Rhagfyr 30, 2024–Ionawr 5, 2025
SALMAU 120-126
Cân 144 a Gweddi | Sylwadau Agoriadol (1 mun.)
1. Roedden Nhw’n Wylo Wrth Hau, ond yn Llawen Wrth Fedi
(10 mun.)
Roedd yr Israeliaid mor hapus ar ôl cael eu rhyddhau o Fabilon er mwyn adfer addoliad pur (Sal 126:1-3)
Efallai fod y bobl a oedd wedi dod yn ôl i Jwdea wedi wylo oherwydd y gwaith caled oedd o’u blaenau (Sal 126:5; w04-E 6/1 16 ¶10)
Gwnaeth y bobl ddal ati, a chawson nhw eu bendithio (Sal 126:6; w21.11 24 ¶17; w01-E 7/15 18-19 ¶13-14; gweler y llun)
MYFYRIA AR HYN: Ar ôl inni oroesi Armagedon, pa heriau byddwn ni’n eu hwynebu wrth i bopeth gael ei ailadeiladu? Pa fendithion a gawn ni?
2. Cloddio am Drysor Ysbrydol
(10 mun.)
-
Sal 124:2-5—A allwn ni ddisgwyl i Jehofa ein hamddiffyn ni’n gorfforol fel gwnaeth gyda chenedl Israel? (cl-E 73 ¶15)
-
Pa drysorau ysbrydol hoffet ti eu rhannu â ni o ddarlleniad y Beibl yr wythnos hon?
3. Darlleniad o’r Beibl
(4 mun.) Sal 124:1–126:6 (th gwers 5)
4. Dechrau Sgwrs
(3 mun.) TYSTIOLAETHU’N GYHOEDDUS. (lmd gwers 3 pwynt 5)
5. Parhau â’r Sgwrs
(4 mun.) O DŶ I DŶ. Ar yr alwad flaenorol, mynegodd y person amheuon am y Beibl. (lmd gwers 9 pwynt 5)
6. Gwneud Disgyblion
Cân 155
7. Llawenha yn Addewidion Jehofa
(15 mun.) Trafodaeth.
Gwnaeth Jehofa gyflawni ei addewidion i’w bobl alltud ym Mabilon. Gwnaeth ef eu rhyddhau nhw a’u hiacháu nhw’n ysbrydol. (Esei 33:24) Mae’n rhaid bod Jehofa wedi eu hamddiffyn nhw a’u hanifeiliaid rhag cael eu lladd gan lewod ac anifeiliaid gwyllt eraill a oedd wedi cynyddu tra oedden nhw i ffwrdd. (Esei 65:25) Byddan nhw’n gallu mwynhau byw yn eu cartrefi eu hunain a bwyta ffrwyth eu gwinllannoedd. (Esei 65:21) Cawson nhw fendith Jehofa ar eu gwaith, a gwnaethon nhw fwynhau bywyd hir.—Esei 65:22, 23.
Dangosa’r FIDEO Llawenhewch yn Addewidion Duw am Heddwch—Clip. Yna gofynna i’r gynulleidfa:
-
Sut rydyn ni’n gweld cyflawniad ysbrydol o’r proffwydoliaethau hyn?
-
Sut byddan nhw’n cael eu cyflawni’n llythrennol yn y byd newydd?
-
Pa rai rwyt ti’n edrych ymlaen fwyaf atyn nhw?
8. Astudiaeth Feiblaidd y Gynulleidfa
(30 mun.) bt pen. 8 ¶22-24, blwch ar t. 67