangos y ffordd iawn i ti.” Roedd dysgu am ein Duw cariadus yn fwy buddiol nag unrhyw gyfoeth materol a statws y byddai doethuriaeth yn ei roi. Mwya’n byd o’n i’n dysgu am bwrpas Jehofa ar gyfer y ddaear a rôl Iesu yn aberthu ei fywyd droston ni, mwya’n byd o’n i eisiau cysegru fy mywyd i’n Creawdwr. Ces i fy medyddio yn Ebrill 2003. Wedi hynny es i ati’n raddol i symlhau fy mywyd.

FY MENDITHION: Mae fy mherthynas â Jehofa yn amhrisiadwy. Dw i wedi cael heddwch mewnol a llawenydd o’i adnabod. Mae cymdeithasu â gwir addolwyr Duw wedi dod â llawer o hapusrwydd imi.

Mae fy syched am wybodaeth yn dal i gael ei ddiwallu gan yr hyn dw i’n ei ddysgu o’r Beibl ac yn y cyfarfodydd Cristnogol. Dw i’n mwynhau rhannu fy ffydd ag eraill. Mae hyn wedi dod yn yrfa imi, un y galla i helpu pobl eraill ynddi, a’u helpu nhw i brofi bywyd gwell nawr a chael gobaith arbennig o fywyd yn y byd newydd. Ers Mehefin 2008, dw i wedi bod yn rhannu yn y weinidogaeth lawn amser, a dw i’n hapusach ac yn fwy bodlon fy myd nac erioed o’r blaen. Dw i wedi cael hyd i wir bwrpas bywyd, a dw i’n diolch i Jehofa o waelod fy nghalon am hynny.

“Roedd Colli Fy Ffrind yn Ergyd Drom Imi.”ROMAN IRNESBERGER

GANWYD: 1973

GWLAD ENEDIGOL: AWSTRIA

HANES: GAMBLWR

FY NGHEFNDIR: Ces i fy magu mewn tref fach o’r enw Braunau, yn Awstria. Roedd hi’n ardal gyfoethog gydag ychydig iawn o droseddu. Catholigion oedd fy nheulu a ches i fy magu yn y grefydd honno.

Cafodd ddigwyddiad yn fy mhlentyndod effaith fawr arna i. Ym 1984, pan o’n i tua un ar ddeg oed, dw i’n cofio chwarae pêl-droed gydag un o fy ffrindiau agos. Hwyrach ymlaen yr un prynhawn, cafodd ei ladd mewn damwain car. Roedd colli fy ffrind yn ergyd drom imi. Am flynyddoedd wedi’r damwain, o’n i’n meddwl beth sy’n digwydd inni pan ’dyn ni’n marw.

Ar ôl gadael yr ysgol, gwnes i weithio fel trydanwr. Er imi fod yn gamblwr cyson a chwarae am symiau mawr doedd gen i ddim problemau ariannol. Hefyd wnes i dreulio llawer o amser ar chwaraeon a wnes i feithrin diddordeb mewn cerddoriaeth metel trwm a phync roc. Roedd bywyd yn un disgo ar ôl y llall a llawer o bartïon. Mynd ar ôl pleser oedd nod fy mywyd, a bywyd digon anfoesol oedd hwnnw, ond oedd hynny yn gwneud imi deimlo’n wag.

SUT NEWIDIODD Y BEIBL FY MYWYD: Ym 1995, daeth Tyst oedrannus at fy nrws a chynnig llyfr a oedd yn trafod ateb y Beibl i’r cwestiwn, Beth sydd yn digwydd ar ôl marwolaeth? Roedd marwolaeth drist fy ffrind yn dal ar fy meddwl, felly wnes i dderbyn y llyfr. Wnes i ddarllen nid yn unig y bennod am farwolaeth, ond y llyfr cyfan!

Gwnaeth beth ddarllenais i ateb fy nghwestiynau am farwolaeth. Ond wnes i ddysgu llawer mwy. Gan fy mod i wedi cael fy nghodi yn Gatholig, roedd Iesu’n rhan ganolog o’m ffydd. Ond, gwnaeth fy astudiaeth ofalus o’r Beibl fy helpu i feithrin perthynas glòs â Thad Iesu, Jehofa Dduw. Roedd yn ddiddorol dysgu nad ydy Jehofa yn gyfrinachol a thu hwnt i’n cyrraedd, ond mae’n ein hannog ni i ddod i’w adnabod. Dysgais fod gan Jehofa deimladau. (Mathew 7:​7-​11) Dysgais hefyd ei fod wastad yn cadw ei air. Gwnaeth hynny arwain at ddiddordeb dwys ym mhroffwydoliaethau’r Beibl, a fy sbarduno i ymchwilio pellach i’w cyflawniad. Gwnaeth yr hyn roeddwn i wedi ei ddarganfod gryfhau fy ffydd yn Nuw.

Sylweddolais i’n fuan mai Tystion Jehofa oedd yr unig rhai o’n i’n ei adnabod oedd â diddordeb diffuant mewn helpu pobl i ddeall y Beibl. Pan o’n i’n dod ar draws adnodau yn llenyddiaeth y Tystion, byddwn i’n chwilio amdanyn nhw yn y Beibl Catholig. Mwya’n y byd o’n i’n ymchwilio, mwya’n y byd o’n i’n sylweddoli fy mod i wedi cael hyd i’r gwirionedd.

Gwnaeth fy astudiaeth o’r Beibl fy nysgu bod Jehofa yn disgwyl imi fyw yn ôl ei safonau. O’r hyn a ddarllenais i yn Effesiaid 4:22-24, o’n i’n gallu gweld fod rhaid imi gael gwared â fy “hen ffordd” o fyw, a oedd “wedi ei lygru gan chwantau twyllodrus,” a bod rhaid imi wisgo “natur o fath newydd—natur sydd wedi ei fodelu ar gymeriad Duw.” Felly, rhois i’r gorau i fy mywyd anfoesol. Hefyd, wnes i weld yr angen i roi’r gorau i gamblo, gan fod hwnnw yn annog materoliaeth a thrachwant. (1 Corinthiaid 6:9, 10) Er mwyn gwneud y newidiadau hynny, o’n i’n gwybod y byddai’n rhaid imi stopio gweld fy hen ffrindiau, a chwilio am ffrindiau newydd a oedd yn rhannu fy safonau.

Doedd y newidiadau hynny ddim yn hawdd, ond wnes i ddechrau mynd i’r cyfarfodydd gyda’r Tystion yn Neuadd y Deyrnas a dechrau gwneud ffrindiau newydd yn y gynulleidfa leol. Hefyd, wnes i barhau i astudio’r Beibl yn drylwyr ar fy mhen fy hun. Gwnaeth y camau hynny newid y gerddoriaeth o’n i’n hoffi gwrando arni, newid fy mhwrpas mewn bywyd, a rhoi mwy o sylw i fy ngwisg a thrwsiad. Ym 1995, ges i fy medyddio’n un o Dystion Jehofa.

FY MENDITHION: Erbyn hyn, mae gen i agwedd mwy cytbwys tuag at arian a phethau materol. O’n i’n arfer bod yn fyr fy nhymer, ond bellach dw i wedi dysgu rheoli fy nhymer yn well. A hefyd, dydw i ddim bellach yn poeni’n ormodol am y dyfodol.

Dw i wrth fy modd bod yn rhan o grŵp rhyngwladol o bobl sy’n gwasanaethu Jehofa. Yn eu plith, dw i’n gweld pobl sy’n stryffaglu gyda phroblemau, ond maen nhw’n dal i wasanaethu Duw yn ffyddlon. Dw i mor hapus fy mod i bellach yn treulio fy amser ac egni yn addoli Jehofa ac yn gwneud da i eraill, yn hytrach na bodloni fy chwantau fy hun.

“O’r Diwedd, Mae ’na Bwrpas i Fy Mywyd.”—IAN KING

GANWYD: 1963

GWLAD ENEDIGOL: LLOEGR

HANES: WEDI DADRITHIO GYDA BYWYD

FY NGHEFNDIR: Ges i fy ngeni yn Lloegr, ond pan o’n i’n tua saith oed, symudodd y teulu i Awstralia. Gwnaethon ni ymgartrefu ar y Gold Coast, lle poblogaidd i dwristiaid yn Queensland, Awstralia. Er nad oedd fy nheulu yn gyfoethog, roedd gynnon ni bopeth roedden ni eu hangen.

Er fy magwraeth gyfforddus, do’n i erioed yn teimlo’n hollol hapus. Ges i fy nadrithio gyda bywyd. Roedd fy nhad yn yfed yn drwm. Doedden ni erioed wedi teimlo’n agos ato, gan mwyaf oherwydd ei ddiota a’r ffordd roedd o’n trin fy mam. Dim ond wedyn, pan ddysgais am y profiadau a gafodd o fel milwr ym Malaia, dechreuais i ddeall pam oedd o’n ymddwyn fel y gwnaeth.

Pan o’n i yn yr ysgol uwchradd, wnes i ddechrau goryfed. Yn 16 oed, gadewais yr ysgol ac ymuno â’r llynges. Dechreuais i arbrofi gyda chyffuriau, ac es i’n gaeth i dybaco. Ar ben hynny, des i’n fwy ac yn fwy dibynnol ar alcohol. Es i o sesiynau yfed ar benwythnosau i wneud hynny bob dydd.

Yn fy arddegau hwyr a fy nauddegau cynnar, dechreuais i gwestiynu bodolaeth Duw. Wnes i resymu, ‘Os ydy Duw yn wir yn bodoli, pam mae’n gadael i bobl ddioddef a marw?’ Wnes i hyd yn oed ysgrifennu barddoniaeth yn rhoi’r bai ar Dduw am holl ddrygioni’r byd.

Yn 23 mlwydd oed, wnes i adael y llynges. Es i o un swydd i’r llall, a wnes i hyd yn oed deithio dramor am flwyddyn. Ond doedd dim byd yn lleddfu fy nigalondid. Doedd gen i ddim nod i anelu ato na’r awydd i gyflawni unrhyw beth penodol chwaith. Doedd dim byd yn apelio ata i. Roedd cael tŷ, swydd sefydlog ,a chael dyrchafiad, i gyd yn ymddangos braidd yn ddibwys. Fy unig “gysur” oedd yfed alcohol a gwrando ar gerddoriaeth.

Galla i gofio yn union pan deimlais yr awydd mwyaf i gael pwrpas yn fy mywyd. O’n i yng Ngwlad Pwyl, yn ymweld â’r gwersyll grynhoi drwg-enwog hwnnw yn Auschwitz. O’n i wedi darllen am y pethau erchyll oedd yn digwydd yno. Ond pan sefais yno a gweld pa mor enfawr oedd y gwersyll, gwnaeth hynny fy nghyffwrdd i’r byw. O’n i’n methu’n glir â deall pam oedd bodau dynol yn gallu bod mor greulon tuag at fodau dynol eraill. Dw i’n cofio cerdded o gwmpas y gwersyll gyda dagrau yn fy llygaid, yn gofyn, ‘Pam?’

SUT NEWIDIODD Y BEIBL FY MYWYD: Ym 1993, ar ôl dychwelyd o dramor, wnes i ddechrau darllen y Beibl gan chwilio am atebion. Yn fuan wedi hynny, daeth dau o Dystion Jehofa at y drws a fy ngwahodd i gynhadledd oedd yn cael ei chynnal mewn stadiwm gerllaw. Wnes i benderfynu mynd.

O’n i wedi bod i’r stadiwm honno ychydig o fisoedd ynghynt ar gyfer gêm, ond roedd y gwahaniaeth rhwng y ddau achlysur yn enfawr. Roedd y Tystion yn gwrtais, wedi eu gwisgo’n smart, ac roedd eu plant yn ymddwyn mor dda. A ges i fy syfrdanu gan yr hyn welais i amser cinio. Roedd cannoedd o Dystion yn bwyta eu cinio ar y maes chwarae. Ond pan aethon nhw yn ôl i’w seti, do’n i ddim yn gallu gweld yr un darn o sbwriel ar ôl ar y cae. Yn fwy ’na dim, roedd gan y bobl ’ma rhyw deimlad o fodlonrwydd a heddwch​—rhywbeth o’n i’n dyheu amdano. Alla i ddim cofio anerchiadau’r diwrnod hwnnw, ond mae ymddygiad y Tystion wedi aros yn glir yn fy nghof.

Y noson honno, wnes i feddwl am fy nghefnder a oedd yn darllen ac yn astudio gwahanol grefyddau. Flynyddoedd ynghynt, dywedodd wrtho i fod Iesu wedi dweud y byddwch chi’n gallu adnabod y gwir grefydd drwy ei ffrwythau. (Mathew 7:15-20) O’n i’n meddwl y dylwn i o leiaf edrych i weld beth oedd yn gwneud y Tystion mor wahanol. Am y tro cyntaf yn fy mywyd, o’n i’n gallu gweld ryw lygedyn o obaith am y dyfodol.

Yr wythnos ganlynol, daeth y ddau dyst oedd wedi fy ngwahodd i’r gynhadledd yn eu holau. Gwnaethon nhw gynnig astudiaeth Feiblaidd imi, a wnes i ei derbyn. Wnes i hefyd ddechrau mynychu cyfarfodydd Cristnogol gyda nhw.

Wrth imi astudio’r Beibl, gwnaeth fy nealltwriaeth am Dduw newid yn gyfan gwbl. Wnes i ddysgu nad y fo sy’n achosi drygioni a dioddefaint, ond bod o ei hun yn cael ei frifo pan fydd pobl yn gwneud pethau drwg. (Genesis 6:6; Salm 78:40, 41) Dros amser, des i’n gwbl benderfynol o beidio â gwneud unrhyw beth i frifo Jehofa. O’n i eisiau ei wneud yn hapus! (Diarhebion 27:11) Wnes i roi’r gorau i oryfed a defnyddio tybaco, a stopio ymddwyn yn anfoesol. Ym mis Mawrth 1994, ges i fy medyddio yn un o Dystion Jehofa.

FY MENDITHION: Dw i’n wirioneddol hapus ac yn fodlon. Bellach, fydda i ddim yn troi at alcohol i ddatrys fy mhroblemau. Yn hytrach, dw i wedi dysgu bwrw fy meichiau ar Jehofa.​—Salm 55:22.

Am y ddeng mlynedd diwethaf, dw i wedi bod yn briod i Dyst prydferth o’r enw Karen, ac mae gen i lysferch hyfryd o’r enw Nella. Mae’r tri ohonon ni wrth ein boddau yn treulio llawer o’n hamser yn y weinidogaeth Gristnogol, yn helpu eraill i ddysgu’r gwirionedd am Dduw. O’r Diwedd, mae ’na bwrpas i fy mywyd.

a Cyhoeddir gan Dystion Jehofa.