Neidio i'r cynnwys

Neidio i'r cynnwys

RHOI EIN SYLW I’R WEINIDOGAETH | CAEL MWY O LAWENYDD YN Y WEINIDOGAETH

Gofynna Gwestiynau

Gofynna Gwestiynau

Mae Jehofa, “y Duw hapus,” eisiau inni fwynhau y weinidogaeth. (1Ti 1:11, NWT) Bydd ein llawenydd yn tyfu wrth inni weithio i wella ein sgiliau. Gall gofyn cwestiynau ennyn diddordeb, ac mae’n ffordd naturiol o gychwyn sgwrs. Mae cwestiynau yn annog pobl i feddwl ac i resymu. (Mth 22:41-45) Drwy ofyn cwestiynau ac yna gwrando ar yr atebion, rydyn ni’n dangos bod y person yn bwysig inni. (Iag 1:19) Gall atebion y person ein helpu i benderfynu i ba gyfeiriad y dylen ni anelu’r sgwrs.

GWYLIA’R FIDEO CAEL LLAWENYDD DRWY WNEUD DISGYBLION—HOGI DY SGILIAU—GOFYN CWESTIYNAU, AC YNA ATEBA’R CWESTIYNAU CANLYNOL:

  • Pa rinweddau da ddangosodd Lili?

  • Sut defnyddiodd Neeta gwestiynau i ddangos diddordeb personol?

  • Sut defnyddiodd Neeta gwestiynau i ennyn diddordeb Lili yn y newyddion da?

  • Sut defnyddiodd Neeta gwestiynau i annog Lili i feddwl ac i resymu?