CWESTIWN 11
Beth Sy’n Digwydd pan Fydd Rhywun yn Marw?
“Mae’r anadl yn mynd allan ohono, ac mae’n mynd yn ôl i’r pridd; a’r diwrnod hwnnw mae ei holl bolisïau yn dod i ben!”
Salm 146:4
“Mae’r byw yn gwybod eu bod nhw’n mynd i farw, ond dydy’r meirw’n gwybod dim byd! . . . Gwna dy orau glas beth bynnag wyt ti’n ei wneud. Fydd dim cyfle i weithio na myfyrio, dim gwybodaeth na doethineb ym myd y meirw lle rwyt ti’n mynd.”
Pregethwr 9:5, 10
‘Yna dwedodd Iesu wrthyn nhw, “Mae ein ffrind Lasarus wedi syrthio i gysgu. Dw i’n mynd yno i’w ddeffro.” Ond marwolaeth oedd Iesu’n ei olygu wrth “gwsg.” Roedd ei ddisgyblion wedi cael y syniad ei fod yn sôn am orffwys naturiol. Felly dyma Iesu’n dweud wrthyn nhw’n blaen, “Mae Lasarus wedi marw.”’