Neidio i'r cynnwys

Neidio i'r cynnwys

“Dydy Nheyrnas i Ddim yn Dod o’r Byd Yma”

“Dydy Nheyrnas i Ddim yn Dod o’r Byd Yma”

“Y rheswm pam . . . dw i wedi dod i’r byd ydy i dystio i beth sy’n wir go iawn.”—IOAN 18:37.

CANEUON: 15, 74

1, 2. (a) Sut mae’r byd hwn yn mynd yn fwy rhanedig? (b) Pa gwestiynau byddwn ni’n eu hateb yn yr erthygl hon?

“ERS fy mhlentyndod, dw i wedi gweld dim byd ond anghyfiawnder,” meddai chwaer o dde Ewrop am ei hanes yn y gorffennol. “Felly, gwrthodais y system wleidyddol yn fy ngwlad, a dechreuais gefnogi syniadau a ystyrid yn radicalaidd. Hefyd, am lawer o flynyddoedd roeddwn i’n canlyn terfysgwr.” Mae brawd o dde Affrica yn esbonio pam roedd yn arfer bod yn dreisgar: “Roeddwn i’n credu bod fy llwyth i yn well na’r llwythau eraill i gyd, ac ymunais â phlaid wleidyddol. Cawson ni’n dysgu i ladd ein gwrthwynebwyr â gwaywffyn—hyd yn oed rhai o’n llwyth ni a oedd yn cefnogi pleidiau gwleidyddol eraill.” Mae chwaer sy’n byw yng nghanol Ewrop yn cyfaddef: “Roeddwn i’n rhagfarnllyd, ac yn casáu unrhyw un a oedd yn dod o wlad arall neu’n perthyn i grefydd arall.”

2 Heddiw, mae llawer o bobl yn rhannu agweddau tebyg. Mae llawer o grwpiau gwleidyddol yn defnyddio trais i ennill annibyniaeth. Cyffredin yw bod pobl yn ymladd dros bethau gwleidyddol. Ac, mewn llawer o lefydd, mae pobl yn cam-drin eraill sy’n dod o wledydd tramor yn fwyfwy. Yn union fel y rhagfynegodd y Beibl, mae pobl “yn amharod i faddau” yn ystod y dyddiau diwethaf hyn. (2 Timotheus 3:1, 3) Sut gall Cristnogion aros yn unedig mewn byd mor rhanedig? Gallwn ddysgu llawer o esiampl Iesu. Roedd pobl yn ei adeg ef hefyd yn rhanedig oherwydd gwleidyddiaeth. Yn yr erthygl hon, byddwn yn dysgu’r atebion i dri chwestiwn: Pam y gwrthododd Iesu ymwneud ag unrhyw grŵp gwleidyddol? Sut dangosodd Iesu na ddylai pobl Dduw gymryd ochr mewn dadleuon gwleidyddol? A sut gwnaeth Iesu ein dysgu ni i beidio byth â defnyddio trais?

IESU AC ANNIBYNIAETH YR IDDEWON

3, 4. (a) Yn adeg Iesu, beth oedd llawer o’r Iddewon eisiau? (b) Pa effaith gafodd y teimladau hynny ar ddisgyblion Iesu?

3 Pregethodd Iesu i lawer o Iddewon a oedd wir eisiau bod yn rhydd o’r Rhufeiniaid. Roedd y Selotiaid Iddewig, grŵp gwleidyddol penboeth, yn gwneud popeth a allen nhw i wneud i’r awydd hwnnw gryfhau. Roedd llawer o’r Selotiaid yn dilyn dyn o’r enw Jwdas y Galilead, a oedd yn byw tua’r un adeg â Iesu. Meseia ffals oedd Jwdas, a wnaeth gamarwain llawer. Yn ôl yr hanesydd Iddewig Josephus, roedd Jwdas yn annog yr Iddewon i ymladd yn erbyn Rhufain ac yn galw unrhyw un a oedd yn talu trethi i’r Rhufeiniaid yn “llwfrgi.” Yn y pen draw, gwnaeth y Rhufeiniaid roi Jwdas i farwolaeth. (Actau 5:37) Gwnaeth rhai o’r Selotiaid droi’n dreisgar er mwyn cyrraedd eu nod.

4 Roedd y rhan fwyaf o’r Iddewon yn awyddus iawn i’r Meseia ddod. Roedden nhw’n meddwl byddai’r Meseia yn eu rhyddhau nhw o’r Rhufeiniaid ac yn gwneud Israel yn genedl gref unwaith eto. (Luc 2:38; 3:15) Roedd llawer yn credu byddai’r Meseia yn sefydlu teyrnas ar y ddaear yn Israel. Pan fyddai hynny wedi digwydd, byddai’r holl Iddewon a oedd yn byw mewn mannau gwahanol o gwmpas y byd yn dychwelyd i Israel. Gwnaeth hyd yn oed Ioan Fedyddiwr ofyn i Iesu ar un achlysur: “Ai ti ydy’r Meseia sydd i ddod, neu ddylen ni ddisgwyl rhywun arall?” (Mathew 11:2, 3) Efallai fod Ioan yn meddwl ei bod hi’n bosib y byddai rhywun arall yn dod i ryddhau’r Iddewon. Yn nes ymlaen, gwnaeth dau ddisgybl a oedd yn teithio ar y ffordd i Emaus gyfarfod Iesu ar ôl iddo gael ei atgyfodi. Dywedon nhw eu bod nhw’n gobeithio mai Iesu oedd yr un a fyddai’n rhyddhau Israel. (Darllen Luc 24:21.) Yn fuan ar ôl hynny, gofynnodd yr apostolion i Iesu: “Arglwydd, ai dyma pryd rwyt ti’n mynd i ryddhau Israel a’i gwneud yn wlad annibynnol unwaith eto?”—Actau 1:6.

5. (a) Pam roedd pobl Galilea eisiau i Iesu fod yn frenin arnyn nhw? (b) Sut gwnaeth Iesu gywiro eu meddylfryd?

5 Roedd yr Iddewon yn disgwyl i’r Meseia ddatrys eu problemau. Mae’n debyg mai dyna pam roedd pobl Galilea eisiau i Iesu fod yn frenin arnyn nhw. Mae’n rhaid eu bod nhw wedi meddwl mai ef fyddai’r arweinydd gorau. Roedd yn siaradwr da iawn, yn gallu iacháu pobl sâl, a hyd yn oed yn gallu bwydo pobl a oedd yn llwgu. Ar ôl i Iesu fwydo tua 5,000 o ddynion, roedd y bobl yn syfrdan. Sylweddolodd Iesu beth roedden nhw eisiau ei wneud. Mae’r Beibl yn dweud: “Gan fod Iesu’n gwybod eu bod nhw’n bwriadu ei orfodi i fod yn frenin, aeth i ffwrdd i fyny’r mynydd unwaith eto ar ei ben ei hun.” (Ioan 6:10-15) Y diwrnod wedyn, mae’n debyg fod y bobl wedi tawelu. Esboniodd Iesu nad oedd wedi dod i ddarparu pethau materol ar eu cyfer ond, yn hytrach, i’w dysgu nhw am Deyrnas Dduw. Dywedodd wrthyn nhw: “Peidiwch ymdrechu i gael y bwyd sy’n difetha, ond i gael y bwyd sy’n para i fywyd tragwyddol.”—Ioan 6:25-27.

6. Sut dangosodd Iesu yn glir nad oedd yn dymuno cael grym gwleidyddol ar y ddaear? (Gweler y llun agoriadol.)

6 Ychydig cyn iddo farw, sylweddolodd Iesu fod rhai o’i ddilynwyr yn credu y byddai ef yn dechrau rheoli fel brenin yn Jerwsalem. Soniodd Iesu wrthyn nhw am eglureb y 10 mina i’w helpu nhw i ddeall na fyddai hynny’n digwydd. Roedd yr eglureb honno’n sôn am “ddyn pwysig,” sef Iesu, a fyddai’n gorfod mynd i ffwrdd am amser hir. (Luc 19:11-13, 15) Hefyd, dywedodd Iesu yn glir iawn wrth y swyddog Rhufeinig Pontius Pilat nad oedd yn cymryd ochr yng ngwleidyddiaeth y byd. Gofynnodd Pilat i Iesu: “Felly, ti ydy Brenin yr Iddewon, ie?” (Ioan 18:33) Efallai fod Pilat yn ofni y byddai Iesu yn gwneud i’r bobl wrthryfela yn erbyn y Rhufeiniaid. Ond, atebodd Iesu: “Dydy nheyrnas i ddim yn dod o’r byd yma.” (Ioan 18:36) Gwnaeth Iesu wrthod cael unrhyw ran mewn gwleidyddiaeth, oherwydd byddai ei Deyrnas ef yn y nefoedd. Dywedodd mai ei waith ar y ddaear oedd “i dystio i beth sy’n wir go iawn.”—Darllen Ioan 18:37.

Wyt ti’n canolbwyntio ar broblemau’r byd neu ar Deyrnas Dduw? (Gweler paragraff 7)

7. Pam mae hi weithiau’n anodd osgoi cefnogi grwpiau gwleidyddol hyd yn oed yn ein calon?

7 Deallodd Iesu beth oedd ei aseiniad. Pan fyddwn ninnau’n deall beth ydy ein haseiniad ni, byddwn ni’n gwrthod cefnogi unrhyw blaid wleidyddol, hyd yn oed yn ein calon. Dydy hynny ddim bob amser yn hawdd. Mae un arolygwr teithiol yn dweud bod pobl yn ei ardal ef yn troi’n fwy eithafol. Maen nhw’n falch iawn o’u gwlad ac yn credu y byddai eu bywydau’n well petai eu pobl eu hunain yn rheoli drostyn nhw. Mae’n ychwanegu: “Diolch byth fod y brodyr wedi gwarchod eu hundod Cristnogol drwy ganolbwyntio ar bregethu’r newyddion da am Deyrnas Dduw. Maen nhw’n troi at Dduw i ddatrys anghyfiawnder a’r problemau eraill rydyn ni’n eu hwynebu.”

SUT ARHOSODD IESU’N NIWTRAL?

8. Pa anghyfiawnder roedd llawer o Iddewon yn ei wynebu yn nyddiau Iesu?

8 Pan fydd pobl yn gweld pethau anghyfiawn yn digwydd o’u cwmpas, maen nhw’n aml yn ymhél â gwleidyddiaeth. Yn adeg Iesu, roedd talu trethi yn ddadl a achosodd i lawer gymryd ochr wleidyddol. Yn wir, gwnaeth Jwdas y Galilead wrthryfela yn erbyn Rhufain oherwydd bod y Rhufeiniaid yn cofrestru’r bobl i sicrhau y byddan nhw’n talu trethi. Ac roedd ’na lawer o drethi i’w talu, fel y dreth ar eiddo, ar dir, ac ar dai. Hefyd, roedd y casglwyr trethi yn llwgr iawn, ac roedd hynny’n gwneud y broblem yn waeth. Roedden nhw weithiau’n talu swyddogion y llywodraeth er mwyn cael swydd ac yna’n defnyddio eu grym i ennill lot o bres. Gwnaeth Sacheus, prif gasglwr trethi Jericho, fynd yn gyfoethog drwy orfodi pobl i dalu trethi mawr.—Luc 19:2, 8.

9, 10. (a) Sut gwnaeth gelynion Iesu geisio ei dynnu i mewn i ddadl wleidyddol? (b) Beth ydyn ni’n ei ddysgu o ateb Iesu? (Gweler y llun agoriadol.)

9 Gwnaeth gelynion Iesu geisio ei dynnu i mewn i’r ddadl am dalu trethi. Gofynnon nhw iddo am “dalu trethi i lywodraeth Rhufain,” treth o un denariws roedd pob Iddew yn gorfod ei thalu. (Darllen Mathew 22:16-18.) Roedd yn gas gan yr Iddewon y dreth hon oherwydd roedd yn eu hatgoffa bod llywodraeth Rhufain yn eu rheoli nhw. Roedd “rhai o gefnogwyr Herod,” a oedd yn cytuno â’i syniadau gwleidyddol, yn gobeithio, petai Iesu’n dweud na ddylai’r bobl dalu’r dreth, y byddan nhw wedyn yn gallu ei gyhuddo o fod yn elyn i’r Ymerodraeth Rufeinig. Ond, petai Iesu’n dweud y dylen nhw dalu’r dreth, efallai y byddai’r bobl yn stopio ei ddilyn. Felly, beth wnaeth Iesu?

10 Roedd Iesu’n ofalus i aros yn niwtral yn y ddadl hon. Dywedodd: “Rhowch beth sydd biau Cesar i Cesar, a’r hyn biau Duw i Dduw.” (Mathew 22:21) Roedd Iesu’n gwybod bod llawer o’r casglwyr trethi’n llwgr, ond nid oedd yn canolbwyntio ar hynny. Yn hytrach, canolbwyntiodd ar yr unig wir ateb i broblemau dynolryw, sef Teyrnas Dduw. Gosododd Iesu’r esiampl i ni. Ddylen ni ddim cymryd ochr mewn unrhyw ddadl wleidyddol, hyd yn oed pan fydd un ochr yn edrych yn iawn ac yn deg a’r ochr arall yn edrych yn anghywir ac yn annheg. Mae Cristnogion yn canolbwyntio ar Deyrnas Dduw ac ar beth mae Duw yn ei ddweud sy’n iawn. Am y rheswm hwnnw, does gennyn ni ddim teimladau cryf am unrhyw anghyfiawnder gwleidyddol nac yn siarad yn ei erbyn.—Mathew 6:33.

11. Sut gallwn ni helpu eraill i ddod o hyd i wir gyfiawnder?

11 Mae llawer o Dystion Jehofa wedi bod yn llwyddiannus wrth gael gwared ar y farn wleidyddol gryf a oedd ganddyn nhw gynt. Er enghraifft, cyn iddi ddysgu’r gwirionedd, dilynodd un chwaer ym Mhrydain gwrs astudiaethau cymdeithasol yn y brifysgol a dechreuodd feithrin barn wleidyddol eithafol. Mae hi’n dweud: “Roeddwn i eisiau cefnogi hawliau pobl dduon, oherwydd ein bod ni wedi dioddef cymaint o anghyfiawnder. Er fy mod i wedi bod yn dda yn ennill dadleuon, roeddwn i’n dal yn teimlo’n rhwystredig. Doeddwn i ddim yn sylweddoli bod rhaid dadwreiddio anghyfiawnder hiliol o galonnau pobl. Pan ddechreuais astudio’r Beibl, fodd bynnag, sylweddolais fod rhaid imi gychwyn gyda fy nghalon fy hun.” A chwaer wen a wnaeth ei helpu hi i newid y ffordd roedd hi’n teimlo yn ei chalon. Mae hi’n ychwanegu: “Rydw i nawr yn gwasanaethu fel arloeswraig lawn amser mewn cynulleidfa iaith arwyddion, ac rydw i’n dysgu sut i estyn allan at bobl o bob math.”

“CADW DY GLEDDYF!”

12. Beth oedd y “burum” yr oedd rhaid i ddisgyblion Iesu ei osgoi?

12 Yn nyddiau Iesu, roedd arweinwyr crefyddol yn aml yn cefnogi grwpiau gwleidyddol. Er enghraifft, mae’r llyfr Daily Life in Palestine at the Time of Christ yn dweud bod yr Iddewon wedi eu rhannu’n wahanol grwpiau crefyddol a oedd yn debyg i bleidiau gwleidyddol. Felly, rhybuddiodd Iesu ei ddisgyblion: “Byddwch yn ofalus! Cadwch draw oddi wrth furum y Phariseaid, a burum Herod hefyd.” (Marc 8:15) Lle mae Iesu’n sôn am Herod yn yr adnod honno, mae’n debyg ei fod yn cyfeirio at gefnogwyr Herod. Roedd y grŵp arall, y Phariseaid, eisiau i’r Iddewon fod yn annibynnol o’r Ymerodraeth Rufeinig. Yn ôl llyfr Mathew, gwnaeth Iesu rybuddio ei ddisgyblion am y Sadwceaid hefyd. Roedd y Sadwceaid eisiau i Rufain barhau i reoli oherwydd bod hynny’n caniatáu iddyn nhw gael swyddi dylanwadol. Rhoddodd Iesu rybudd i’w ddisgyblion er mwyn iddyn nhw osgoi “burum,” neu ddysgeidiaethau, y tri grŵp hynny. (Mathew 16:6, 12) A diddorol yw gweld bod Iesu wedi rhoi’r rhybudd hwn yn fuan ar ôl i’r bobl geisio ei wneud yn frenin.

13, 14. (a) Sut gwnaeth dadleuon gwleidyddol a chrefyddol arwain at drais ac anghyfiawnder? (b) Pam nad yw’n iawn i fod yn dreisgar ar unrhyw adeg, hyd yn oed wrth wynebu anghyfiawnder? (Gweler y llun agoriadol.)

13 Yn aml, pan fydd crefyddau’n cymryd ochr mewn pethau gwleidyddol, mae’n arwain at drais. Dysgodd Iesu i’w ddisgyblion aros yn hollol niwtral. Dyna un rheswm pam roedd y prif offeiriaid a’r Phariseaid eisiau lladd Iesu. Roedden nhw’n poeni y byddai’r bobl yn gwrando arno ef ac yn stopio eu dilyn nhw. Petai hynny’n digwydd, byddan nhw’n colli eu grym crefyddol a gwleidyddol. Dywedon nhw: “Os wnawn ni adael iddo fynd yn ei flaen, bydd pawb yn credu ynddo! Bydd y Rhufeiniaid yn dod ac yn dinistrio ein teml a’n gwlad ni.” (Ioan 11:48) Felly, gwnaeth yr Archoffeiriad Caiaffas baratoi cynllun i ladd Iesu.—Ioan 11:49-53; 18:14.

14 Arhosodd Caiaffas iddi nosi, ac yna anfonodd filwyr i arestio Iesu. Ond, roedd Iesu’n gwybod am y cynllun i’w ladd. Felly, yn ystod ei bryd o fwyd olaf gyda’r apostolion, dywedodd wrthyn nhw am nôl cleddyfau. Byddai dau gleddyf yn ddigon i ddysgu gwers bwysig iddyn nhw. (Luc 22:36-38) Yn nes ymlaen ar y noson honno, daeth torf o bobl i arestio Iesu, ac roedd Pedr mor flin am yr anghyfiawnder nes iddo dynnu ei gleddyf ac ymosod ar un o’r dynion. (Ioan 18:10) Ond, dywedodd Iesu wrth Pedr: “‘Cadw dy gleddyf! . . . Bydd pawb sy’n trin y cleddyf yn cael eu lladd â’r cleddyf.’” (Mathew 26:52, 53) Pa wers bwerus roedd Iesu’n ei dysgu i’w ddisgyblion? Bod rhaid iddyn nhw gadw ar wahân i’r byd. Dyna oedd Iesu wedi gweddïo amdano yn gynharach yn ystod y noson honno. (Darllen Ioan 17:16.) Duw yn unig sydd â’r hawl i frwydro yn erbyn anghyfiawnder.

15, 16. (a) Sut mae Gair Duw wedi helpu pobl i osgoi gwrthdaro? (b) Pa wahaniaeth mae Jehofa’n ei weld rhwng pobl wrth edrych ar y byd heddiw?

15 Gwnaeth y chwaer o dde Ewrop y soniwyd amdani yn gynharach ddysgu’r un wers. Mae hi’n dweud: “Dw i wedi gweld nad ydy trais yn dod â chyfiawnder. Gwelais fod pobl sy’n troi at drais yn aml yn cael eu lladd. Ac mae llawer eraill yn troi’n chwerw. Roeddwn i mor hapus i ddysgu o’r Beibl mai dim ond Duw sy’n gallu dod â chyfiawnder go iawn i’r ddaear. Dros y 25 mlynedd diwethaf, dyna’r neges rydw i wedi bod yn ei phregethu.” Gwnaeth y brawd o dde Affrica gael gwared ar ei waywffon a dechrau defnyddio “cleddyf yr Ysbryd,” sef Gair Duw. (Effesiaid 6:17) Nawr mae’n pregethu neges o heddwch i bobl o bob math, pa bynnag lwyth maen nhw’n perthyn iddi. Ac ar ôl i’r chwaer o ganol Ewrop ddod yn un o Dystion Jehofa, gwnaeth hi briodi brawd a oedd yn perthyn i un o’r grwpiau ethnig roedd hi’n ei gasáu o’r blaen. Gwnaeth y tri pherson hyn newid oherwydd eu bod nhw eisiau bod fel Crist.

16 Pwysig iawn yw gwneud y newidiadau hynny! Mae’r Beibl yn dweud bod dynolryw yn debyg i’r môr sy’n troi a throsi ac sydd byth yn llonydd. (Eseia 17:12; 57:20, 21; Datguddiad 13:1) Mae dadleuon gwleidyddol yn pryfocio pobl, yn eu gwahanu nhw, ac yn arwain at drais. Ond, rydyn ninnau’n heddychlon ac yn unedig. Pan fydd Jehofa yn gweld pa mor ranedig ydy pobl yn y byd, mae’n rhaid ei fod yn teimlo’n hapus iawn i weld pa mor unedig ydy ei bobl yntau.—Darllen Seffaneia 3:17.

17. (a) Pa dri pheth gallwn ni eu gwneud i feithrin heddwch? (b) Beth fyddwn ni’n ei ystyried yn yr erthygl nesaf?

17 Yn yr erthygl hon, rydyn ni wedi dysgu ein bod ni’n gallu meithrin heddwch mewn tair ffordd: (1) Rydyn ni’n dibynnu ar Deyrnas Dduw i ddatrys pob anghyfiawnder, (2) dydyn ni byth yn cymryd ochr mewn dadleuon gwleidyddol, a (3) rydyn ni’n gwrthod trais. Ond, rhywbeth arall a all fygwth ein hundod ydy rhagfarn. Yn yr erthygl nesaf, byddwn ni’n dysgu sut i oresgyn rhagfarn fel y gwnaeth y Cristnogion cynnar.