Neidio i'r cynnwys

Neidio i'r cynnwys

5

Neges y Beibl

Neges y Beibl

Mae gan Jehofa Dduw yr hawl i reoli. Ei ffordd Ef o reoli yw’r ffordd orau. Bydd Ei fwriad ar gyfer y ddaear a dynolryw yn cael ei gyflawni.

Ar ôl 4026 COG

Mae’r “sarff” yn cwestiynu hawl Jehofa i reoli a’i ffordd o reoli. Mae Jehofa yn addo gosod “had” a fydd, yn y pen draw, yn ysigo’r sarff, Satan. (Genesis 3:1-5, 15) Ond, mae Jehofa yn caniatáu amser i ddynolryw reoli drosto’i hun o dan ddylanwad y sarff.

1943 COG

Mae Jehofa yn dweud wrth Abraham y bydd yr “had” addawedig yn un o’i ddisgynyddion.​—Genesis 22:18.

Ar ôl 1070 COG

Mae Jehofa yn sicrhau Brenin Dafydd, a’i fab Solomon yn nes ymlaen, y bydd yr had yn dod drwy eu llinach nhw.—2 Samuel 7:12, 16; 1 Brenhinoedd 9:3-5; Eseia 9:6, 7.

29 OG

Mae Jehofa yn dweud bod Iesu yn Etifedd gorsedd Dafydd, yr “had” addawedig.​—Galatiaid 3:16; Luc 1:31-33; 3:21, 22.

33 OG

Mae’r sarff Satan yn ysigo’r “had” addawedig am gyfnod byr, drwy gynllwynio i Iesu gael ei ladd. Mae Jehofa yn atgyfodi Iesu i fywyd yn y nefoedd ac yn derbyn gwerth ei fywyd perffaith. Mae hyn yn rhoi sail i faddau pechodau ac i roi bywyd tragwyddol i ddisgynyddion Adda.​—Genesis 3:15; Actau 2:32-36; 1 Corinthiaid 15:21, 22.

Tua 1914 OG

Mae Iesu’n bwrw’r sarff, Satan, i’r ddaear, ac yn ei gyfyngu yno.​—Datguddiad 12:7-9, 12.

Dyfodol

Mae Iesu’n caethiwo Satan am 1,000 o flynyddoedd, ac yna, mewn ffordd symbolaidd yn sathru pen Satan. Mae bwriad gwreiddiol Jehofa ar gyfer y ddaear a dynolryw yn cael ei gyflawni. Mae ei enw’n cael ei sancteiddio, a’i ffordd o reoli yn cael ei chyfiawnhau.​—Datguddiad 20:1-3, 10; 21:3, 4.