Cyflwyniad i Air Duw
Mae’r Beibl yn cynnwys neges oddi wrth Dduw ar ein cyfer ni heddiw. Mae’r neges hon, sef Gair Duw, yn dangos sut y gallwn ni gael bywyd llwyddiannus a sut i ennill ei gymeradwyaeth. Hefyd, mae’n ateb y cwestiynau canlynol:
SUT I DDARGANFOD ADNODAU YN Y BEIBL
Mae’r Beibl yn gasgliad o 66 o lyfrau llai. Mae dwy ran iddo: yr Ysgrythurau Hebraeg ac Aramaeg (“Yr Hen Destament”) a’r Ysgrythurau Groeg (“Y Testament Newydd”). Mae pob llyfr wedi ei rannu’n benodau ac adnodau. Pan fydd adnod yn cael ei dyfynnu, mae’r rhif cyntaf ar ôl enw’r llyfr yn cyfeirio at y bennod, a’r rhif nesaf yn cyfeirio at yr adnod neu’r adnodau. Er enghraifft, mae Genesis 1:1 yn cyfeirio at Genesis pennod 1, adnod 1.