Neidio i'r cynnwys

Neidio i'r cynnwys

Pwy Sy’n Mowldio Dy Feddyliau?

Pwy Sy’n Mowldio Dy Feddyliau?

“Stopio ymddwyn yr un fath â phobl sydd ddim yn credu.”—RHUFEINIAID 12:2.

CANEUON: 88, 45

1, 2. (a) Sut gwnaeth Iesu ymateb pan ddywedodd Pedr wrtho am fod yn garedig wrtho’i hun? (Gweler y llun agoriadol.) (b) Pam gwnaeth Iesu ymateb fel ’na?

ROEDD disgyblion Iesu yn syfrdan! Roedden nhw’n meddwl y byddai Iesu’n adfer teyrnas Israel, ond dywedodd Iesu ei fod yn mynd i ddioddef a marw cyn bo hir. Siaradodd yr apostol Pedr yn gyntaf gan ddweud: “Wnaiff hynny byth ddigwydd i ti, Arglwydd!” Hefyd, dywedodd y dylai Iesu fod yn garedig wrtho’i hun. Atebodd Iesu: “Dos o’m golwg i Satan! Rwyt ti’n rhwystr i mi; rwyt ti’n meddwl fel mae pobl yn meddwl yn lle gweld pethau fel mae Duw’n eu gweld nhw.”—Mathew 16:21-23; Actau 1:6.

2 Drwy ddweud hyn, roedd Iesu’n dangos yn glir fod meddyliau Jehofa yn wahanol i syniadau’r byd hwn sy’n cael ei reoli gan Satan. (1 Ioan 5:19) Roedd Pedr wedi annog Iesu i feithrin yr agwedd hunanol sydd gan lawer o bobl yn y byd. Ond, roedd Iesu’n gwybod bod Jehofa eisiau iddo ei baratoi ei hun ar gyfer y dioddefaint a’r marwolaeth y byddai’n eu profi yn fuan. Gwnaeth ateb Iesu ddangos yn glir ei fod yn derbyn meddylfryd Jehofa ac yn gwrthod meddylfryd y byd yn llwyr.

3. Pam mae’n anodd derbyn meddylfryd Jehofa a gwrthod meddylfryd y byd?

3 Beth amdanon ni? Ydyn ni’n meddwl fel Jehofa neu fel pobl y byd? A ninnau’n Gristnogion, rydyn ni’n gweithio’n galed i sicrhau bod y ffordd rydyn ni’n ymddwyn yn plesio Duw. Ond beth am y ffordd rydyn ni’n meddwl? Ydyn ni’n gweithio’n galed i feddwl fel Jehofa, hynny yw, i weld pethau yn yr un ffordd ag ef? Mae hyn yn gofyn am gryn dipyn o ymdrech. Ond, hawdd iawn ydy meddwl fel pobl y byd. Y rheswm dros hyn yw bod ysbryd y byd ymhobman o’n cwmpas ni. (Effesiaid 2:2) Hefyd, mae pobl y byd yn aml yn canolbwyntio arnyn nhw eu hunain, ac mae’n bosib i ninnau gael ein temtio i feddwl fel y maen nhw’n meddwl. Felly, anodd ydy meddwl fel Jehofa ond hawdd iawn ydy meddwl fel pobl y byd.

4. (a) Beth fydd yn digwydd os ydyn ni’n gadael i’r byd ddylanwadu ar ein meddyliau? (b) Beth fyddwn ni’n ei ddysgu yn yr erthygl hon?

4 Os ydyn ni’n gadael i’r byd ddylanwadu ar ein meddyliau, mae’n debyg y byddwn ni’n troi’n hunanol ac eisiau penderfynu droson ni ein hunain beth sy’n dda a beth sy’n ddrwg. (Marc 7:21, 22) Felly, hanfodol ydy dysgu i fabwysiadu meddyliau Duw, nid meddyliau dyn. Bydd yr erthygl hon yn ein helpu i wneud hyn. Byddwn yn trafod pam nad ydy gweld pethau o safbwynt Jehofa ddim yn cyfyngu gormod arnon ni, ond yn llesol inni. Byddwn ni hefyd yn trafod sut gallwn ni beidio â gadael i feddylfryd y byd hwn ein mowldio ni, neu ddylanwadu arnon ni. Yn yr erthygl nesaf, byddwn yn dysgu sut gallwn ni gael safbwynt Jehofa ar faterion penodol a sicrhau bod ein meddyliau ni yr un fath â’i feddyliau ef.

MAE MEDDYLFRYD JEHOFA YN FUDDIOL

5. Pam dydy rhai pobl ddim eisiau i eraill ddylanwadu arnyn nhw?

5 Dydy rhai pobl ddim eisiau i neb ddylanwadu ar y ffordd maen nhw’n meddwl. “Dw i’n meddwl drosof fi fy hun,” medden nhw. Mae’n debyg fod hynny’n golygu eu bod nhw eisiau gwneud eu penderfyniadau eu hunain a bod ganddyn nhw’r hawl i wneud hynny. Dydyn nhw ddim eisiau i bobl eraill eu rheoli nhw nac i’w gorfodi nhw i fod fel pawb arall. * (Gweler y troednodyn.)

6. (a) Pa ryddid mae Jehofa yn ei roi inni? (b) Ydy’r rhyddid hwnnw’n ddiderfyn?

6 Da yw gwybod, os ydyn ni’n derbyn meddylfryd Jehofa, mae hi’n dal yn bosib inni gael barn bersonol ar bethau. Mae 2 Corinthiaid 3:17 yn dweud: “Ble bynnag mae Ysbryd yr Arglwydd mae yna ryddid.” Mae Jehofa yn rhoi’r rhyddid inni i ddewis pa fath o bobl rydyn ni eisiau bod. Gallwn ddewis ein hoff bethau a’n diddordebau ein hunain. Jehofa a greodd ni fel hyn. Ond, dydy hynny ddim yn golygu bod gennyn ni ryddid diderfyn. (Darllen 1 Pedr 2:16.) Pan fydd angen inni wybod beth sy’n dda neu’n ddrwg, mae Jehofa eisiau inni ddefnyddio ei Air i’n harwain ni. Ydy hyn yn cyfyngu gormod arnon ni, neu ydy hyn yn fuddiol?

7, 8. Ydy gweld pethau yn yr un ffordd â Jehofa yn cyfyngu gormod arnon ni? Rho esiampl.

7 Dyma eglureb. Mae rhieni yn ceisio dysgu gwerthoedd da i’w plant. Gallan nhw ddysgu eu plant i fod yn onest, i weithio’n galed, ac i ofalu am bobl eraill. Dydy hynny ddim yn cyfyngu gormod arnyn nhw. Yn hytrach, mae’r rhieni yn paratoi eu plant i lwyddo mewn bywyd. Pan fydd y plant yn tyfu i fyny ac yn gadael y cartref, byddan nhw’n rhydd i wneud eu dewisiadau eu hunain. Os ydyn nhw’n dewis byw yn ôl y gwerthoedd da gwnaeth eu rhieni eu dysgu iddyn nhw, mae’n nhw’n fwy tebygol o wneud penderfyniadau da ac osgoi llawer o broblemau, pryderon, a chamgymeriadau.

Mae Jehofa yn ein gwahodd ni i ddysgu sut i weld pethau yn yr un ffordd ag ef ac i fyw yn ôl ei werthoedd

8 Fel rhiant da, mae Jehofa eisiau i’w blant gael y bywyd gorau posib. (Eseia 48:17, 18) Felly, mae’n dysgu egwyddorion sylfaenol inni ynglŷn ag ymddygiad moesol a sut i drin pobl eraill. Mae’n ein gwahodd ni i ddysgu sut i weld pethau yn yr un ffordd ag ef ac i fyw yn ôl ei werthoedd. Dydy hyn ddim yn cyfyngu gormod arnon ni. Yn hytrach, mae’n ein gwneud ni’n fwy doeth ac yn ein helpu i wneud penderfyniadau gwell. (Salm 92:5; Diarhebion 2:1-5; Eseia 55:9) Rydyn ni’n dal yn gallu cael ein diddordebau personol, ond byddwn ni’n gwneud dewisiadau a fydd yn ein gwneud ni’n hapus. (Salm 1:2, 3) Pan fydd meddylfryd Jehofa gennyn ni, rydyn ni’n cael llawer o fuddion!

MAE MEDDYLIAU JEHOFA YN UWCH

9, 10. Beth sy’n dangos bod meddylfryd Jehofa yn uwch na meddylfryd y byd?

9 Rheswm arall rydyn ni eisiau i’n meddyliau fod yn fwy tebyg i feddyliau Jehofa ydy bod meddyliau Jehofa yn llawer uwch na meddyliau’r byd. Mae’r byd yn rhoi cyngor ynglŷn â pha ymddygiad sy’n foesol, sut i gael teulu hapus, sut i gael gyrfa lwyddiannus, a phethau eraill mewn bywyd. Ond, mae’r rhan fwyaf o’r cyngor hwn yn gwbl groes i feddyliau Jehofa. Er enghraifft, mae’r byd yn aml yn annog pobl i ganolbwyntio ar eu diddordebau eu hunain yn unig ac i ystyried anfoesoldeb rhywiol yn rhywbeth derbyniol. Ac mae weithiau’n awgrymu y byddai cyplau priod yn hapusach petasen nhw’n ymwahanu neu’n ysgaru am resymau dibwys. Mae’r cyngor hwn yn mynd yn erbyn beth mae’r Beibl yn ei ddysgu. Ond, ydy cyngor y byd yn fwy ymarferol heddiw na chyngor y Beibl?

10 Dywedodd Iesu: “Profir gan ei gweithredoedd fod doethineb Duw yn iawn.” (Mathew 11:19, BCND) Er bod y byd wedi gwneud cynnydd technolegol, nid yw wedi datrys y problemau mwyaf sy’n ein rhwystro ni rhag bod yn hapus, fel rhyfeloedd, hiliaeth, a throsedd. Hefyd, mae’r byd yn gweld anfoesoldeb rhywiol yn dderbyniol. Ond, mae llawer o bobl yn cyfaddef bod hynny’n difetha teuluoedd, yn achosi problemau iechyd, ac yn dod â chanlyniadau drwg eraill. Beth am gyngor Jehofa? Mae gan Gristnogion sydd wedi derbyn safbwynt Jehofa deuluoedd hapusach, iechyd gwell, a pherthynas heddychlon â’u brodyr a’u chwiorydd ar draws y byd. (Eseia 2:4; Actau 10:34, 35; 1 Corinthiaid 6:9-11) Mae hyn yn dangos yn glir fod meddylfryd Jehofa yn uwch na meddylfryd y byd.

11. Pwy wnaeth fowldio meddyliau Moses, a beth oedd y canlyniad?

11 Roedd gweision Jehofa yn y gorffennol yn gwybod bod meddyliau Jehofa yn uwch. Er enghraifft, er bod Moses wedi cael ei ddysgu yn “holl ddoethineb yr Eifftwyr,” roedd yn gwybod bod doethineb go iawn yn dod oddi wrth Jehofa. (Actau 7:22, BCND; Salm 90:12) Felly, gofynnodd i Jehofa: “Dangos i mi beth rwyt ti am ei wneud.” (Exodus 33:13) Oherwydd bod Moses wedi gadael i Jehofa fowldio ei feddyliau, gwnaeth Jehofa ei ddefnyddio mewn ffordd ryfeddol i gyflawni ei ewyllys a’i anrhydeddu drwy ei alw’n ddyn â ffydd gref.—Hebreaid 11:24-27.

12. Ar beth roedd Paul yn seilio ei benderfyniadau?

12 Roedd yr apostol Paul yn ddyn deallus, gydag addysg dda, ac roedd yn siarad o leiaf ddwy iaith. (Actau 5:34; 21:37, 39; 22:2, 3) Ond, fe wnaeth wrthod doethineb bydol a gwneud ei benderfyniad ar sail Gair Duw. (Darllen Actau 17:2; 1 Corinthiaid 2:6, 7, 13.) O ganlyniad, cafodd weinidogaeth lwyddiannus iawn ac roedd yn edrych ymlaen at wobr a fyddai’n para am byth.—2 Timotheus 4:8.

13. Pwy sy’n gyfrifol am addasu ein meddyliau fel ein bod ni’n gweld pethau yn yr un ffordd â Jehofa?

13 Yn amlwg, mae meddyliau Duw yn llawer uwch na meddyliau’r byd. Os ydyn ni’n dilyn safonau Duw, byddwn ni’n wirioneddol hapus ac yn llwyddiannus. Ond, fydd Jehofa ddim yn ein gorfodi i feddwl fel y mae ef. Dydy’r gwas ffyddlon a chall ddim yn rheoli ein meddyliau, a dydy’r henuriaid ddim chwaith. (Mathew 24:45; 2 Corinthiaid 1:24) Ni ein hunain sy’n gyfrifol am addasu ein meddyliau fel ein bod ni’n gweld pethau yn yr un ffordd â Jehofa. Sut gallwn ni wneud hynny?

OSGOI CAEL DY FOWLDIO GAN Y BYD

14, 15. (a) Beth y dylen ni fyfyrio arno er mwyn meddwl fel Jehofa? (b) Pam na ddylen ni adael i syniadau bydol ddod i mewn i’n meddyliau? Rho esiampl.

14 Mae Rhufeiniaid 12:2 yn dweud: “Stopio ymddwyn yr un fath â phobl sydd ddim yn credu. Gadewch i Dduw newid eich bywyd chi’n llwyr drwy chwyldroi eich ffordd o feddwl am bethau. Byddwch yn gwybod wedyn beth mae Duw eisiau, ac yn gweld fod hynny’n dda ac yn ei blesio fe, ac mai dyna’r peth iawn i’w wneud.” Yn ôl yr ysgrythur hon, beth bynnag a oedd yn mowldio ein meddyliau cyn inni ddysgu’r gwirionedd, gallwn newid ein meddylfryd a’n hymddygiad a’u gwneud yn fwy tebyg i ffordd Jehofa. Er bod ffactorau genetig a’n profiadau mewn bywyd yn dylanwadu ar ein ffordd o feddwl i ryw raddau, gall ein meddwl newid o hyd. Ac fe fydd yn newid yn bennaf yn unol â’r hyn rydyn ni’n dewis meddwl amdano. Os ydyn ni’n myfyrio ar feddylfryd Jehofa, byddwn ni’n profi i ni’n hunain fod ei feddylfryd ef yn wastad yn gywir. Wedyn, byddwn ni eisiau gweld pethau yn yr un ffordd ag ef.

15 Ond, er mwyn chwyldroi ein ffordd o feddwl fel ein bod ni’n meddwl fel Jehofa, mae’n rhaid inni “stopio ymddwyn yr un fath â phobl sydd ddim yn credu.” Mae hyn yn golygu bod rhaid inni stopio gwylio, darllen, neu wrando ar unrhyw beth sy’n mynd yn groes i feddylfryd Duw. I’n helpu i weld pa mor bwysig ydy hyn, ystyria fwyd fel esiampl. Gall rhywun sydd eisiau bod yn fwy iach benderfynu bwyta bwydydd gwell. Ond, bydd ei holl ymdrech yn wastraff os yw hefyd yn aml yn bwyta bwyd sydd wedi pydru! Mewn ffordd debyg, bydd ein holl ymdrech i ddysgu am feddyliau Jehofa yn dda i ddim os ydyn ni’n gadael i syniadau bydol ddod i mewn i’n meddyliau hefyd.

16. Beth sy’n rhaid inni ein hamddiffyn ein hunain rhagddo?

16 Ydyn ni’n gallu osgoi syniadau bydol yn gyfan gwbl? Nac ydyn, ni allwn osgoi pob syniad bydol oherwydd ni allwn ni adael y byd yn llythrennol. (1 Corinthiaid 5:9, 10) Hyd yn oed pan ydyn ni’n pregethu, byddwn yn clywed pobl yn mynegi syniadau anghywir a daliadau gau grefydd. Ond, er na allwn ni osgoi syniadau anghywir bob amser, does dim rhaid inni barhau i feddwl amdanyn nhw na’u derbyn chwaith. Fel Iesu, dylen ni fod yn gyflym i wrthod meddyliau y mae Satan eisiau inni eu derbyn. A gallwn ni ein hamddiffyn ein hunain drwy osgoi meddyliau’r byd lle mae hynny’n bosib.—Darllen Diarhebion 4:23.

17. Beth fydd yn ein helpu i osgoi meddylfryd y byd?

17 Er enghraifft, dylen ni ddewis ein ffrindiau’n ofalus. Mae’r Beibl yn ein rhybuddio y byddai ffrindiau sydd ddim yn addoli Jehofa yn gwneud i ninnau ddechrau meddwl fel y maen nhw. (Diarhebion 13:20; 1 Corinthiaid 15:12, 32, 33) Dylen ni hefyd ddewis ein adloniant yn ofalus. Pan fyddwn ni’n gwrthod adloniant sy’n hyrwyddo esblygiad, trais, neu anfoesoldeb, rydyn ni’n osgoi gwenwyno ein meddyliau â syniadau sy’n “rhwystro pobl rhag dod i nabod Duw.”—2 Corinthiaid 10:5.

Ydyn ni’n helpu ein plant i wrthod adloniant niweidiol? (Gweler paragraffau 18, 19)

18, 19. (a) Pam mae’n rhaid inni fod yn ofalus ynglŷn â syniadau bydol sy’n cael eu hyrwyddo mewn ffyrdd llai amlwg? (b) Pa gwestiynau dylen ni eu gofyn i ni’n hunain a pham?

18 Mae’n rhaid inni hefyd adnabod a gwrthod syniadau sy’n cael eu hyrwyddo mewn ffyrdd llai amlwg. Er enghraifft, dydy rhai adroddiadau newyddion ddim yn niwtral wrth drafod pethau gwleidyddol. Ac mae rhai straeon newyddion yn hyrwyddo amcanion neu lwyddiannau y mae’r byd yn eu hedmygu. Mae rhai ffilmiau a llyfrau yn hybu’r syniad o “fi’n gyntaf” a “teulu’n gyntaf” ac yn gwneud i hynny edrych yn rhesymol, yn ddeniadol, neu’n gywir hyd yn oed. Ond, mae’r safbwyntiau hynny yn anwybyddu’r Beibl. Mae’r Beibl yn dweud y byddwn ni a’n teuluoedd yn hapus pan fyddwn ni’n caru Jehofa uwchben pob dim arall. (Mathew 22:36-39) Hefyd, gall rhai straeon i blant, er bod y rhan fwyaf ohonyn nhw’n dderbyniol efallai, wneud i blant dderbyn ymddygiad anfoesol mewn ffordd gynnil.

19 Dydy hyn ddim yn golygu bod mwynhau adloniant llesol yn anghywir. Ond, dylen ni ofyn i ni’n hunain: ‘Ydw i’n gallu adnabod syniadau bydol hyd yn oed os nad ydyn nhw’n cael eu hybu’n uniongyrchol? Ydw i’n fy ngwarchod fy hun a fy mhlant rhag raglenni teledu a deunydd darllen amhriodol? Ydw i’n helpu fy mhlant i gael safbwynt Jehofa ar bethau fel nad ydy’r syniadau bydol maen nhw’n eu gweld ac yn eu clywed yn dylanwadu arnyn nhw?’ Os ydyn ni’n adnabod y gwahaniaeth rhwng meddylfryd Duw a meddylfryd y byd, gallwn osgoi “ymddwyn yr un fath â phobl sydd ddim yn credu.”

PWY SY’N DY FOWLDIO DI NAWR?

20. Sut gallwn ni wybod pwy sy’n ein mowldio ni?

20 Rhaid inni gofio bod gwybodaeth yn dod o ddwy ffynhonnell yn unig. Un ydy Jehofa, a’r llall ydy Satan a’i fyd. Pwy sy’n dy fowldio di? Yr ateb ydy’r un rwyt ti’n derbyn gwybodaeth ganddo. Os ydyn ni’n derbyn syniadau’r byd, bydd y byd yn mowldio ein meddyliau a byddwn ni’n meddwl ac yn ymddwyn yn hunanol. Felly, pwysig iawn yw dewis yn ofalus beth rydyn ni’n ei wylio, yn ei ddarllen, yn gwrando arno, ac yn meddwl amdano.

21. Beth fyddwn ni’n ei drafod yn yr erthygl nesaf?

21 Yn yr erthygl hon rydyn ni wedi dysgu bod cael meddylfryd Jehofa ar bethau yn golygu bod rhaid inni osgoi syniadau bydol. Mae’n rhaid inni hefyd fyfyrio ar feddyliau Duw fel ein bod ni’n meddwl yn fwy fel y mae ef yn meddwl. Yn yr erthygl nesaf, byddwn yn dysgu sut i wneud hynny.

^ Par. 5 Y gwir yw bod hyd yn oed y bobl fwyaf annibynnol yn cael eu dylanwadu gan eraill. Er enghraifft, p’un a ydyn ni’n meddwl am sut dechreuodd bywyd neu’n syml am beth i’w wisgo, mae eraill yn dylanwadu arnon ni, o leiaf tipyn bach. Ond, gallwn ddewis pwy sy’n dylanwadu arnon ni.