Neidio i'r cynnwys

Neidio i'r cynnwys

EIN BYWYD CRISTNOGOL

Sut i Ddefnyddio’r Sgyrsiau Enghreifftiol

Sut i Ddefnyddio’r Sgyrsiau Enghreifftiol

Mae’r sgyrsiau enghreifftiol yn cael eu paratoi’n ofalus, ac mae llawer o gyhoeddwyr yn gweld eu bod nhw’n effeithiol yn eu tiriogaeth nhw. Ond mae amgylchiadau’n wahanol ym mhob rhan o’r byd, felly yn y weinidogaeth mae cyhoeddwyr yn rhydd i ddechrau sgwrs mewn ffordd wahanol neu i drafod pwnc gwahanol a fydd yn apelio at bobl leol. Wrth gwrs, os oes ’na ymgyrch arbennig dylai pawb ddilyn unrhyw gyfarwyddiadau penodol. Ein nod yw cyflawni ein haseiniad gan Iesu, sef i bregethu newyddion da’r Deyrnas.—Mth 24:14.

Wrth gyflawni aseiniadau myfyrwyr, dylai cyhoeddwyr drafod pwnc y sgwrs enghreifftiol yn Gweithlyfr y Cyfarfodydd. Sut bynnag, oni nodir yn wahanol, gall cyhoeddwyr ddewis cwestiwn, adnod, linc, neu gyd-destun a fydd yn effeithiol yn eu tiriogaeth leol. Mae hyn yn addasu’r cyfarwyddyd yn y gweithlyfr Mehefin 2020, tudalen 8.