Neidio i'r cynnwys

Neidio i'r cynnwys

EIN BYWYD CRISTNOGOL

Cynnal Cyfarfodydd Ymarferol ar Gyfer y Weinidogaeth

Cynnal Cyfarfodydd Ymarferol ar Gyfer y Weinidogaeth

Mae cyfarfodydd ar gyfer y weinidogaeth, fel pob cyfarfod y gynulleidfa, yn ddarpariaeth gan Jehofa sy’n ein galluogi ni i annog ein gilydd i ddangos cariad a gwneud daioni. (Heb 10:24, 25) Dylen nhw bara am bump i saith munud, gan gynnwys trefnu’r grwpiau, aseinio’r diriogaeth, a dweud y weddi. (Os ydy’r grŵp yn dilyn cyfarfod arall, dylai fod yn fyrrach fyth.) Dylai’r arweinydd baratoi rhywbeth ymarferol i’r rhai fydd yn cymryd rhan yn y weinidogaeth y diwrnod hwnnw. Er enghraifft, ar ddydd Sadwrn pan na fyddai llawer wedi bod yn y weinidogaeth ers y penwythnos cynt, efallai byddai’n ddigon i drafod beth i’w ddweud yn unig. Pa bynciau eraill byddai’n dda i drafod?

  • Sgwrs enghreifftiol o Ein Bywyd a’n Gweinidogaeth Gristnogol—Gweithlyfr y Cyfarfodydd

  • Sut i ddechrau sgwrs gan ddefnyddio eitem newyddion neu ddigwyddiad diweddar

  • Sut i ymateb i wrthwynebiad cyffredin

  • Sut i ymateb i anffyddiwr, esblygwr, person sy’n siarad iaith arall, neu rywun sy’n perthyn i grefydd sydd ddim yn gyffredin yn dy ardal

  • Sut i ddefnyddio un o nodweddion y wefan jw.org, yr ap JW Library®, neu’r Beibl

  • Sut i ddefnyddio un o’r tŵls yn ein Bocs Tŵls Dysgu

  • Sut i wneud mathau penodol o’r weinidogaeth, fel tystiolaethu dros y ffôn, ysgrifennu llythyrau, tystiolaethu cyhoeddus, ail alwadau, neu astudiaethau Beiblaidd

  • Pethau i’w cofio am ddiogelwch, hyblygrwydd, bod yn gwrtais, cael agwedd bositif, neu rywbeth tebyg

  • Gwers neu fideo o’r llyfryn Ymroi i Ddarllen a Dysgu

  • Sut i annog neu helpu dy bartner yn y weinidogaeth

  • Ysgrythur sy’n berthnasol i’r weinidogaeth neu brofiad calonogol o’r weinidogaeth