Neidio i'r cynnwys

Neidio i'r cynnwys

Pam y Dylen Ni Gwrdd Gyda’n Gilydd i Addoli?

Pam y Dylen Ni Gwrdd Gyda’n Gilydd i Addoli?

“A gadewch i ni feddwl am ffyrdd i annog ein gilydd i ddangos cariad a gwneud daioni. Mae’n bwysig ein bod yn dal ati i gyfarfod â’n gilydd.”—HEBREAID 10:24, 25, beibl.net.

CANEUON: 20, 119

1-3. (a) Sut mae Cristnogion wedi dangos eu bod nhw’n awyddus i fynychu’r cyfarfodydd? (Gweler y llun agoriadol.) (b) Beth byddwn ni’n ei drafod yn yr erthygl hon?

PAN oedd Corinna yn 17 mlwydd oed, arestiwyd ei mam a’i hel yn bell i ffwrdd i wersyll llafur. Yn ddiweddarach, anfonwyd Corinna hefyd filoedd o filltiroedd oddi cartref i Siberia. Yno, bu’n gweithio ar fferm ac yn cael ei thrin fel caethferch. Weithiau, fe’i gorfodwyd i weithio y tu allan heb ddigon o ddillad i’w chadw’n gynnes, a’r tywydd yn chwipio rhewi. Er hynny, penderfynodd Corinna a chwaer arall y bydden nhw’n gwneud popeth y gallen nhw i adael y fferm a mynd i un o’r cyfarfodydd.

2 Dywedodd Corinna: “Un noson, fe wnaethon ni adael y fferm a cherdded i orsaf rheilffordd 15 milltir i ffwrdd. Roedd y trên yn gadael am ddau yn y bore, ac fe deithion ni am chwe awr cyn cyrraedd yr orsaf ac wedyn roedd rhaid cerdded chwe milltir arall i’r man cyfarfod.” Doedd Corinna ddim yn difaru o gwbl a dywedodd: “Yn y cyfarfod, astudion ni’r Tŵr Gwylio a chanu caneuon y Deyrnas. Gwnaeth y profiad ein calonogi ni a chryfhau ein ffydd.” Dychwelodd y ddwy chwaer dridiau yn ddiweddarach i’r fferm, ond nid oedd y ffermwr wedi sylwi eu bod nhw wedi bod i ffwrdd.

3 Mae pobl Jehofa yn wastad wedi edrych ymlaen at dreulio amser gyda’i gilydd. Er enghraifft, roedd y Cristnogion cynnar yn dod ynghyd er mwyn addoli Jehofa a dysgu amdano. (Actau 2:42) Mae’n debyg dy fod tithau hefyd yn mwynhau mynd i’r cyfarfodydd. Ond efallai fod mynychu’r cyfarfodydd yn anodd iti. Efallai dy fod ti’n gorfod gweithio oriau hir neu fod gen ti lawer i’w wneud, neu dy fod ti’n teimlo’n flinedig drwy’r amser. Felly, beth all ein helpu ni i wneud popeth y gallwn ni i fod yn y cyfarfodydd? [1] (Gweler yr ôl-nodyn.) Sut gallwn ni annog eraill, a’r rhai sy’n astudio’r Beibl gyda ni, i fod yn y cyfarfodydd yn gyson? Bydd yr erthygl hon yn esbonio pam y mae mynychu’r cyfarfodydd yn dda inni, yn helpu eraill, ac yn plesio Jehofa. [2]—Gweler yr ôl-nodyn.

MAE’R CYFARFODYDD YN DDA INNI

4. Sut mae cwrdd â’n gilydd yn ein helpu ni i ddysgu am Jehofa?

4 Mae’r cyfarfodydd yn ein haddysgu ni. Mae pob cyfarfod yn ein helpu ni i ddysgu mwy am Jehofa a dod yn agosach ato. Er enghraifft, sut rwyt ti’n teimlo pan ydyn ni’n trafod rhinweddau Jehofa ac yn clywed sut mae’r brodyr yn teimlo amdano? Onid wyt ti’n caru Jehofa yn fwy byth? Yn y cyfarfodydd, rydyn ni hefyd yn dysgu mwy am y Beibl drwy roi sylw i anerchiadau, dangosiadau, a thrwy wrando’n astud ar y Beibl yn cael ei ddarllen. (Nehemeia 8:8) A meddylia am yr holl bethau newydd rydyn ni’n eu dysgu pan ydyn ni’n paratoi ar gyfer darlleniad y Beibl a phan ydyn ni’n gwrando ar sylwadau ein brodyr.

5. Sut mae’r cyfarfodydd wedi dy helpu di i ddefnyddio’r hyn a ddysgaist o’r Beibl ac i wella’r ffordd rwyt ti’n pregethu?

5 Mae’r cyfarfodydd yn ein dysgu ni i roi ar waith yr hyn rydyn ni’n ei ddarllen yn y Beibl. (1 Thesaloniaid 4:9, 10) Er enghraifft, wyt ti wedi bod mewn Astudiaeth o’r Tŵr Gwylio sydd wedi dy ysgogi di i wneud mwy yng ngwasanaeth Jehofa, i gyfoethogi dy weddïau, neu i faddau i rywun? Mae’r cyfarfodydd canol wythnos yn gallu ein dysgu ni i bregethu’r newyddion da a helpu eraill i ddeall gwirioneddau’r Beibl.—Mathew 28:19, 20.

6. Sut mae ein cyfarfodydd yn ein calonogi ni ac yn ein cryfhau ni?

6 Mae’r cyfarfodydd yn ein hannog ni. Mae byd Satan yn ceisio gwanhau ein ffydd a’n digalonni. Ond mae ein cyfarfodydd yn rhoi’r nerth inni fedru parhau i wasanaethu Jehofa. (Darllen Actau 15:30-32.) Yn aml, trafodir proffwydoliaethau sydd wedi dod yn wir. Gall hyn ein helpu ni i fod yn gwbl hyderus y bydd addewidion Jehofa am y dyfodol yn cael eu gwireddu. Mae anerchiadau, atebion, a chanu ein brodyr yn ein calonogi ni. (1 Corinthiaid 14:26) A phan ydyn ni’n sgwrsio â’n brodyr cyn y cyfarfod ac ar ôl iddo orffen, rydyn ni’n cael ein hadfywio oherwydd bod gennyn ni gymaint o ffrindiau sy’n meddwl y byd ohonon ni.—1 Corinthiaid 16:17, 18.

Mae ein cyfarfodydd yn ein hannog ni ac yn rhoi’r nerth inni fedru parhau i wasanaethu Jehofa

7. Pam ei bod hi mor bwysig i fod yn y cyfarfodydd?

7 Yn y cyfarfodydd, rydyn ni’n derbyn ysbryd glân Duw. Mae Iesu’n defnyddio’r ysbryd glân i arwain y cynulleidfaoedd. Yn wir, dywedodd y dylen ni wrando ar beth mae’r ysbryd glân yn ei ddweud wrth y cynulleidfaoedd. (Datguddiad 2:7) Gall yr ysbryd glân ein helpu i wrthsefyll temtasiynau ac i bregethu’n ddi-ofn. Gall hefyd ein helpu i wneud penderfyniadau da. Dyna pam y mae’n rhaid inni wneud popeth y gallwn ni i fod yn bresennol yn y cyfarfodydd ac i dderbyn cymorth gan Dduw trwy’r ysbryd glân.

RYDYN NI’N HELPU ERAILL YN Y CYFARFODYDD

8. Pan fydd ein brodyr yn ein gweld ni yn y cyfarfodydd ac yn clywed ein hatebion a’n canu, sut mae hyn yn eu helpu nhw? (Gweler hefyd y blwch “ Mae Bob Amser yn Gadael yn Teimlo’n Well.”)

8 Yn y cyfarfodydd, mae cyfle inni ddangos i’n brodyr ein bod ni’n eu caru nhw. Mae llawer yn y gynulleidfa yn dioddef problemau dybryd. Ysgrifennodd yr apostol Paul: “Gadewch i ni feddwl am ffyrdd i annog ein gilydd.” (Hebreaid 10:24, 25, beibl.net) Gallwn ddangos fod ein brodyr yn bwysig inni drwy gwrdd gyda’n gilydd a chalonogi ein gilydd. Wrth fynd i’r cyfarfodydd, rydyn ni’n dangos i’n brodyr ein bod ni eisiau bod gyda nhw a bod eu teimladau o’r pwys mwyaf inni. Rydyn ni hefyd yn twymo calonnau ein brodyr pan fyddan nhw’n clywed ein hatebion a’n canu brwd.—Colosiaid 3:16.

9, 10. (a) Eglura sut mae geiriau Iesu yn Ioan 10:16 yn ein helpu ni i ddeall pa mor bwysig yw cyfarfod gyda’n brodyr. (b) Os ydyn ni’n mynychu’r cyfarfodydd sut gallwn ni helpu rhywun sydd wedi cael ei wrthod gan ei deulu?

9 Yn y cyfarfodydd, rydyn ni’n helpu pawb i lynu wrth ei gilydd. (Darllen Ioan 10:16.) Roedd Iesu yn ei gymharu ei hun i fugail a’i ddilynwyr i braidd o ddefaid. Meddylia: Petai dwy ddafad yn pori ar ochr mynydd, dwy ddafad yn pori yn y dyffryn, ac un ddafad yn rhywle arall, a fyddai hi’n bosibl i alw’r pum dafad hynny’n braidd? Na fyddai. Mae praidd o ddefaid yn aros gyda’i gilydd ac yn dilyn y bugail. Mewn modd tebyg, ni ddylen ni grwydro oddi wrth ein brodyr drwy beidio â dod i’r cyfarfodydd. Dylen ni gwrdd gyda’n gilydd a dod yn “un praidd” a dilyn “un bugail.”

10 Mae ein cyfarfodydd yn ein helpu ni i fod yn deulu unedig. (Salm 133:1) Mae rhai yn y gynulleidfa wedi cael eu gwrthod gan eu teulu agos. Ond roedd Iesu wedi addo rhoi teulu iddyn nhw a fyddai’n eu caru nhw a gofalu amdanyn nhw. (Marc 10:29, 30) Os byddi’n mynychu’r cyfarfodydd yn rheolaidd, gallet ti fod yn dad, yn fam, yn frawd, neu’n chwaer i rywun yn y gynulleidfa. Mae cofio hynny yn ein hannog ni i wneud ein gorau i fod yn bresennol ym mhob un o’n cyfarfodydd.

BYDDWN NI’N PLESIO JEHOFA

11. Sut mae mynychu’r cyfarfodydd yn ein helpu ni i roi’r hyn sy’n haeddiannol i Jehofa?

11 Yn y cyfarfodydd, rydyn ni’n rhoi’r hyn sy’n haeddiannol i Jehofa. Gan mai ef yw’r Creawdwr, dylen ni ddiolch iddo, ei anrhydeddu, a’i foli. (Darllen Datguddiad 7:12.) Gallwn wneud hyn yn y cyfarfodydd tra ydyn ni’n gweddïo arno, yn canu iddo, ac yn siarad amdano. Am fraint hyfryd sydd gennyn ni bob wythnos i addoli Jehofa!

Mae Jehofa yn gweld cymaint rydyn ni eisiau bod yn y cyfarfodydd ac mae’n gwerthfawrogi ein hymdrechion i fod yno

12. Sut mae Jehofa’n teimlo pan ydyn ni’n ufuddhau i’w orchymyn i fynychu’r cyfarfodydd?

12 Jehofa a’n creodd, a dylen ni ufuddhau iddo. Mae wedi ein gorchymyn ni i gwrdd gyda’n gilydd, yn enwedig wrth i ddiwedd y system agosáu. Felly, mae ufuddhau i’r gorchymyn hwnnw yn plesio Jehofa. (1 Ioan 3:22) Mae’n gweld cymaint rydyn ni eisiau bod yn y cyfarfodydd ac mae’n gwerthfawrogi ein hymdrechion i fod yno.—Hebreaid 6:10.

13, 14. Sut rydyn ni’n agosáu at Jehofa a Iesu yn y cyfarfodydd?

13 Mae mynd i’r cyfarfodydd yn dangos i Jehofa ein bod ni eisiau agosáu ato ef a’i Fab. Yn y cyfarfodydd, rydyn ni’n astudio’r Beibl ac yn dysgu oddi wrth Jehofa am ei safonau a sut dylen ni fyw ein bywydau. (Eseia 30:20, 21) Hyd yn oed pan fydd rhai nad ydyn nhw’n gwasanaethu Jehofa yn dod i’r cyfarfodydd, maen nhw’n sylweddoli bod Duw yn ein harwain. (1 Corinthiaid 14:23-25) Jehofa sy’n cyfarwyddo’r cyfarfodydd drwy gyfrwng ei ysbryd glân, ac mae’r hyn rydyn ni’n ei ddysgu ynddyn nhw’n dod oddi wrtho ef. Felly, wrth fynychu’r cyfarfodydd, rydyn ni’n gwrando ar Jehofa, yn teimlo ei gariad, ac yn closio ato.

14 Dywedodd Iesu, sef Pen y gynulleidfa: “Oherwydd lle y mae dau neu dri wedi dod ynghyd yn fy enw i, yr wyf yno yn eu canol.” (Mathew 18:20) Hefyd, dywed y Beibl fod Iesu “yn cerdded yng nghanol” y cynulleidfaoedd. (Datguddiad 1:20–2:1) Yn amlwg felly, mae Jehofa a Iesu gyda ni ac yn ein cryfhau ni yn y cyfarfodydd. Sut mae Jehofa yn teimlo o’th weld yn gwneud popeth y gelli di i agosáu ato ef a’i Fab?

15. Sut mae mynd i’r cyfarfodydd yn dangos i Dduw ein bod ni eisiau ufuddhau iddo?

15 Wrth fynd i’r cyfarfodydd, rydyn ni’n dangos i Jehofa ein bod ni eisiau ufuddhau iddo. Nid yw Jehofa yn ein gorfodi ni i wneud ei ewyllys. (Eseia 43:23) Felly, pan ydyn ni’n dewis ufuddhau i’w orchymyn i fynychu’r cyfarfodydd, dangoswn iddo ein bod ni’n ei garu ac yn credu bod yr hawl ganddo i ddweud wrthyn ni beth i’w wneud. (Rhufeiniaid 6:17) Er enghraifft, beth wnawn ni os bydd ein cyflogwr yn gofyn inni weithio oriau mor hir fel y byddwn ni’n methu cyfarfodydd yn rheolaidd? Neu efallai fod y llywodraeth yn dweud y bydd unrhyw un sy’n mynychu’r cyfarfodydd yn gorfod talu dirwy, mynd i’r carchar, neu waeth. Neu efallai rydyn ni eisiau gwneud rhywbeth arall yn hytrach na mynd i’r cyfarfodydd. Beth bynnag yw’r sefyllfa, mae’n rhaid i ni benderfynu beth byddwn ni’n ei wneud. (Actau 5:29) Ond bob tro rydyn ni’n dewis ufuddhau i Jehofa, rydyn ni’n ei blesio.—Diarhebion 27:11.

DAL ATI I GWRDD GYDA’N GILYDD

16, 17. (a) Sut rydyn ni’n gwybod bod cyfarfodydd yn bwysig iawn i Gristnogion y ganrif gyntaf? (b) Sut roedd y brawd George Gangas yn teimlo am ein cyfarfodydd Cristnogol?

16 Ar ôl cwrdd gyda’i gilydd ar ddydd Pentecost 33 OG, roedd Cristnogion yn dod ynghyd yn rheolaidd i addoli Jehofa. Roedden nhw’n dyfalbarhau gyda’i gilydd yn nysgeidiaethau’r apostolion. (Actau 2:42) Ac ni wnaethon nhw stopio mynychu’r cyfarfodydd hyd yn oed pan oedden nhw’n cael eu herlid gan y llywodraeth Rufeinig a chan arweinwyr crefyddol yr Iddewon. Er nad oedd hynny’n hawdd, roedden nhw’n gwneud popeth y gallen nhw i ddal ati i gwrdd gyda’i gilydd.

17 Heddiw, mae gweision Jehofa yn trysori’r cyfarfodydd. Dywedodd George Gangas, a oedd yn aelod o’r Corff Llywodraethol am dros 22 mlynedd: “I mi, mae cwrdd gyda’r brodyr yn un o bleserau mwyaf bywyd ac yn rhoi cymaint o anogaeth imi. Rwy’n hapus i fod gyda’r rhai cyntaf i gyrraedd y Neuadd a bod yn un o’r rhai olaf i adael. Mae siarad â phobl Dduw yn agos iawn at fy nghalon i. Pan wyf yng nghanol fy mrodyr, rwy’n teimlo’n gartrefol, mewn paradwys ysbrydol.” Ychwanegodd: “Dymuniad fy nghalon yw cael bod yn y cyfarfodydd.”

18. Sut rwyt ti’n teimlo am ein cyfarfodydd, a beth rwyt ti’n benderfynol o’i wneud?

18 Wyt ti’n teimlo’r un ffordd am addoli Jehofa? Os wyt ti, dal ati i wneud popeth y gelli di i fod gyda’th frodyr yn y cyfarfodydd, hyd yn oed pan fydd hynny’n anodd. Dangosa i Jehofa dy fod ti’n teimlo’r un ffordd â’r Brenin Dafydd, pan ddywedodd: “O ARGLWYDD, yr wyf yn caru’r tŷ lle’r wyt yn trigo.”—Salm 26:8.

^ [1] (paragraff 3) Ni all rhai o’n brodyr fynd i’r cyfarfodydd yn rheolaidd oherwydd amgylchiadau y tu hwnt i’w rheolaeth, fel salwch er enghraifft. Gallan nhw fod yn sicr fod Jehofa yn deall eu sefyllfa ac yn gwerthfawrogi popeth y maen nhw yn ei wneud i’w addoli. Gall yr henuriaid helpu’r rhai hyn i wrando ar y cyfarfodydd, efallai drwy eu helpu nhw i gysylltu dros y ffôn neu drwy recordio’r cyfarfodydd ar eu cyfer.

^ [2] (paragraff 3) Gweler y blwch “ Rhesymau Dros Fynychu’r Cyfarfodydd.”