ATODIAD
Gorchuddio’r Pen—Pryd a Pham?
Ynglŷn ag addoli, pryd a pham dylai dynes Gristnogol orchuddio ei phen? Gad inni edrych ar drafodaeth ysbrydoledig Paul ar y pwnc. Yma y cawn ni arweiniad a fydd yn ein helpu ni i wneud penderfyniadau call sy’n anrhydeddu Duw. (1 Corinthiaid 11:3-16) Mae Paul yn tynnu sylw at dri ffactor i’w hystyried: (1) y gweithgareddau sy’n gofyn i ddynes orchuddio ei phen, (2) y sefyllfaoedd lle mae angen iddi wneud hyn, a (3) y cymhellion dros gadw at yr egwyddor hon.
Y gweithgareddau. Mae Paul yn rhestru dau: gweddïo a phroffwydo. (Adnodau 4, 5) Gweddïo, wrth gwrs, yw siarad â Jehofa. Heddiw, mae proffwydo yn golygu unrhyw waith y bydd gweinidog Cristnogol yn ei wneud i ddysgu eraill ar sail y Beibl. Ydy Paul yn awgrymu y dylai dynes orchuddio ei phen bob tro y bydd hi’n gweddïo neu’n dysgu rhywun arall am y Beibl? Nac ydy. Mae’n dibynnu ar y sefyllfa.
Y sefyllfaoedd. Awgrymir dwy sefyllfa gan eiriau Paul—y teulu a’r gynulleidfa. Dywed Paul: “Pen y wraig yw’r gŵr . . . y mae pob gwraig sy’n gweddïo neu’n proffwydo heb orchudd ar ei phen yn gwaradwyddo’i phen.” (Adnodau 3, 5) Yn y teulu, y mae Jehofa yn gosod y gŵr yn ben ar ei wraig. Petasai hi’n gofalu am gyfrifoldebau y mae Jehofa wedi eu rhoi i’w gŵr, byddai hi’n dod â chywilydd arno oni bai ei bod hi’n cydnabod awdurdod ei gŵr. Er enghraifft, petai angen iddi hi astudio’r Beibl gyda rhywun yng nghwmni ei gŵr, fe fyddai’n cydnabod ei awdurdod drwy orchuddio ei phen. Does dim gwahaniaeth a yw’r gŵr wedi ei fedyddio ai peidio; fe fyddai hi’n dal i orchuddio ei phen gan mai ef yw pen y teulu. * Petasai hi’n gweddïo neu’n dysgu yng nghwmni ei mab ifanc, ac yntau wedi ei fedyddio, byddai hi hefyd yn gorchuddio ei phen. Nid yw’r mab yn ben ar y teulu, ond ar ôl iddo gael ei fedyddio y mae ganddo awdurdod fel aelod gwrywaidd o’r gynulleidfa Gristnogol.
Mae Paul yn cyfeirio at gyd-destun y gynulleidfa, gan ddweud: “Os myn neb fod yn gecrus, nid oes gennym ni unrhyw arfer o’r fath, na chan eglwysi Duw chwaith.” (Adnod 16) Yn y gynulleidfa Gristnogol, mae’r cyfrifoldeb o fod yn ben wedi ei roi i’r aelodau gwrywaidd bedyddiedig. (1 Timotheus 2:11-14; Hebreaid 13:17) Dynion yn unig sy’n cael eu penodi yn henuriaid a gweision gweinidogaethol, â’r cyfrifoldeb i ofalu am braidd Duw. (Actau 20:28) Ond, o bryd i’w gilydd, bydd sefyllfa’n codi lle bydd angen i ddynes Gristnogol ofalu am waith y byddai dyn bedyddiedig cymwys yn ei wneud fel arfer. Er enghraifft, efallai y bydd angen iddi arwain cyfarfod ar gyfer y weinidogaeth oherwydd nad oes dyn bedyddiedig cymwys ar gael. Neu efallai y bydd hi wedi trefnu i gynnal astudiaeth o’r Beibl yng nghwmni dyn bedyddiedig. * Oherwydd bod y gweithredoedd hyn yn rhan o swyddogaeth y gynulleidfa Gristnogol, fe fyddai’n gorchuddio ei phen i gydnabod ei bod hi’n gwneud gwaith a fyddai, fel arfer, yn cael ei wneud gan ddyn.
Ar y llaw arall, nid oes angen i chwaer orchuddio * Os ydy hi’n dal i deimlo’n ansicr, ac os ydy ei chydwybod yn mynnu, ni fyddai’n anghywir iddi hi orchuddio ei phen, fel y gwelir yn y llun.
ei phen bob amser wrth addoli. Er enghraifft, does dim angen iddi orchuddio ei phen wrth ateb yn y cyfarfodydd Cristnogol, wrth gael rhan yn y weinidogaeth o ddrws i ddrws yng nghwmni ei gŵr neu ddyn bedyddiedig arall, nac ychwaith wrth astudio neu weddïo gyda phlant sydd heb eu bedyddio. Wrth gwrs, gall cwestiynau eraill godi, ac os yw chwaer yn teimlo’n ansicr, fe all wneud ymchwil pellach.Y cymhellion. Yn adnod 10, gwelwn ddau reswm y byddai dynes Gristnogol yn dymuno ufuddhau i’r gofyniad hwn: “Dylai’r wraig gael arwydd awdurdod ar ei phen, o achos yr angylion.” Yn gyntaf, sylwa ar yr ymadrodd, “arwydd awdurdod.” Trwy orchuddio ei phen y mae dynes yn dangos ei bod yn cydnabod yr awdurdod y mae Jehofa wedi ei roi i ddynion bedyddiedig yn y gynulleidfa. Mae hi’n dangos ei chariad tuag at Jehofa a’i theyrngarwch iddo. Gwelir ail reswm yn y geiriau, “o achos yr angylion.” Sut mae dynes, drwy orchuddio ei phen, yn effeithio ar yr angylion?
Mae gweld pawb yng nghyfundrefn Jehofa, yn y nefoedd ac ar y ddaear, yn parchu awdurdod dwyfol o ddiddordeb mawr i’r angylion. Mae gweld esiampl bodau dynol amherffaith yn hyn o beth yn fuddiol i’r angylion. Wedi’r cwbl, mae’r angylion hefyd yn gorfod ymostwng i drefn Jehofa—prawf y mae nifer ohonyn nhw wedi ei fethu yn y Jwdas 6) Gallai’r angylion weld achosion lle mae dynes Gristnogol yn fwy profiadol, yn fwy gwybodus, neu’n fwy deallus na dyn bedyddiedig yn y gynulleidfa; ond eto y mae hi’n barod i ymostwng i’w awdurdod. Mewn rhai achosion, fe fydd hi’n Gristion eneiniog a fydd, ymhen amser, yn un o gyd-etifeddion Crist. Bydd dynes o’r fath yn gwasanaethu mewn safle hyd yn oed yn uwch na’r angylion, ac yn rheoli gyda Christ yn y nefoedd. Dyna esiampl dda ar gyfer yr angylion. Mewn gwirionedd, mae gan bob chwaer gyfle unigryw i ddangos ei hufudd-dod drwy ymddwyn yn deyrngar ac yn ymostyngar gerbron miliynau o angylion ffyddlon!
gorffennol. (^ Par. 5 Ni fyddai gwraig dyn Cristnogol fel arfer yn gweddïo yn uchel yng nghwmni ei gŵr, oni bai bod yr amgylchiadau’n rhai anghyffredin, er enghraifft, petai’r gŵr yn methu siarad oherwydd salwch.
^ Par. 6 Nid oes angen i chwaer orchuddio ei phen wrth gynnal astudiaeth Feiblaidd, sydd wedi ei threfnu o flaen llaw, ym mhresenoldeb cyhoeddwr gwrywaidd difedydd; os mae ei gŵr yw’r cyhoeddwr difedydd, mae’n rhaid iddi orchuddio ei phen.
^ Par. 7 Am fwy o wybodaeth, gweler y Watchtower, 15 Chwefror 2015, tudalen 30; 15 Gorffennaf 2002, tudalennau 26-27; a 15 Chwefror 1977, tudalennau 125-128.