Neidio i'r cynnwys

Neidio i'r cynnwys

EIN BYWYD CRISTNOGOL

Priodas—Partneriaeth Sy’n Para am Oes

Priodas—Partneriaeth Sy’n Para am Oes

Mae priodasau llwyddiannus ymhlith Cristnogion yn anrhydeddu Jehofa ac yn dod â llawenydd i’r gŵr a’r wraig. (Mc 10:9) Er mwyn cael priodas hir a hapus, mae’n rhaid i Gristnogion ddefnyddio egwyddorion y Beibl wrth ddewis cymar.

Paid â chanlyn pan wyt ti’n rhy ifanc oherwydd mae teimladau rhywiol cryf yn gallu amharu ar dy allu i wneud penderfyniad da. (1Co 7:36) Gwna ddefnydd doeth o’r blynyddoedd pan wyt ti’n sengl drwy gryfhau dy berthynas â Duw a meithrin rhinweddau Cristnogol. Yna, pan wyt ti’n priodi byddi di’n gallu cyfrannu mwy i wneud i’r briodas lwyddo.

Cyn cytuno i briodi rhywun, cymera amser i ddod i adnabod pa fath o berson ydy ef neu hi ar y tu mewn. (1Pe 3:4) Os wyt ti’n gweld rhywbeth difrifol sy’n dy boeni di, trafoda hynny gyda nhw. Fel sy’n wir am bob perthynas, dylai pobl briod ganolbwyntio mwy ar beth gallan nhw ei roi i’w cymar yn hytrach na’r hyn gallan nhw ei dderbyn. (Php 2:3, 4) Os wyt ti’n rhoi egwyddorion y Beibl ar waith cyn priodi, byddi di’n gosod sylfaen dda ar gyfer priodas hapus.

GWYLIA’R FIDEO PREPARING FOR MARRIAGE—PART 3: “CALCULATE THE EXPENSE,” AC YNA ATEBA’R CWESTIYNAU CANLYNOL:

  • Sut datblygodd perthynas rhwng y chwaer a Shane?

  • Beth sylwodd hi wrth i’r berthynas barhau?

  • Sut gwnaeth ei rhieni ei helpu hi, a pha benderfyniad doeth a wnaeth hi?