Neidio i'r cynnwys

Neidio i'r cynnwys

RHOI EIN SYLW I’R WEINIDOGAETH | CAEL MWY O LAWENYDD YN Y WEINIDOGAETH

Helpa Fyfyrwyr y Beibl i Feithrin Perthynas Glòs â Jehofa

Helpa Fyfyrwyr y Beibl i Feithrin Perthynas Glòs â Jehofa

Mae Jehofa eisiau inni ei wasanaethu allan o gariad. (Mth 22:37, 38) Bydd cariad tuag at Jehofa yn rhoi nerth i fyfyrwyr y Beibl i wneud y newidiadau sydd eu hangen ac i sefyll yn gadarn yn wyneb treialon. (1In 5:3) Eu cariad tuag at Dduw bydd yn eu hysgogi nhw i gael eu bedyddio.

Helpa dy fyfyrwyr i weld bod Duw yn eu caru nhw. Gofynna gwestiynau fel: “Beth mae hyn yn ei ddysgu iti am Jehofa?” neu “Sut mae hyn yn dangos bod Duw yn dy garu di?” Helpa nhw i weld sut mae Jehofa yn eu helpu nhw yn bersonol. (2Cr 16:9) Rhanna esiamplau o sut mae Jehofa wedi ateb dy weddïau penodol, ac ysgoga nhw i sylwi ar sut mae Jehofa yn ateb eu gweddïau nhw. Daw lawenydd mawr o weld myfyrwyr y Beibl yn ymateb i gariad Jehofa, ac yn dangos bod nhw’n ei garu ac eisiau bod yn ffrind iddo.

GWYLIA’R FIDEO HELPA FYFYRWYR Y BEIBL I FEITHRIN PERTHYNAS GLÒS Â JEHOFA, AC YNA ATEBA’R CWESTIYNAU CANLYNOL:

  • Pa her wynebodd Lili?

  • Sut gwnaeth Neeta helpu Lili?

  • Sut roedd Lili yn gallu dod dros yr her?