Neidio i'r cynnwys

Neidio i'r cynnwys

EIN BYWYD CRISTNOGOL

Dewisa Dy Ffrindiau’n Ddoeth

Dewisa Dy Ffrindiau’n Ddoeth

Mae’r hyn a ddigwyddodd i Israel ar wastadedd Moab yn esiampl rybuddiol i Gristnogion. (1Co 10:6, 8, 11) Pan ddechreuodd yr Israeliaid gymdeithasu â merched anfoesol Moab a oedd yn addoli eilunod, cawson nhw eu denu i bechu’n ddifrifol. Roedd y canlyniadau’n drychinebus. (Nu 25:9) Rydyn ni’n byw ymysg cyd-weithwyr, cyd-ddisgyblion, cymdogion, perthnasau, a phobl eraill sydd ddim yn addoli Jehofa. Beth gallwn ni ei ddysgu o’r hanes Beiblaidd hwn am y peryglon o fod yn ffrindiau â rhai fel hyn?

GWYLIA’R FIDEO WARNING EXAMPLES FOR OUR DAY—EXCERPT, AC YNA ATEBA’R CWESTIYNAU CANLYNOL:

  • Pa agwedd anghywir dangosodd Zimri ac eraill wrth siarad â Jamin?

  • Sut gwnaeth Phinehas helpu Jamin i gael y safbwynt cywir?

  • Beth ydy’r gwahaniaeth rhwng bod yn gyfeillgar ag anghredinwyr a bod yn ffrind iddyn nhw?

  • Pam dylen ni fod yn ofalus wrth ddewis ffrindiau agos hyd yn oed o blith y gynulleidfa?

  • Pam dylen ni osgoi sgwrsio ar-lein ar gyfryngau cymdeithasol gyda phobl dydyn ni ddim yn eu hadnabod?