AR Y CLAWR | Y BEIBL—HANES GOROESIAD
Gwnaeth y Beibl Oroesi Pydredd
Y PERYG: Papyrws a memrwn oedd prif ddeunydd ysgrifennu copïwyr ac ysgrifenwyr y Beibl. a (2 Timotheus 4:13) Sut gwnaeth y deunyddiau hynny beryglu goroesiad y Beibl?
Mae papyrws yn rhwygo, yn colli ei liw, ac yn mynd yn frau yn hawdd. “Gall dalen bydru dros amser nes ei fod yn troi’n sgerbwd o ffibrau ac yn bentwr o lwch,” meddai’r Eifftolegwyr Richard Parkinson a Stephen Quirke. “Pan fydd rholyn yn cael ei storio, mae lleithder yn gallu achosi iddo lwydo neu bydru, a phan fydd yn cael ei gladdu, mae llygod neu bryfed, fel morgrug gwyn, yn dueddol o’i fwyta.” Ar ôl i rai papyri gael eu darganfod, gwnaethon nhw ddirywio’n gynt oherwydd gormod o olau haul neu leithder yn yr aer.
Mae memrwn yn para’n hirach na phapyrws, ond mae hwnnw hefyd yn dirywio os nad yw’n cael ei drin â’r gofal priodol, ac yn cael ei ddifetha gan dymheredd eithafol, lleithder, neu ormod o olau. b Mae pryfed hefyd yn targedu memrwn. Oherwydd hyn, mae’r llyfr Everyday Writing in the Graeco-Roman East, yn dweud am gofnodion hynafol, “goroesi yw’r eithriad yn hytrach na’r rheol.” Petai’r Beibl wedi pydru fel hyn, byddai ei neges wedi diflannu gydag ef.
SUT GWNAETH Y BEIBL OROESI? Roedd hi’n ofynnol, yn ôl y gyfraith Iddewig, i bob brenin ysgrifennu “copi o’r Gyfraith” drosto’i hun, hynny yw, pum llyfr cyntaf y Beibl. (Deuteronomium 17:18) Ar ben hynny, roedd copïwyr proffesiynol wedi cynhyrchu cymaint o lawysgrifau erbyn y ganrif gyntaf OG, roedd hi’n bosib cael hyd i’r Ysgrythurau mewn synagogau drwy Israel a hyd yn oed mor bell â Macedonia! (Luc 4:16, 17; Actau 17:11) Sut goroesodd rhai llawysgrifau hen iawn hyd heddiw?
“Roedd yr Iddewon yn arfer rhoi sgroliau ac Ysgrythurau arnyn nhw mewn piseri neu jariau er mwyn eu cadw nhw,” meddai ysgolhaig y Testament Newydd, Philip W. Comfort. Mae’n ymddangos bod Cristnogion wedi parhau â’r arferiad hwnnw. O ganlyniad i hynny, mae rhai llawysgrifau Beiblaidd cynnar wedi cael eu darganfod mewn jariau clai, yn ogystal ag ystafelloedd bach tywyll, ogofâu, ac ardaloedd hynod o sych.
Y CANLYNIAD: Mae miloedd o ddarnau o ysgrifau Beiblaidd—rhai dros 2,000 o flynyddoedd oed—wedi goroesi hyd heddiw. Does gan yr un testun hynafol arall gymaint o lawysgrifau sydd mor hen â hyn.
a Deunydd ysgrifennu yw papyrws, sy’n dod o’r papurfrwyn, sef planhigyn sy’n tyfu ar lannau afonydd. Mae memrwn wedi ei wneud o groen anifeiliaid.
b Er enghraifft, cafodd copi gwreiddiol Datganiad Annibyniaeth yr Unol Daleithiau ei ysgrifennu ar femrwn. Nawr, lai na 250 mlynedd wedyn, mae wedi colli ei liw gymaint, prin y gall rhywun ei ddarllen.