AR Y CLAWR | CELWYDDAU SYʼN GWNEUD HIʼN ANODD CARU DUW
Y Celwydd Sy’n Gwneud Duw yn Ddirgelwch
CRED GYFFREDIN
Mae’r grefydd Gristnogol “yn ei thair ffurf glasurol, sef yr Eglwys Gatholig, Eglwys Uniongred y Dwyrain, a’r Eglwys Brotestannaidd, yn cydnabod un Duw mewn tri Pherson: Duw’r Tad, Duw’r Mab, a Duw’r Ysbryd Glân. Yn ôl diwinyddiaeth Gristnogol, nid cydnabod tri duw sydd yma ond cydnabod bod y tri pherson hyn yn un hanfod.”—The New Encyclopædia Britannica
Y GWIR YN Y BEIBL
Nid yw Iesu, Mab Duw, erioed wedi honni ei fod yn gyfartal â Duw neu yn un hanfod â’r Tad. Yn hytrach, dywedodd: “Dw i’n . . . mynd at y Tad, achos mae’r Tad yn fwy na fi.” (Ioan 14:28) Dywedodd hefyd wrth un o’i ddilynwyr: “Dw i’n mynd at fy Nhad a’m Duw, eich Tad a’ch Duw chi hefyd.”—Ioan 20:17.
Nid person yw’r ysbryd glân. Cafodd y Cristnogion cynnar “eu llenwi” â’r ysbryd glân, a dywedodd Jehofa: “Bydda i’n tywallt fy ysbryd ar y bobl i gyd.” (Actau 2:1-4, 17) Nid yw’r ysbryd glân yn rhan o drindod. Grym gweithredol Duw ydyw.
PAM MAE’N BWYSIG
Dywed yr ysgolheigion Catholig, Karl Rahner a Herbert Vorgrimler: “Nid oes modd deall [y Drindod] heb ddatguddiad, a hyd yn oed ar ôl datguddiad, nid oes modd ei deall yn llwyr.” A allwch chi garu rhywun na allwch ei adnabod neu ei ddeall? Y gwir yw, mae athrawiaeth y Drindod yn rhwystro pobl rhag dod i adnabod a charu Duw.
Roedd Marco, a ddyfynnwyd mewn erthygl gynt, yn gweld y Drindod fel rhwystr. “Ro’n i’n meddwl nad oedd Duw eisiau i mi ei adnabod yn iawn,” meddai, “ac roedd hynny yn ei wneud yn fwy pell, yn fwy dirgel ac yn anodd mynd ato.” Sut bynnag “Nid Duw anhrefn yw Duw.” (1 Corinthiaid 14:33, BCND) Nid yw’n cuddio pwy ydyw. Y mae eisiau i ni ei adnabod. Dywedodd Iesu: “Dŷn ni . . . yn nabod y Duw dŷn ni’n ei addoli.”—Ioan 4:22.
Dywed Marco: ”Pan ddysgais nad yw Duw yn rhan o Drindod, ro’n i’n gallu creu perthynas ag ef o’r diwedd.” Os ydyn ni’n gweld Jehofa fel ffrind yn hytrach na dieithryn, mae’n llawer haws ei garu. Dywed y Beibl: “Y sawl nad yw’n caru, nid yw’n adnabod Duw, oherwydd cariad yw Duw.”—1 Ioan 4:8.