Neidio i'r cynnwys

Neidio i'r cynnwys

PENNOD UN DEG UN

Pam Mae Pobl yn Dioddef?

Pam Mae Pobl yn Dioddef?

1, 2. Beth mae llawer o bobl yn ei ofyn?

MAE pethau trist ac ofnadwy ar y newyddion bron bob dydd. Clywn ni am tswnami yn dinistrio pentref, am ddyn yn saethu pobl yn farw mewn eglwys, neu am fam yn marw o gancr ac yn gadael pump o blant.

2 Pan fydd pethau fel hyn yn digwydd, cwestiwn naturiol yw “Pam?” Mae llawer yn gofyn pam mae’r byd yn llawn casineb a dioddefaint. Ydych chi erioed wedi pendroni dros y cwestiwn hwnnw?

3, 4. (a) Pa gwestiynau ofynnodd Habacuc? (b) Beth oedd ateb Jehofa?

3 Yn y Beibl, gwelwn fod dynion ffyddlon iawn wedi gofyn yr un cwestiynau. Er enghraifft, gofynnodd y proffwyd Habacuc i Jehofa: “Pam wyt ti’n caniatáu y fath anghyfiawnder? Pam wyt ti’n gadael i’r fath ddrygioni fynd yn ei flaen? Does dim i’w weld ond dinistr a thrais! Dim byd ond ffraeo a mwy o wrthdaro!”—Habacuc 1:3.

4 Yn Habacuc 2:2, 3, gwelwn ateb Duw i gwestiynau Habacuc, ynghyd â’i addewid i gywiro’r sefyllfa. Mae Jehofa yn caru pobl yn fawr. Mae’r Beibl yn dweud: “Mae e’n gofalu amdanoch chi.” (1 Pedr 5:7) Rydyn ni’n casáu gweld pobl yn dioddef, ond mae Duw yn ei gasáu’n fwy byth. (Eseia 55:8, 9) Felly, dewch inni drafod y cwestiwn, Pam mae cymaint o ddioddefaint yn y byd?

PAM MAE CYMAINT O DDIODDEFAINT?

5. Beth mae llawer o arweinwyr crefyddol yn ei ddweud am ddioddefaint? Beth mae’r Beibl yn ei ddweud?

5 Yn aml, bydd offeiriaid a gweinidogion yn dweud mai ewyllys Duw yw dioddefaint. Mae rhai yn dweud bod popeth sy’n digwydd inni, gan gynnwys trychinebau, wedi ei benderfynu gan Dduw, ac nad oes modd inni ddeall pam. Mae eraill yn dweud bod Duw yn cymryd pobl, gan gynnwys plant bach, i fod gydag ef yn y nefoedd. Ond dydy hynny ddim yn wir. Dydy Jehofa byth yn achosi unrhyw ddrwg. Mae’r Beibl yn dweud: “Fyddai Duw byth yn gwneud drwg.”—Job 34:10.

6. Pam mae llawer yn beio Duw am y dioddefaint yn y byd?

6 Mae llawer o bobl yn rhoi’r bai ar Dduw am yr holl ddioddefaint yn y byd, oherwydd eu bod nhw’n credu mai Duw sy’n rheoli’r byd. Ond fel y gwelon ni ym Mhennod 3, Satan y Diafol sy’n rheoli’r byd.

7, 8. Pam mae cymaint o ddioddefaint yn y byd?

7 Mae’r Beibl yn dweud bod y “byd o’n cwmpas ni yn cael ei reoli gan yr un drwg.” (1 Ioan 5:19) Mae rheolwr y byd hwn, Satan, yn filain. Y mae’n “twyllo’r byd i gyd.” (Datguddiad 12:9) Mae llawer o bobl yn ei ddilyn. Dyna un rheswm pam mae’r byd yn llawn celwyddau, casineb, a chreulondeb.

8 Mae rhesymau eraill dros ddioddefaint hefyd. Ar ôl i Adda ac Efa gefnu ar Dduw, trosglwyddon nhw eu cyflwr pechadurus, sef y tueddiad tuag at ddrwg, i’w plant. Ac oherwydd pechod, mae pobl yn achosi poen i bobl eraill. Yn aml maen nhw eisiau bod yn fwy pwysig nag eraill. Maen nhw’n ymladd, yn rhyfela, ac yn gormesu. (Pregethwr 4:1; 8:9) Weithiau rydyn ni’n dioddef oherwydd damweiniau. (Pregethwr 9:11) Gall damweiniau a phethau drwg eraill ddigwydd oherwydd bod rhywun yn y lle anghywir ar yr adeg anghywir.

9. Pam gallwn ni fod yn sicr fod gan Jehofa reswm da dros ganiatáu i ddioddefaint barhau?

9 Nid yw Jehofa byth yn achosi dioddefaint. Nid arno ef mae’r bai am ryfeloedd, trosedd, a chreulondeb. Nid yw Duw yn achosi daeargrynfeydd, stormydd, llifogydd, na thrychinebau eraill. Ond eto, teg yw gofyn, ‘Os Jehofa yw’r un mwyaf pwerus yn y bydysawd, pam nad yw’n atal y pethau ofnadwy hynny rhag digwydd?’ Rydyn ni’n gwybod bod Duw yn ein caru ni’n fawr, felly rhaid bod rheswm da ganddo dros ganiatáu i ddioddefaint barhau.—1 Ioan 4:8.

Y RHESWM MAE DUW YN CANIATÁU DIODDEFAINT

10. Sut gwnaeth Satan herio Jehofa?

10 Yng ngardd Eden, twyllodd y Diafol Adda ac Efa. Fe heriodd hawl Jehofa i reoli, a’i gyhuddo o fod yn Rheolwr drwg. Honnodd fod Duw yn gwrthod rhoi rhywbeth da i Adda ac Efa. Roedd Satan am iddyn nhw gredu y byddai ef yn rheolwr gwell, ac nad oedd angen Duw arnyn nhw.—Genesis 3:2-5; gweler Ôl-nodyn 27.

11. Pa gwestiwn mae angen inni ei ateb?

11 Dewisodd Adda ac Efa anufuddhau i Jehofa a chefnu arno. Roedden nhw’n meddwl bod yr hawl ganddyn nhw i benderfynu ynglŷn â da a drwg. Sut gallai Jehofa brofi eu bod nhw’n anghywir a dangos mai ei ffordd Ef sydd orau?

12, 13. (a) Pam na wnaeth Jehofa ddinistrio Adda ac Efa ar ôl iddyn nhw bechu? (b) Pam mae Jehofa wedi caniatáu i Satan reoli’r byd ac i’r ddynoliaeth sefydlu llywodraethau?

12 Bwriad Jehofa oedd llenwi’r ddaear â phlant perffaith Adda ac Efa. Roedd hynny am ddigwydd ni waeth beth fyddai’r Diafol yn ei wneud. (Genesis 1:28; Eseia 55:10, 11) Felly, wnaeth Jehofa ddim dinistrio Adda ac Efa ar ôl iddyn nhw bechu. Gadawodd iddyn nhw gael plant. Yna byddai plant Adda yn cael y cyfle i ddewis pwy roedden nhw am ei gael yn frenin arnyn nhw.

13 Fe wnaeth Satan herio Jehofa o flaen miliynau o angylion. (Job 38:7; Daniel 7:10) Felly rhoddodd Jehofa amser i Satan geisio profi bod sail i’w gyhuddiad. Hefyd, rhoddodd amser i’r ddynoliaeth sefydlu llywodraethau mewn byd dan reolaeth Satan. Byddai hynny’n dangos a fedren nhw lwyddo heb gymorth Duw.

14. Beth mae amser wedi ei ddangos?

14 Am filoedd o flynyddoedd, mae bodau dynol wedi ceisio llywodraethu eu hunain, ond wedi methu. Profwyd bod Satan yn gelwyddog. Mae help Duw yn hanfodol i’r ddynoliaeth. Roedd y proffwyd Jeremeia yn iawn pan ddywedodd: “ARGLWYDD, dw i’n gwybod na all pobl reoli eu bywydau.”—Jeremeia 10:23.

PAM MAE JEHOFA WEDI AROS CYHYD?

15, 16. (a) Pam mae Jehofa wedi caniatáu i ddioddefaint barhau? (b) Pam mae Jehofa heb gywiro’r problemau y mae Satan wedi eu creu?

15 Pam mae Jehofa wedi caniatáu i ddioddefaint barhau? Pam nad yw’n atal pethau drwg rhag digwydd? Mae wedi cymryd amser i brofi bod ffordd Satan o reoli yn fethiant. Mae’r ddynoliaeth wedi arbrofi gyda llywodraethau o bob math, ond heb lwyddo. Er gwaethaf camau mawr ymlaen ym meysydd gwyddoniaeth a thechnoleg, mae mwy o anghyfiawnder, tlodi, trosedd, a rhyfel nag erioed. Mae’n amhosib inni reoli ein hunain yn llwyddiannus heb Dduw.

16 Mae Jehofa heb gywiro’r problemau y mae Satan wedi eu creu. Petai Duw yn gwneud hynny, fe fyddai’n cefnogi llywodraeth Satan. Hefyd, byddai pobl wedyn yn meddwl bod llywodraeth ddynol yn llwyddiannus. Ond mae hynny’n gelwydd. Dydy Jehofa byth yn dweud celwydd.—Hebreaid 6:18.

17, 18. Beth fydd Jehofa yn ei wneud am yr holl ddrwg mae Satan wedi ei achosi?

17 A all Jehofa gywiro’r holl ddrwg y mae Satan a bodau dynol wedi ei wneud? Wrth gwrs! Gyda Duw y mae popeth yn bosib. Ar ôl i bob un o gyhuddiadau Satan gael eu hateb yn llwyr, fe fydd Jehofa yn gweithredu. Fe fydd yn troi’r ddaear yn baradwys, yn unol â’i fwriad gwreiddiol. Bydd pawb sydd yn eu beddau yn cael eu hatgyfodi. (Ioan 5:28, 29) Fydd neb yn mynd yn sâl neu’n marw. Bydd Iesu yn dad-wneud yr holl ddrwg y mae Satan wedi ei wneud. Bydd Jehofa yn defnyddio Iesu i “ddinistrio gwaith y diafol.” (1 Ioan 3:8) Rydyn ni’n ddiolchgar bod amynedd Jehofa wedi caniatáu inni ddod i’w adnabod a’i dderbyn yn Frenin. (Darllenwch 2 Pedr 3:9, 10.) Mae Jehofa yn dymuno i ni ei adnabod. (1 Timotheus 2:4) Hyd yn oed pan fyddwn ni’n dioddef, y mae’n ein helpu ni i ddal ati.—Darllenwch 1 Corinthiaid 10:13.

18 Nid yw Jehofa yn gorfodi neb i’w dderbyn yn Frenin. Rhoddodd ewyllys rhydd inni. Dewch inni weld beth mae’r rhodd werthfawr hon yn ei olygu.

SUT BYDDWCH CHI’N DEFNYDDIO EICH EWYLLYS RHYDD?

19. Pa rodd wych mae Jehofa wedi ei rhoi inni? Pam dylen ni fod yn ddiolchgar amdani?

19 Ewyllys rhydd yw’r rhodd sy’n ein gwneud ni’n wahanol i’r anifeiliaid. Ar y cyfan mae anifeiliaid yn byw yn ôl eu greddfau, ond gallwn ninnau ddewis sut rydyn ni am fyw ein bywydau. (Diarhebion 30:24-28) Gallwn ddewis a ydyn ni am blesio Jehofa neu beidio. Nid peiriannau ydyn ni sy’n gwneud dim ond y pethau maen nhw wedi eu rhaglenni i’w gwneud. Rydyn ni’n rhydd i ddewis ein ffrindiau, cwrs ein bywyd, a’r math o berson rydyn ni am fod. Mae Jehofa eisiau inni fwynhau ein bywydau.

20, 21. Beth yw’r dewis gorau y gallwch chi ei wneud?

20 Mae Jehofa eisiau inni ei garu. (Mathew 22:37, 38) Mae’n debyg i dad sydd wrth ei fodd o glywed ei blentyn yn dweud “Dw i’n dy garu di,” a hynny o wirfodd ei galon. Mae Jehofa wedi rhoi inni’r rhyddid i ddewis ei wasanaethu neu beidio. Dewis troi eu cefnau ar Jehofa wnaeth Satan, Adda, ac Efa. Sut byddwch chi yn defnyddio eich ewyllys rhydd?

21 Defnyddiwch eich ewyllys rhydd i wasanaethu Jehofa. Mae miliynau wedi penderfynu plesio Duw a gwrthod Satan. (Diarhebion 27:11) Beth allwch chi ei wneud er mwyn bod yn y byd newydd i weld Duw yn cael gwared ar ddioddefaint? Bydd y bennod nesaf yn ateb y cwestiwn hwnnw.