Neidio i'r cynnwys

Neidio i'r cynnwys

EIN BYWYD CRISTNOGOL

Mae’r Greadigaeth yn Cryfhau Ein Hyder yn Noethineb Jehofa

Mae’r Greadigaeth yn Cryfhau Ein Hyder yn Noethineb Jehofa

Ydy Jehofa wastad yn gwybod beth sydd orau inni? Yn bendant! Oherwydd hynny, byddai’n ddoeth inni ddilyn ei arweiniad. (Dia 16:3, 9) Er hynny, gall fod yn anodd dilyn ei gyngor pan mae’n wahanol i’n syniadau ni. Gallwn gryfhau ein hyder yn noethineb Jehofa drwy fyfyrio ar ei greadigaeth.—Dia 30:24, 25; Rhu 1:20.

GWYLIA’R FIDEO WEDI EI DDYLUNIO? SUT MAE MORGRUG YN ATAL TAGFEYDD? AC YNA ATEBA’R CWESTIYNAU CANLYNOL:

  • Beth mae morgrug yn ei wneud bob dydd?

  • Sut mae morgrug yn osgoi tagfeydd?

  • Beth gall pobl ei ddysgu o’r ffordd mae morgrug yn teithio o un lle i’r llall?

GWYLIA’R FIDEO WEDI EI DDYLUNIO? GALLU RHYFEDDOL Y WENYNEN I HEDFAN, AC YNA ATEBA’R CWESTIYNAU CANLYNOL:

  • Pam mae’n anodd hedfan awyrennau bach?

  • Sut mae gwenyn yn hedfan yn sefydlog?

  • Sut gallai pobl elwa ar ddoethineb greddfol y wenynen ryw ddydd?

Pa dystiolaeth o ddoethineb Jehofa rwyt ti wedi ei gweld yn dy ardal di?