Neidio i'r cynnwys

Neidio i'r cynnwys

ATODIAD

Beth Yw Dydd y Farn?

Beth Yw Dydd y Farn?

BETH sy’n dod i’ch meddwl wrth sôn am Ddydd y Farn? Mae llawer yn credu y bydd miloedd o filiynau o bobl yn cael eu tywys fesul un gerbron gorsedd Duw. Yno, bydd pob un yn cael ei farnu. Bydd rhai yn cael mynd i baradwys yn y nef fel gwobr tra bo eraill yn cael eu condemnio i artaith dragwyddol. Ond, mae’r Beibl yn rhoi darlun hollol wahanol o’r cyfnod hwn. Mae’n ei ddisgrifio, nid fel amser i’w ofni, ond fel cyfnod o adfer a gobaith.

Yn Datguddiad 20:11, 12, rydyn ni’n darllen disgrifiad yr apostol Ioan o Ddydd y Farn: “Gwelais orsedd fawr wen a’r Un oedd yn eistedd arni, hwnnw y ffoesai’r ddaear a’r nef o’i ŵydd a’u gadael heb le. Gwelais y meirw, yn fawr a bach, yn sefyll o flaen yr orsedd; ac agorwyd llyfrau. Yna agorwyd llyfr arall, sef llyfr y bywyd; a barnwyd y meirw ar sail yr hyn oedd yn ysgrifenedig yn y llyfrau, yn ôl eu gweithredoedd.” Pwy yw’r Barnwr sy’n cael ei ddisgrifio yma?

Jehofa Dduw yw Barnwr goruchaf dynolryw. Sut bynnag, mae’n rhoi’r gwaith o farnu i rywun arall. Yn ôl Actau 17:31, dywedodd yr apostol Paul fod Duw wedi gosod diwrnod, “pryd y bydd yn barnu’r byd mewn cyfiawnder, trwy ŵr a benododd.” Iesu Grist, wedi ei atgyfodi, yw’r Barnwr y mae Duw wedi ei benodi. (Ioan 5:22) Ond pryd mae Dydd y Farn yn dechrau? Pa mor hir fydd y diwrnod hwnnw?

Mae llyfr Datguddiad yn dangos y bydd Dydd y Farn yn dechrau ar ôl rhyfel Armagedon, pryd caiff trefn Satan ar y ddaear ei dinistrio. * (Datguddiad 16:14, 16; 19:19–20:3) Ar ôl Armagedon, bydd Satan a’i gythreuliaid yn cael eu carcharu yn y dyfnder am fil o flynyddoedd. Yn ystod y cyfnod hwnnw, bydd y 144,000 o gyd-etifeddion nefol yn barnu “a theyrnasu gyda Christ am fil o flynyddoedd.” (Datguddiad 14:1-3; 20:1-4; Rhufeiniaid 8:17) Nid digwyddiad sydyn mo Dydd y Farn sy’n para 24 awr yn unig. Mae’n para mil o flynyddoedd.

Yn ystod y mil blynyddoedd hynny, mae Iesu Grist “i farnu’r byw a’r meirw.” (2 Timotheus 4:1) “Y byw” ydy’r “dyrfa fawr” sy’n goroesi Armagedon. (Datguddiad 7:9-17) Hefyd, fe welodd yr apostol Ioan “y meirw . . . yn sefyll o flaen yr orsedd” i gael eu barnu. Fel yr addawodd Iesu, bydd “pawb sydd yn eu beddau yn clywed ei lais ef [Crist] ac yn dod allan” drwy gael eu hatgyfodi. (Ioan 5:28, 29; Actau 24:15) Ond ar ba sail bydd pobl yn cael eu barnu?

Yn ôl gweledigaeth yr apostol Ioan, “agorwyd llyfrau . . . a barnwyd y meirw ar sail yr hyn oedd yn ysgrifenedig yn y llyfrau, yn ôl eu gweithredoedd.” (Datguddiad 20:12) Ai cofnod o’r pethau mae pobl wedi eu gwneud yn y gorffennol sydd yn y llyfrau hyn? Nage. Fydd y farn ddim yn seiliedig ar weithredoedd pobl cyn iddyn nhw farw. Sut rydyn ni’n gwybod hynny? Dywed y Beibl: “Y mae’r sawl sydd wedi marw wedi ei ryddhau oddi wrth bechod.” (Rhufeiniaid 6:7) Mae gan y rhai sy’n cael eu hatgyfodi lechen lân fel petai. Rhaid bod y llyfrau hynny yn cynrychioli gofynion Duw yn y dyfodol. I fyw am byth, bydd y rhai sy’n goroesi Armagedon, ynghyd â’r rhai sy’n cael eu hatgyfodi, yn gorfod ufuddhau i orchmynion Duw, gan gynnwys unrhyw orchmynion newydd y bydd Jehofa yn eu rhoi yn ystod y mil blynyddoedd. Felly, bydd unigolion yn cael eu barnu ar sail yr hyn y maen nhw yn ei wneud yn ystod Dydd y Farn.

Yn ystod Dydd y Farn, bydd miloedd o filiynau o bobl yn cael y cyfle am y tro cyntaf i ddysgu am ewyllys Duw ac i fyw yn unol â’r ewyllys honno. Mae hyn yn golygu y bydd gwaith addysgiadol yn digwydd ar raddfa eang. Yn wir, “bydd trigolion byd yn dysgu cyfiawnder.” (Eseia 26:9) Sut bynnag, ni fydd pawb yn fodlon byw yn ôl ewyllys Duw. Dywed Eseia 26:10: “Er gwneud cymwynas â’r annuwiol, ni ddysg gyfiawnder; fe wna gam hyd yn oed mewn gwlad gyfiawn, ac ni wêl fawredd yr ARGLWYDD.” Bydd y bobl ddrygionus hyn yn cael eu difa am byth yn ystod Dydd y Farn.—⁠Eseia 65:20.

Erbyn diwedd Dydd y Farn, bydd pawb sy’n goroesi wedi ‘dod yn fyw’ yn yr ystyr llawn fel bodau dynol perffaith. (Datguddiad 20:5) Yn ystod Dydd y Farn caiff dynolryw ei hadfer i’w chyflwr perffaith gwreiddiol. (1 Corinthiaid 15:24-28) Wedyn, bydd un prawf olaf. Caiff Satan ei ryddhau o’i garchar a chaiff un cyfle olaf i geisio camarwain dynolryw. (Datguddiad 20:3, 7-10) Bydd y rhai sydd yn sefyll yn gadarn yn ei erbyn yn gweld cyflawni’r addewid hwn: “Y mae’r cyfiawn yn etifeddu’r tir, ac yn cartrefu ynddo am byth.” (Salm 37:29) Yn ddiamau, bydd Dydd y Farn yn fendith i ddynolryw ffyddlon!

^ Par. 1 Ynglŷn ag Armagedon, gweler Insight on the Scriptures, Cyfrol 1, tudalennau 594-595, 1037-1038, a phennod 20 yn Worship the Only True God, y ddau wedi eu cyhoeddi gan Dystion Jehofa.