PENNOD UN DEG WYTH
Bedydd a’ch Perthynas â Duw
-
Ym mha ffordd mae rhywun yn cael ei fedyddio’n Gristion?
-
Pa gamau ddylech eu cymryd i fod yn gymwys ar gyfer eich bedyddio?
-
Sut mae rhywun yn ymgysegru i Dduw?
-
Pa reswm arbennig sydd dros gael eich bedyddio?
1. Pam gofynnodd swyddog llys o Ethiopia am gael ei fedyddio?
“DYMA ddŵr; beth sy’n rhwystro imi gael fy medyddio?” Dyna’r cwestiwn a ofynnodd swyddog llys o Ethiopia yn y ganrif gyntaf. Roedd Cristion o’r enw Philip wedi profi iddo mai Iesu oedd y Meseia. Oherwydd bod yr hyn a ddysgodd Actau 8:26-36.
yr Ethiopiad yn yr Ysgrythurau wedi cyffwrdd â’i galon, fe wnaeth rywbeth yn ei gylch. Dangosodd yn glir ei fod yn dymuno cael ei fedyddio!—2. Pam dylech chi feddwl o ddifrif am gael eich bedyddio?
2 Os ydych wedi astudio’n fanwl benodau cynharaf y llyfr hwn gydag un o Dystion Jehofa, efallai byddwch yn barod i ofyn, ‘Beth sy’n rhwystro i mi gael fy medyddio?’ Erbyn hyn, rydych wedi dysgu bod y Beibl yn addo bywyd tragwyddol ym Mharadwys. (Luc 23:43; Datguddiad 21:3, 4) Rydych chi hefyd wedi dysgu am wir gyflwr y meirw ac am obaith yr atgyfodiad. (Pregethwr 9:5; Ioan 5:28, 29) Mae’n debyg eich bod chi wedi mynychu cyfarfodydd Tystion Jehofa ac wedi gweld drostoch chi’ch hun sut maen nhw’n rhoi’r wir grefydd ar waith. (Ioan 13:35) Yn bwysicaf oll, mae’n debyg eich bod chi wedi dechrau perthynas bersonol â Jehofa.
3. (a) Pa orchymyn roddodd Iesu i’w ddilynwyr? (b) Ym mha ffordd y mae rhywun yn cael ei fedyddio?
3 Sut gallwch chi ddangos eich bod yn dymuno gwasanaethu Duw? Dywedodd Iesu wrth ei ddilynwyr: “Ewch . . . a gwnewch ddisgyblion o’r holl genhedloedd, gan eu bedyddio hwy.” (Mathew 28:19) Gosododd Iesu’r esiampl drwy gael ei fedyddio mewn dŵr. Nid taenellu diferion o ddŵr arno oedd hyn, na thywallt ychydig o ddŵr ar ei ben chwaith. (Mathew 3:16) Mae’r gair “bedyddio” yn dod o’r ymadrodd Groeg sy’n golygu “trochi.” Mae bedydd Cristnogol, felly, yn golygu cael eich trochi’n llwyr mewn dŵr.
4. Beth mae bedydd dŵr yn ei ddangos?
4 Mae’n ofynnol i bawb sy’n dymuno cael perthynas â Jehofa Dduw gael eu bedyddio mewn dŵr. Mae bedydd yn datgan yn gyhoeddus eich dymuniad i wasanaethu Duw. Mae’n dangos eich bod chi’n hapus iawn i wneud ewyllys Jehofa. (Salm 40:7, 8) Ond, i fod yn gymwys ar gyfer cael eich bedyddio, mae’n rhaid ichi gymryd camau penodol.
MAE ANGEN GWYBODAETH A FFYDD
5. (a) Beth yw’r cam cyntaf tuag at fod yn gymwys i gael eich bedyddio? (b) Pam mae cyfarfodydd Cristnogol yn bwysig?
5 Rydych chi eisoes wedi cymryd y cam cyntaf. Sut? Trwy ddod i adnabod Jehofa Dduw a Iesu Grist, o bosibl drwy ddilyn rhaglen astudio yn y Beibl. (Darllenwch Ioan 17:3.) Ond mae mwy i’w ddysgu. Mae Cristnogion yn dymuno cael eu llenwi “ag amgyffrediad o ewyllys Duw.” (Colosiaid 1:9) Mae mynychu cyfarfodydd Tystion Jehofa yn help mawr yn hyn o beth. Mae’n bwysig iawn inni fynd i’r cyfarfodydd hyn. (Hebreaid 10:24, 25) Bydd mynychu’r cyfarfodydd yn eich helpu i ddod i adnabod Duw.
6. Faint y mae’n rhaid ichi wybod am y Beibl i fod yn gymwys i gael eich bedyddio?
6 Wrth gwrs, does dim angen ichi wybod popeth yn y Beibl i fod yn gymwys i gael eich bedyddio. Roedd gan y swyddog o Ethiopia rywfaint o wybodaeth, ond roedd angen help arno i ddeall rhai adrannau o’r Ysgrythurau. (Actau 8:30, 31) Yn yr un modd, mae gennych chi lawer eto i’w ddysgu. A dweud y gwir, fyddwch chi byth yn gorffen dysgu am Dduw. (Pregethwr 3:11) Ond, cyn y gallwch chi gael eich bedyddio, mae’n rhaid ichi wybod a derbyn o leiaf ddysgeidiaethau sylfaenol y Beibl. (Hebreaid 5:12) Mae’r dysgeidiaethau hyn yn cynnwys y gwir am gyflwr y meirw a phwysigrwydd enw Duw a’i Deyrnas.
7. Sut dylai astudio’r Beibl effeithio arnoch chi?
7 Serch hynny, nid yw gwybodaeth yn unig yn ddigon i blesio Duw oherwydd “heb ffydd y mae’n amhosibl rhyngu ei fodd ef.” (Hebreaid 11:6) Mae’r Beibl yn adrodd hanes y bobl yng Nghorinth gynt. Ar ôl clywed y neges Gristnogol, “credodd llawer o’r Corinthiaid a chael eu bedyddio.” (Actau 18:8) Yn yr un modd, dylai astudio’r Beibl gryfhau eich ffydd ynddo fel Gair ysbrydoledig Duw. Bydd astudio’r Beibl yn eich helpu i roi ffydd yn addewidion Duw ac yng ngallu aberth Iesu i’ch achub.—Josua 23:14; Actau 4:12; 2 Timotheus 3:16, 17.
RHANNU GWIRIONEDDAU’R BEIBL AG ERAILL
8. Beth fydd yn gwneud ichi rannu eich gwybodaeth newydd ag eraill?
8 Wrth i ffydd dyfu yn eich calon, bydd hi’n anodd ichi beidio â siarad ag eraill am yr hyn rydych wedi ei ddysgu. (Jeremeia 20:9) Byddwch yn awyddus iawn i siarad ag eraill am Dduw a’i fwriadau.—Darllenwch 2 Corinthiaid 4:13.
9, 10. (a) Ar y dechrau, gyda phwy y gallwch siarad am wirionedd y Beibl? (b) Beth dylech chi ei wneud os ydych chi am gael rhan yn y gwaith pregethu sydd wedi ei drefnu gan Dystion Jehofa?
9 Ar y dechrau, gallwch rannu gwirioneddau’r Beibl drwy siarad, mewn modd caredig, â pherthnasau, ffrindiau, cymdogion, a chyd-weithwyr. Maes o law, byddwch yn dymuno cymryd rhan yn y gwaith pregethu y mae Tystion Jehofa yn ei drefnu. Bryd hynny, bydd croeso ichi drafod hyn â’r Tyst sy’n dysgu’r Beibl ichi. Os yw hi’n ymddangos eich bod chi’n gymwys i gael rhan y weinidogaeth, bydd trefniadau yn cael eu gwneud i chi a’ch athro gwrdd â dau henuriad o’r gynulleidfa.
10 Trwy wneud hyn byddwch chi’n dod i adnabod yn well rai o’r henuriaid Cristnogol sy’n bugeilio praidd Duw. (Actau 20:28; 1 Pedr 5:2, 3) Os yw’r henuriaid hyn yn gweld eich bod chi’n deall ac yn credu dysgeidiaethau sylfaenol y Beibl, a’ch bod chi’n byw yn unol ag egwyddorion Duw, a’ch bod chi o ddifrif am fod yn un o Dystion Jehofa, byddan nhw’n dweud eich bod yn gymwys i gael rhan yn y weinidogaeth fel cyhoeddwr difedydd y newyddion da.
11. Pa newidiadau bydd rhaid i rai eu gwneud er mwyn bod yn gymwys ar gyfer y weinidogaeth?
11 Ar y llaw arall, efallai y bydd rhaid ichi newid ychydig ar eich ffordd o fyw er mwyn bod yn gymwys ar gyfer y weinidogaeth. Gall hyn olygu rhoi’r gorau i rai arferion 1 Corinthiaid 6:9, 10; Galatiaid 5:19-21.
rydych chi wedi eu celu rhag eraill. Felly, cyn ichi ofyn am gael bod yn gyhoeddwr difedydd, mae’n rhaid ichi ymryddhau rhag pechodau difrifol, fel anfoesoldeb rhywiol, meddwdod, a chamddefnyddio cyffuriau.—DarllenwchEDIFEIRWCH A THRÖEDIGAETH
12. Pam mae angen edifarhau?
12 Mae rhai camau eraill i’w cymryd cyn ichi fod yn gymwys ar gyfer eich bedyddio. Dywedodd yr apostol Pedr: “Edifarhewch . . . a throwch at Dduw, er mwyn dileu eich pechodau.” (Actau 3:19) Mae edifarhau yn golygu difaru a theimlo’n wir ddrwg am rywbeth rydych chi wedi ei wneud. Mae’n amlwg fod edifeirwch yn briodol yn achos rhywun sydd wedi byw bywyd anfoesol, ond mae’n hanfodol hefyd hyd yn oed i’r rhai sydd wedi byw bywyd moesol lân ar y cyfan. Pam? Oherwydd ein bod ni i gyd yn bechaduriaid sydd angen maddeuant Duw. (Rhufeiniaid 3:23; 5:12) Cyn astudio’r Beibl, doeddech chi ddim yn gwybod beth oedd ewyllys Duw. Felly, doedd hi ddim yn bosibl ichi fyw yn unol â’r ewyllys honno. Dyna pam y mae angen edifarhau.
13. Beth yw tröedigaeth?
13 Mae’n rhaid i edifeirwch gael ei ddilyn gan dröedigaeth. Mae hyn yn golygu mwy na difaru. Mae’n rhaid ichi gefnu ar eich hen ffordd o fyw a bod yn benderfynol o wneud yr hyn sy’n iawn o hyn ymlaen. Y mae edifeirwch a thröedigaeth yn gamau y dylech eu cymryd cyn ichi gael eich bedyddio.
YMGYSEGRU
14. Pa gam pwysig y mae’n rhaid ichi ei gymryd cyn cael eich bedyddio?
14 Y mae un cam pwysig arall y dylech ei gymryd cyn ichi gael eich bedyddio. Mae’n rhaid i chi eich cysegru eich hun i Jehofa Dduw.
15, 16. Beth mae ymgysegru i Dduw yn ei olygu, a beth sy’n ysgogi rhywun i wneud hynny?
15 Pan fyddwch yn eich cysegru eich hun i Jehofa mewn gweddi, byddwch yn addo bod yn llwyr ymroddedig iddo am byth. Ond pam byddai rhywun yn gwneud hynny? Wel, dychmygwch fod dyn yn dechrau canlyn merch. Mwyaf yn y byd y mae’n dysgu amdani a gweld ei phersonoliaeth hardd, mwyaf yn y byd y mae’n cael ei ddenu ganddi. Ymhen amser, peth naturiol fyddai gofyn iddi hi ei briodi. Mae’n wir bod priodi yn golygu mwy o gyfrifoldeb. Ond, bydd y dyn yn hapus i wneud hynny oherwydd ei gariad tuag at y ferch.
16 Pan fyddwch chi’n dod i adnabod Jehofa a’i garu, byddwch yn dymuno ei wasanaethu heb ddal unrhyw beth yn ôl, a heb osod unrhyw amodau ar eich addoli. Rhaid i bawb sy’n dymuno dilyn Mab Duw, Iesu Grist, “ymwadu ag ef ei hun.” (Marc 8:34) Rydyn ni’n ymwadu â ni’n hunain drwy sicrhau nad yw ein dymuniadau na’n hamcanion personol yn ein rhwystro ni rhag bod yn llwyr ufudd i Dduw. Felly, cyn ichi fedru cael eich bedyddio, dylai gwneud ewyllys Duw gael y lle blaenaf yn eich bywyd.—Darllenwch 1 Pedr 4:2.
TRECHU OFN METHU
17. Beth all wneud i rai ddal yn ôl rhag ymgysegru i Dduw?
17 Mae rhai’n dal yn ôl rhag ymgysegru i Jehofa oherwydd bod arnyn nhw ofn cymryd cam mor bwysfawr. Gall y syniad o fod yn atebol i Dduw fel Cristion ymgysegredig godi ofn arnyn nhw. Rhag ofn iddyn nhw fethu yn eu gwasanaeth i Jehofa a’i siomi, maen nhw’n meddwl y byddai’n well peidio ag ymgysegru iddo yn y lle cyntaf.
18. Beth all eich ysgogi i ymgysegru i Jehofa?
18 Wrth i chi ddod i garu Jehofa, bydd eich calon yn eich ysgogi i ymgysegru iddo, a gwneud eich gorau glas i fyw’n ôl yr ymgysegriad hwnnw. (Pregethwr 5:4) Ar ôl ichi ymgysegru, byddwch yn awyddus i blesio Jehofa, i “fyw yn deilwng o’r Arglwydd a rhyngu ei fodd yn gyfan gwbl.” (Colosiaid 1:10) Oherwydd eich cariad tuag at Dduw, fyddwch chi ddim yn teimlo bod gwneud ei ewyllys yn rhy anodd. Mae’n siŵr y byddwch yn cytuno â’r apostol Ioan a ysgrifennodd: “Dyma yw caru Duw: bod inni gadw ei orchmynion. Ac nid yw ei orchmynion ef yn feichus.”—1 Ioan 5:3.
19. Pam na ddylech chi ofni ymgysegru i Dduw?
19 Does dim rhaid ichi fod yn berffaith cyn ichi ymgysegru i Dduw. Mae Jehofa yn gwybod beth y medrwch ei wneud, ac nid yw byth yn disgwyl mwy na hynny. (Salm 103:14) Y mae eisiau ichi lwyddo, ac fe fydd yn eich cefnogi. (Darllenwch Eseia 41:10.) O ymddiried yn Jehofa â’ch holl galon, gallwch chi fod yn hyderus y ‘bydd ef yn sicr o gadw eich llwybrau’n union.’—Diarhebion 3:5, 6.
BEDYDD, SYMBOL O’CH YMGYSEGRIAD I DDUW
20. Pam na all ymgysegru i Jehofa fod yn fater preifat yn unig?
20 Mae meddwl am y pethau rydyn ni newydd eu trafod yn gallu eich helpu chi i ymgysegru i Jehofa mewn gweddi. Rhufeiniaid 10:10) Sut mae gwneud hynny?
Mae’n ofynnol i bawb sy’n caru Duw o ddifrif ddatgan eu ffydd yn gyhoeddus er mwyn cael eu hachub. (21, 22. Sut gallwch chi ddatgan eich ffydd yn gyhoeddus?
21 Pan fyddwch chi eisiau cael eich bedyddio, rhowch wybod i gydlynydd corff henuriaid eich cynulleidfa. Bydd ef yn trefnu i rai o’r henuriaid adolygu gyda chi gwestiynau sy’n trafod dysgeidiaethau sylfaenol y Beibl. Os yw’r henuriaid hyn yn cytuno eich bod chi’n gymwys, byddan nhw’n dweud y medrwch chi gael eich bedyddio’r cyfle nesaf a gewch. * Fel arfer, ar yr achlysuron hyn, ceir araith sy’n trafod ystyr bedydd. Bydd y siaradwr wedyn yn gwahodd y rhai sydd am gael eu bedyddio i ateb dau gwestiwn syml er mwyn datgan eu ffydd yn gyhoeddus.
22 Y bedydd ei hun sy’n dangos yn gyhoeddus eich bod chi wedi ymgysegru i Dduw a’ch bod chi nawr yn un o Dystion Jehofa. Y mae’r ymgeiswyr bedydd yn cael eu trochi’n llwyr yn y dŵr i ddangos yn gyhoeddus eu bod nhw wedi ymgysegru i Jehofa.
YSTYR EICH BEDYDD
23. Beth yw ystyr cael eich bedyddio “yn enw’r Tad a’r Mab a’r Ysbryd Glân”?
23 Dywedodd Iesu y byddai ei ddisgyblion yn cael eu bedyddio “yn enw’r Tad a’r Mab a’r Ysbryd Glân.” (Mathew 28:19) Mae hyn yn golygu bod yr ymgeisydd bedydd yn cydnabod awdurdod Jehofa Dduw a Iesu Grist. (Salm 83:18; Mathew 28:18) Y mae hefyd yn adnabod swyddogaeth a gwaith yr ysbryd glân, sef grym gweithredol Duw.—Galatiaid 5:22, 23; 2 Pedr 1:21.
24, 25. (a) Beth mae bedydd yn symbol ohono? (b) Pa gwestiwn sydd angen ei ateb?
24 Serch hynny, nid trochfa’n unig mo bedydd. Mae’n Salm 25:14.
symbol o rywbeth hynod o bwysig. Mae mynd o dan y dŵr yn symboleiddio eich bod chi wedi marw i’ch ffordd o fyw gynt. Mae cael eich codi allan o’r dŵr yn cynrychioli eich bod chi bellach yn fyw i wneud ewyllys Duw. Cofiwch, hefyd, eich bod chi wedi ymgysegru i Jehofa Dduw ei hun, ac nid i ryw orchwyl neu achos nac ychwaith i unrhyw unigolyn neu gyfundrefn. Dechrau cyfeillgarwch agos iawn yw eich ymgysegru a’ch bedydd, sef perthynas glòs â Duw.—25 Nid yw bedydd yn gwarantu iachawdwriaeth. Ysgrifennodd yr apostol Paul: “Gweithredwch, mewn ofn a dychryn, yr iachawdwriaeth sy’n eiddo ichwi.” (Philipiaid 2:12) Dechreuad yn unig yw bedydd. Y cwestiwn yw, Sut gallwch chi aros yng nghariad Duw? Bydd y bennod olaf yn ateb y cwestiwn hwnnw.
^ Par. 21 Mae bedyddio yn digwydd mewn cynulliadau a chynadleddau a gynhelir gan Dystion Jehofa.