Pwy Yw’r Diafol?
Gwers 4
Pwy Yw’r Diafol?
Satan y Diafol—o ble daeth e? (1, 2)
Sut mae Satan yn camarwain pobl? (3-7)
Pam dylech chi wrthsefyll y Diafol? (7)
1. Mae’r gair “diafol” yn golygu rhywun sy’n dweud celwydd drwg am berson arall. Ystyr “satan” ydi gelyn neu wrthwynebydd. Dyma dermau a roddir i elyn pennaf Duw. Ar y cychwyn, ’roedd e’n angel perffaith yn y nefoedd gyda Duw. Fodd bynnag, yn ddiweddarach fe feddyliodd ormod ohono’i hun ac ’roedd yn dymuno cael yr addoliad sy’n iawn berthyn i Dduw.—Mathew 4:8-10.
2. Fe siaradodd yr angel hwn, Satan, gydag Efa drwy gyfrwng neidr. Drwy ddweud celwydd wrthi, fe’i cafodd hi i anufuddhau i Dduw. Felly fe ymosododd Satan ar yr hyn a elwir yn “awdurdod brenhinol” Duw, neu ei safle fel y Goruchaf. Fe gododd Satan amheuaeth a yw Duw yn teyrnasu mewn modd teilwng er budd a lles Ei ddeiliaid. Fe gododd Satan amheuaeth hefyd a fyddai unrhyw fod dynol yn aros yn deyrngar i Dduw. Wrth weithredu fel hyn, gwnaeth Satan ei hun yn elyn i Dduw. Dyna pam y cafodd yr enw Satan y Diafol.—Genesis 3:1-5; Job 1:8-11; Datguddiad 12:9.
3. Mae Satan yn ceisio twyllo pobl i’w cael nhw i’w addoli e. (2 Corinthiaid 11:3, 14) Un ffordd sydd ganddo o gamarwain pobl ydi trwy gau grefydd. Os oes crefydd yn dysgu celwyddau am Dduw, mae hynny’n ateb diben Satan i’r dim. (Ioan 8:44) Fe all pobl sy’n aelodau gau grefyddau gredu’n ddiffuant eu bod nhw’n addoli’r gwir Dduw. Ond y ffaith amdani yw eu bod nhw’n gwasanaethu Satan. Ef ydi “duw’r oes bresennol.”—2 Corinthiaid 4:4.
4. Mae ysbrydegaeth yn ffordd arall sydd gan Satan o ddod â phobl dan ei awdurdod. Efallai eu bod nhw’n galw ar ysbrydion i’w hamddiffyn, i niweidio eraill, i ragfynegi’r dyfodol, neu i gyflawni gwyrthiau. Satan ydi’r grym drwg sydd y tu ôl i’r holl arferion hyn. Er mwyn boddhau Duw, rhaid i ni beidio ag ymhél dim ag ysbrydegaeth.—Deuteronomium 18:10-12; Actau 19:18, 19.
5. Mae Satan hefyd yn camarwain pobl drwy falchder hiliol eithafol ac addoli cyfundrefnau gwleidyddol. Mae rhai yn credu fod eu cenedl neu eu hil nhw yn well Actau 10:34, 35) Mae pobl eraill yn edrych i gyfeiriad cyfundrefnau gwleidyddol i ddatrys problemau dyn. Wrth wneud hyn, maen’ nhw’n gwrthod Teyrnas Dduw. Hi yw’r unig ateb i’n problemau. —Daniel 2:44.
nag eraill. Ond ’dyw hyn ddim yn wir. (6. Ffordd arall sydd gan Satan o gamarwain pobl ydi drwy eu temtio nhw â chwantau pechadurus. Mae Jehofah yn dweud wrthym i osgoi arferion pechadurus oherwydd fe ŵyr y byddant yn gwneud niwed inni. (Galatiaid 6:7, 8) Fe all y bydd rhai pobl am i chi ymuno â nhw mewn arferion o’r fath. Ond, cofiwch, Satan mewn gwirionedd sydd am i chi wneud y pethau hyn.—1 Corinthiaid 6:9, 10; 15:33.
7. Fe all Satan ddefnyddio erledigaeth neu wrthwynebiad er mwyn eich cael chi i adael Jehofah. Efallai y bydd rhai o’ch anwyliaid yn troi yn ddig iawn am eich bod chi’n astudio’r Beibl. Efallai y bydd eraill yn eich gwawdio. Ond i bwy ’rydych yn ddyledus am eich bywyd? Mae Satan am eich dychryn chi fel y byddwch yn peidio â pharhau i ddysgu am Jehofah. Peidiwch â gadael i Satan ennill! (Mathew 10:34-39; 1 Pedr 5:8, 9) Drwy wrthsefyll y Diafol, mi fedrwch wneud Jehofah yn hapus a dangos eich bod yn cefnogi Ei awdurdod brenhinol.—Diarhebion 27:11.
[Lluniau ar dudalen 9]
Mae gau grefydd, ysbrydegaeth, a chenedlaetholdeb yn camarwain pobl
[Llun ar dudalen 9]
Gwrthsefwch Satan drwy barhau i ddysgu am Jehofah