EIN BYWYD CRISTNOGOL
Doethineb ar Gyfer Bywyd Bob Dydd ar JW.ORG
Mae Gair Duw yn rhoi popeth rydyn ni ei angen i ymdopi â threialon yn yr amserau anodd hyn. (2Ti 3:1, 16, 17) Ond eto, weithiau rydyn ni angen help i ddod o hyd i egwyddorion y Beibl sy’n berthnasol i sefyllfaoedd penodol. Er enghraifft, wyt ti’n rhiant sy’n edrych am wybodaeth ar sut i fagu plant? Wyt ti’n berson ifanc ac mae dy ffydd yn cael ei phrofi? Wyt ti’n galaru oherwydd mae dy ŵr neu dy wraig wedi marw? Mae gwybodaeth ar gael ar jw.org sy’n dangos egwyddorion Beiblaidd a fydd yn dy helpu di gyda’r sefyllfaoedd hyn ac eraill.—Dia 2:3-6.
Ar dudalen hafan jw.org, dewisa’r tab DYSGEIDIAETHAU’R BEIBL. (Gweler llun 1.) O’r gwymprestr, dewisa’r categori sydd o ddiddordeb iti. Neu dewisa LLYFRGELL > CYFRES ERTHYGLAU a’r categori sydd o ddiddordeb iti. (Gweler llun 2.) Gelli di weld yr un categorïau yn JW Library®. * Efallai byddi di’n mwynhau edrych trwy’r erthyglau yn y llefydd hyn. Opsiwn arall yw edrych am bwnc penodol gan ddefnyddio’r blwch chwilio ar jw.org.
Teipia’r pynciau canlynol yn y blwch chwilio, a noda pa erthyglau hoffet ti eu darllen.
-
Magu plant
-
Emosiynau pobl ifanc
-
Colli anwylyn
^ Mae rhai cyfresi cyfan o erthyglau yn ymddangos ar jw.org yn unig.