Neidio i'r cynnwys

Neidio i'r cynnwys

EIN BYWYD CRISTNOGOL

Sut Gall Chwiorydd Wneud Mwy i Jehofa?

Sut Gall Chwiorydd Wneud Mwy i Jehofa?

Mae chwiorydd yn gwneud lot i gyfrannu at waith y Deyrnas. (Sal 68:11) Maen nhw’n cynnal llawer o’r astudiaethau Beiblaidd. Mae’r rhan fwyaf o arloeswyr llawn amser yn chwiorydd. Mae miloedd o chwiorydd gweithgar yn gwasanaethu yn y Bethel, neu fel cenhadon, neu gyfieithwyr, neu’n gweithio ar brosiectau adeiladu. Mae chwiorydd aeddfed yn cryfhau eu teuluoedd a’r gynulleidfa. (Dia 14:1) Er nad ydy chwiorydd yn gallu gwasanaethu fel henuriaid neu weision gweinidogaethol, maen nhw’n dal yn gallu ceisio gwneud mwy yn y gynulleidfa. Os wyt ti’n chwaer, beth yw rhai ffyrdd gelli di ymestyn allan?

  • Meithrin rhinweddau duwiol.—1Ti 3:11; 1Pe 3:3-6

  • Helpu chwiorydd llai profiadol yn y gynulleidfa.—Tit 2:3-5

  • Ceisio gwneud mwy yn y weinidogaeth a gwella dy sgiliau

  • Dysgu iaith newydd

  • Symud lle mae ’na fwy o angen

  • Gwneud cais i weithio yn y Bethel neu i helpu gyda phrosiectau adeiladu theocrataidd

  • Gwneud cais i fynd i’r Ysgol ar Gyfer Pregethwyr y Deyrnas

GWYLIA’R FIDEO CHWIORYDD SY’N GWEITHIO’N GALED I’R ARGLWYDD, AC YNA ATEBA’R CWESTIWN HWN:

  • Sut gwnaeth sylwadau pob chwaer dy galonogi di?