Neidio i'r cynnwys

Neidio i'r cynnwys

EIN BYWYD CRISTNOGOL

Bydd Pob Treial yn Dod i Ben Ryw Ddydd

Bydd Pob Treial yn Dod i Ben Ryw Ddydd

Mae treialon yn gallu ein digalonni, yn enwedig pan maen nhw’n para am yn hir. Roedd Dafydd yn gwybod byddai’r amser caled roedd yn ei gael gyda Saul yn dod i ben yn y pen draw, a byddai’n cael ei benodi’n frenin fel gwnaeth Jehofa addo. (1Sa 16:13) Gwnaeth ffydd Dafydd ei helpu i fod yn amyneddgar ac aros nes bod Jehofa’n newid ei sefyllfa.

Wrth wynebu treial, gallen ni wella ein sefyllfa drwy fod yn graff, meddwl yn ofalus, a defnyddio’r wybodaeth sydd ar gael inni. (1Sa 21:12-14; Dia 1:4, BCND) Sut bynnag, gall rhai problemau barhau hyd yn oed ar ôl inni wneud popeth fedrwn ni yn ôl egwyddorion y Beibl. Ar adegau fel hyn, dylen ni aros yn amyneddgar i Jehofa weithredu. Yn fuan bydd yn rhoi diwedd ar ein dioddefaint ac yn “sychu pob deigryn” o’n llygaid ni. (Dat 21:4) Pe bai diwedd i’n treial yn dod o ganlyniad i rywbeth mae Jehofa’n ei wneud neu reswm arall, mae un peth yn sicr: Bydd pob treial yn dod i ben ryw ddydd. Gall y ffaith hon ddod â rhywfaint o gysur inni.

GWYLIA’R FIDEO A UNITED PEOPLE IN A DIVIDED WORLD, AC YNA ATEBA’R CWESTIYNAU CANLYNOL:

  • Pa heriau wynebodd rhai Cristnogion yn yr Unol Daleithiau?

  • Sut gwnaethon nhw ddangos amynedd a chariad?

  • Sut gwnaethon nhw barhau i ganolbwyntio ar y pethau pwysicaf?—Php 1:10