Sicrhewch Fod Eich ‘Brawdgarwch yn Parhau’!
“Bydded i frawdgarwch barhau.”—HEBREAID 13:1.
CANEUON: 72, 119
1, 2. Pam gwnaeth Paul ysgrifennu llythyr at y Cristnogion Hebrëig?
YN 61 OG, roedd y cynulleidfaoedd yn Israel yn byw mewn cyfnod gweddol heddychlon. Er bod yr apostol Paul yn y carchar yn Rhufain, roedd yn gobeithio cael ei ryddhau yn fuan. Roedd ei gyd-deithiwr Timotheus newydd gael ei ryddhau o’r carchar, ac roedden nhw’n gobeithio teithio i weld y brodyr yn Jwdea. (Hebreaid 13:23) Ond, mewn llai na phum mlynedd, byddai’r Cristnogion yn Jwdea, yn enwedig y rhai a oedd yn byw yn Jerwsalem, yn gorfod gweithredu ar frys. Pam? Oherwydd yn gynharach, dywedodd Iesu wrth ei ddilynwyr fod rhaid iddyn nhw ffoi pan fyddan nhw’n gweld Jerwsalem yn cael ei hamgylchynu gan filwyr.—Luc 21:20-24.
2 Roedd 28 mlynedd wedi mynd heibio ers rhybudd Iesu. Yn y cyfamser, safodd y Cristnogion yn Israel yn gadarn yn y ffydd er gwaethaf erledigaeth. (Hebreaid 10:32-34) Ond roedd Paul eisiau i’r brodyr fod yn barod ar gyfer y dyfodol. Roedden nhw ar fin wynebu un o’r profion mwyaf ar eu ffydd. (Mathew 24:20, 21; Hebreaid 12:4) Yn fwy nag erioed o’r blaen, roedd angen dyfalbarhad a ffydd arnyn nhw er mwyn gwrando ar rybudd Iesu a ffoi. Wedi’r cwbl, roedd eu bywydau yn y fantol. (Darllenwch Hebreaid 10:36-39.) Felly, ysgrifennodd Paul at y brodyr a’r chwiorydd annwyl hynny. Bwriad y llythyr at yr Hebreaid oedd cryfhau ffydd y brodyr iddyn nhw fedru wynebu treialon y dyfodol.
3. Pam dylai’r llythyr at yr Hebreaid fod o ddiddordeb inni?
3 Dylai’r llythyr hwn fod o ddiddordeb mawr i bobl Dduw heddiw. Pam felly? Oherwydd bod ein sefyllfa ni a sefyllfa’r Cristnogion yn Jwdea yn debyg. Rydyn ni’n byw mewn “amserau enbyd,” ac mae llawer wedi dyfalbarhau’n ffyddlon yn wyneb treialon difrifol. (2 Timotheus 3:1, 12) Ond mae’r rhan fwyaf ohonon ni’n byw mewn heddwch a dydyn ni ddim yn cael ein herlid mewn ffordd uniongyrchol. Felly, yn debyg i’r Cristnogion bryd hynny, mae’n rhaid inni fod yn effro. Pam? Oherwydd yn fuan iawn, byddwn ni’n wynebu’r prawf mwyaf ar ein ffydd!—Darllenwch Luc 21:34-36.
4. Beth yw testun y flwyddyn ar gyfer 2016, a pham mae’r testun yn berthnasol?
4 Beth fydd yn ein helpu ni i baratoi ar gyfer y prawf hwn? Yn ei lythyr, soniodd Paul am sut y gallwn ni gryfhau ein ffydd. Ceir anogaeth bwysig yn Hebreaid 13:1. Y cyngor yw: “Bydded i frawdgarwch barhau.” Yr adnod hon yw testun y flwyddyn ar gyfer 2016.
Testun y flwyddyn ar gyfer 2016: “Bydded i frawdgarwch barhau.”—Hebreaid 13:1
BETH YW BRAWDGARWCH?
5. Beth yw brawdgarwch?
5 Beth yw brawdgarwch? Mae’r gair Groeg a ddefnyddiwyd gan Paul yn golygu “hoffter tuag at frawd.” Brawdgarwch yw’r teimlad cryf a chynnes rhwng aelodau o’r un teulu neu ffrindiau agos. (Ioan 11:36) Dydyn ni ddim yn cogio bod yn frodyr a chwiorydd. Brodyr a chwiorydd ydyn ni. (Mathew 23:8) Dywed Paul: “Byddwch wresog yn eich serch at eich gilydd fel cymdeithas. Rhowch y blaen i’ch gilydd mewn parch.” (Rhufeiniaid 12:10) Mae hyn yn dangos pa mor gryf yw ein hoffter tuag at ein brodyr. Ynghyd â chariad Cristnogol, mae’r brawdgarwch hwn yn helpu pobl Dduw i fod yn ffrindiau agos ac i fod yn gytûn.
6. Beth yw brawdgarwch i wir Gristnogion?
6 Ar y cyfan, ymadrodd sydd i’w gael mewn llenyddiaeth Gristnogol yw “brawdgarwch.” I’r Iddewon, roedd y gair “brawd,” gan amlaf, yn cyfeirio at berthnasau ac weithiau at berson y tu allan i’r teulu. Ond doedd y gair byth yn cynnwys rhywun nad oedd yn Iddew. Ond i wir Gristnogion, mae’n cynnwys unrhyw wir Gristion, a does dim ots o ba wlad y mae’n dod. (Rhufeiniaid 10:12) Mae Jehofa yn ein dysgu ni i garu ein gilydd fel brodyr. (1 Thesaloniaid 4:9) Ond, pam mae’n rhaid dal ati i fod yn frawdgarol?
PAM MAE PARHAU I DDANGOS BRAWDGARWCH MOR BWYSIG?
7. (a) Beth yw’r rheswm pennaf dros fod yn frawdgarol? (b) Rhowch reswm arall sy’n dangos pa mor bwysig yw dyfnhau ein cariad tuag at ein gilydd.
7 Rheswm pwysig dros fod yn frawdgarol yw oherwydd bod Jehofa yn mynnu hynny. Ni allwn garu Jehofa os 1 Ioan 4:7, 20, 21) Rheswm arall yw oherwydd ein bod ni’n dibynnu ar ein gilydd, yn enwedig yn ystod adegau anodd. Pan ysgrifennodd Paul ei lythyr at y Cristnogion Hebrëig, roedd yn gwybod y byddai rhai yn gorfod gadael eu cartrefi a’u heiddo personol. Disgrifiodd Iesu pa mor anodd y byddai’r amser hwnnw. (Marc 13:14-18; Luc 21:21-23) Felly, cyn i’r cyfnod hwnnw ddod, roedd yn rhaid i’r Cristnogion hynny ddyfnhau eu cariad tuag at ei gilydd.—Rhufeiniaid 12:9.
nad ydyn ni’n caru ein brodyr. (Dylen ni sicrhau bod ein brawdgarwch yn gryf heddiw oherwydd y bydd yn ein helpu ni i ddyfalbarhau yn wyneb unrhyw dreialon a all godi yn y dyfodol
8. Beth dylen ni ei wneud heddiw cyn i’r gorthrymder mawr ddod?
8 Mae’r gorthrymder mwyaf yn hanes dynoliaeth yn prysur ddod. (Marc 13:19; Datguddiad 7:1-3) Pwysig fydd ufuddhau i’r cyngor: “Ewch i’ch ystafell, caewch y drws, ac ymguddiwch am ennyd, nes i’r llid gilio.” (Eseia 26:20) Gallai’r “ystafell” honno gyfeirio at ein cynulleidfa. Yn y gynulleidfa rydyn ni’n addoli Jehofa ar y cyd. Ond mae’n rhaid inni wneud mwy na chwrdd gyda’n gilydd. Gwnaeth Paul atgoffa’r Cristnogion yn Jerwsalem fod angen iddyn nhw ennyn cariad a gweithredoedd da yn ei gilydd. (Hebreaid 10:24, 25) Bydd cryfhau ein brawdgarwch heddiw yn ein helpu ni i ddyfalbarhau yn wyneb treialon y dyfodol.
9. (a) Pa gyfleoedd sydd gennyn ni i fod yn frawdgarol heddiw? (b) Rhowch enghreifftiau sy’n dangos sut mae pobl Jehofa wedi dangos brawdgarwch.
9 Mae gennyn ni gyfleoedd heddiw i fod yn frawdgarol, cyn i’r gorthrymder mawr ddechrau. Mae llawer o’n brodyr wedi dioddef oherwydd daeargrynfeydd, llifogydd, corwyntoedd, tswnamïau, neu drychinebau naturiol eraill. Mae rhai brodyr yn cael eu herlid. (Mathew 24:6-9) Mae rhai eraill yn wynebu problemau economaidd dyddiol. (Datguddiad 6:5, 6) Fodd bynnag, wrth i’n brodyr ddioddef problemau, mae hyn yn rhoi cyfle inni ddangos cymaint yr ydyn ni yn eu caru nhw. Er bod cariad llawer wedi oeri yn y byd hwn, mae’n dra phwysig ein bod ni’n dangos brawdgarwch. (Mathew 24:12) [1]—Gweler yr ôl-nodyn.
SUT GALL EIN BRAWDGARWCH BARHAU?
10. Beth byddwn ni’n bwrw golwg arno nesaf?
10 Er gwaethaf ein problemau, sut gallwn ni sicrhau ein bod ni’n parhau i fod yn frawdgarol? Sut gallwn ni brofi bod y cariad hwn gennyn ni tuag at ein brodyr? Ar ôl dweud, “bydded i frawdgarwch barhau,” mae’r apostol Paul wedi rhestru gwahanol
ffyrdd sy’n helpu Cristnogion i wneud hyn. Gad inni fwrw golwg ar chwech ohonyn nhw.11, 12. Beth mae dangos lletygarwch yn ei olygu? (Gweler y llun agoriadol.)
11 “Peidiwch ag anghofio lletygarwch.” (Darllenwch Hebreaid 13:2.) Beth yw ystyr “lletygarwch”? “Bod yn garedig wrth bobl ddiarth” oedd ystyr y gair Groeg gwreiddiol. A dyna a wnaeth Abraham a Lot, pan oedden nhw’n garedig iawn i ymwelwyr nad oedden nhw yn eu hadnabod. Yn y pen draw, sylweddolodd Abraham a Lot mai angylion oedd yr ymwelwyr hynny. (Genesis 18:2-5; 19:1-3) Ysgogodd yr esiamplau hyn y Cristnogion yn Jerwsalem i fod yn lletygar.
12 Sut gallwn ni fod yn lletygar? Gallwn ni wahodd ein brodyr i’n cartrefi i gael pryd o fwyd gyda ni neu i dderbyn anogaeth. Er nad ydyn ni efallai yn adnabod arolygwr y gylchdaith a’i wraig yn dda, gallwn ni eu gwahodd nhw y tro nesaf maen nhw’n ymweld â’r gynulleidfa. (3 Ioan 5-8) Does dim rhaid inni baratoi gwledd nac ychwaith fynd i wario pres mawr. Y nod yw annog ein brodyr, nid ein dangos ein hunain. Ac ni ddylen ni wahodd yn unig y rhai sy’n gallu talu’r gymwynas yn ôl. (Luc 10:41, 42; 14:12-14) Pwysig yw nad ydyn ni byth yn rhy brysur i ddangos lletygarwch!
13, 14. Sut gallwn ni ‘gofio’r carcharorion’?
13 “Cofiwch y carcharorion.” (Darllenwch Hebreaid 13:3.) Pan ysgrifennodd Paul y geiriau hyn, cyfeiriodd at y brodyr a oedd yn y carchar oherwydd eu ffydd. Rhoddodd Paul ganmoliaeth i’r gynulleidfa am gydymdeimlo â’r brodyr a oedd yn dioddef yn y carchar. (Hebreaid 10:34) Roedd rhai brodyr yn helpu Paul tra oedd yn y carchar am bedair blynedd, ond roedd eraill yn byw yn rhy bell i ffwrdd i’w helpu. Sut gallai’r rhai hynny helpu Paul? Drwy ddal ati i weddïo’n daer drosto.—Philipiaid 1:12-14; Hebreaid 13:18, 19.
Gallwn ni weddïo dros y brodyr a’r chwiorydd, a’r plant sydd yn y carchar yn Eritrea
14 Heddiw, mae llawer o Dystion yn y carchar oherwydd eu ffydd. Gall y brodyr sy’n byw yn agos i’r carchar roi help ymarferol. Ond mae llawer ohonon ni’n byw yn rhy bell i ffwrdd, felly, sut gallwn ninnau helpu? Bydd ein brawdgarwch yn ein hysgogi ni i weddïo’n ddwys drostyn nhw. Gallwn ni weddïo dros y brodyr a’r chwiorydd, a’r plant sydd yn y carchar yn Eritrea, gan gynnwys ein brodyr Paulos Eyassu, Isaac Mogos, a Negede Teklemariam, sy’n dal yn y carchar ar ôl 20 mlynedd.
15. Sut gallwn ni barchu ein priodas?
15 “Bydded priodas mewn parch gan bawb.” (Darllenwch Hebreaid 13:4.) Gallwn ni fod yn frawdgarol drwy fod yn foesol lân. (1 Timotheus 5:1, 2) Er enghraifft, petasen ni’n cyflawni anfoesoldeb rhywiol â brawd neu chwaer, bydden ni’n brifo’r person hwnnw ac yn brifo ei deulu. Byddai’r berthynas glòs rhyngon ni a’n brodyr yn cael ei niweidio. (1 Thesaloniaid 4:3-8) Meddylia hefyd sut y bydd gwraig yn teimlo petai hi’n darganfod bod ei gŵr yn gwylio pornograffi. A fyddai hi’n teimlo bod ei gŵr yn ei charu hi ac yn parchu’r drefn briodasol?—Mathew 5:28.
16. Sut mae bod yn fodlon yn ein helpu ni i fod yn frawdgarol?
16 “Byddwch yn fodlon ar yr hyn sydd gennych.” (Darllenwch Hebreaid 13:5.) Bydd ymddiried yn Jehofa yn ein helpu i fod yn fodlon ar yr hyn sydd gennyn ni. Sut mae hyn yn ein helpu i ddangos brawdgarwch? Pan ydyn ni’n fodlon, byddwn ni’n cofio bod ein cyd-Gristnogion yn llawer iawn pwysicach na phethau materol. (1 Timotheus 6:6-8) Fyddwn ni ddim yn grwgnach am ein brodyr nac yn cwyno am ein hamgylchiadau. Hefyd, fyddwn ni ddim yn genfigennus o bobl eraill nac yn farus. Yn hytrach, byddwn ni’n hael.—1 Timotheus 6:17-19.
17. Sut mae bod ‘yn hyderus’ yn ein helpu ni i ddangos brawdgarwch?
17 Byddwch yn hyderus. (Darllenwch Hebreaid 13:6.) Mae ymddiried yn Jehofa yn rhoi’r hyder inni ddyfalbarhau. Mae’r hyder hwn yn ein galluogi i feithrin agwedd bositif a bod yn frawdgarol drwy annog a chysuro ein brodyr. (1 Thesaloniaid 5:14, 15) Hyd yn oed yn ystod y gorthrymder mawr, gallwn fod yn ddewr o wybod bod ein gwaredigaeth yn agos.—Luc 21:25-28.
Gallwn fod yn ddewr o wybod bod ein gwaredigaeth yn agos
18. Sut gallwn ni ddyfnhau ein cariad tuag at ein henuriaid?
Hebreaid 13:7, 17.) Mae’r henuriaid yn ein cynulleidfa yn defnyddio eu hamser i weithio’n galed ar ein cyfer. Wrth inni ystyried popeth y maen nhw yn ei wneud, rydyn ni’n eu caru’n fwy. Dydyn ni byth eisiau iddyn nhw ddigalonni na bod yn rhwystredig oherwydd ein hymddygiad. Yn hytrach, rydyn ni eisiau ufuddhau iddyn nhw o’n gwirfodd. Trwy wneud hyn, byddwn ni’n meddwl neu’n “synio’n uchel iawn amdanynt mewn cariad, ar gyfrif eu gwaith.”—1 Thesaloniaid 5:13.
18 “Cadwch mewn cof eich arweinwyr.” (DarllenwchDAL ATI I “RAGORI FWYFWY”
19, 20. Sut gallwn ni barhau i ddangos brawdgarwch mewn ffordd sy’n rhagori’n fwyfwy?
19 Mae pobl Jehofa yn adnabyddus am eu brawdgarwch. Roedd yr un peth yn wir yn nyddiau Paul. Ond, fe wnaeth Paul annog y brodyr i ddangos cariad mewn ffordd lawer iawn mwy. Dywedodd: “Yr ydym yn eich annog, gyfeillion, i ragori fwyfwy.” (1 Thesaloniaid 4:9, 10) Yn wir, mae yna le inni wella o hyd!
20 Felly, wrth inni edrych ar destun y flwyddyn yn Neuadd y Deyrnas eleni, gad inni fyfyrio ar y cwestiynau hyn: A allaf fod yn fwy lletygar? Sut gallaf helpu ein brodyr yn y carchar? Ydw i’n parchu trefn Duw ar gyfer priodas? Beth fydd yn fy helpu i fod yn wirioneddol fodlon? Sut gallaf ymddiried yn fwy yn Jehofa? Sut gallaf fod yn fwy ufudd i’r rhai sy’n arwain yn y gynulleidfa? Os byddwn ni’n gwneud ymdrech i wella ar y chwech agwedd hyn, bydd testun y flwyddyn yn fwy nag arwydd ar y wal inni; fe fydd yn ein hatgoffa ni i roi ar waith eiriau Paul: “Bydded i frawdgarwch barhau.”—Hebreaid 13:1.
^ [1] (paragraff 9) I ddarllen mwy am sut mae Tystion Jehofa wedi dangos brawdgarwch ar ôl i drychineb daro, gweler y fideo Ein Brawdoliaeth Fyd-Eang.