Neidio i'r cynnwys

Neidio i'r cynnwys

PENNOD 7

Mae Duw yn Parchu Bywyd—Wyt Ti?

Mae Duw yn Parchu Bywyd—Wyt Ti?

“Gyda thi y mae ffynnon bywyd.”—SALM 36:9.

1, 2. Pa rodd gan Dduw sy’n arbennig o werthfawr heddiw, a pham?

MAE ein Tad nefol wedi rhoi rhodd amhrisiadwy inni—ein bywydau fel bodau dynol deallus sy’n medru adlewyrchu ei briodoleddau ef. (Genesis 1:27) Mae’r rhodd hon yn caniatáu inni resymu ar sail egwyddorion y Beibl. O’u rhoi ar waith, gallwn ni dyfu’n bobl ysbrydol aeddfed sy’n caru Jehofa, pobl “y mae eu synhwyrau . . . wedi eu disgyblu i farnu rhwng da a drwg.”—Hebreaid 5:14.

2 Mae’r gallu i resymu ar egwyddorion y Beibl yn bwysicach fyth heddiw. Oherwydd bod y byd mor gymhleth, nid yw’n bosibl deddfu ar gyfer pob un sefyllfa a all godi yn ein bywydau. Mae hyn yn amlwg iawn yn y maes meddygol, yn enwedig yn achos triniaethau a chynhyrchion sy’n ymwneud â gwaed. Mae’r pwnc pwysig hwn o ddiddordeb i bawb sy’n dymuno ufuddhau i Jehofa. Ond eto, os ydyn ni’n deall yr egwyddorion perthnasol, fe ddylen ni fedru gwneud penderfyniadau doeth sy’n cyd-fynd â’n cydwybod ac sydd yn ein cadw yng nghariad Duw. (Diarhebion 2:6-11) Ystyria rai o’r egwyddorion hyn.

MAE BYWYD A GWAED YN SANCTAIDD

3, 4. Beth yw’r cyfeiriad cyntaf yn yr Ysgrythurau at sancteiddrwydd gwaed, a beth yw’r egwyddorion y tu ôl i hyn?

3 Yn fuan ar ôl i Cain ladd Abel, fe ddangosodd Jehofa fod cysylltiad agos rhwng bywyd a gwaed, a’u bod nhw’n sanctaidd. Dywedodd Duw wrth Cain: “Y mae llef gwaed dy frawd yn gweiddi arnaf o’r pridd.” (Genesis 4:10) Yng ngolwg Jehofa, roedd gwaed Abel yn cynrychioli ei fywyd. Collodd Abel ei fywyd pan gafodd ei lofruddio, felly, ar un ystyr, roedd gwaed Abel yn galw am ddial.—Hebreaid 12:24.

4 Ar ôl y Dilyw yn amser Noa, rhoddodd Duw ganiatâd i bobl fwyta cig ond nid i fwyta’r gwaed. Dywedodd Duw: “Ond peidiwch â bwyta cig â’i einioes, sef ei waed, ynddo. Yn wir, mynnaf iawn am waed eich einioes.” (Genesis 9:4, 5) Gorchymyn yw hwn i holl ddisgynyddion Noa, a hynny ym mhob oes. Mae dau bwynt pwysig i’w gweld yma. Mae’n cadarnhau’r hyn a oedd y tu ôl i eiriau Duw wrth Cain—fod y gwaed yn cynrychioli einioes, neu fywyd, pob creadur. Mae hefyd yn dangos y bydd pawb sy’n amharchu bywyd a gwaed yn atebol i Jehofa—Ffynnon bywyd.—Salm 36:9.

5, 6. Sut dangosodd Cyfraith Moses fod gwaed yn sanctaidd a gwerthfawr? (Gweler hefyd y blwch  “Parchu Bywyd Anifeiliaid”.)

5 Roedd Cyfraith Moses yn adlewyrchu’r ddau wirionedd sylfaenol hyn. Dywed Lefiticus 17:10, 11: “Os bydd unrhyw un . . . yn bwyta unrhyw waed, byddaf yn gosod fy wyneb yn erbyn y sawl sy’n bwyta gwaed, ac yn ei dorri ymaith o blith ei bobl. Oherwydd y mae bywyd y corff yn y gwaed, ac fe’i rhoddais ichwi i wneud cymod drosoch eich hunain ar yr allor; y gwaed sy’n gwneud cymod dros fywyd.” *—Gweler y blwch  “Gwaed Sy’n Gwneud Cymod Dros Bechod”.

6 Os nad oedd gwaed anifail yn cael ei ddefnyddio ar yr allor, roedd rhaid ei dywallt ar y ddaear. Felly, mewn modd symbolaidd, rhoddwyd y bywyd yn ôl i’r Un oedd yn berchen arno yn y lle cyntaf. (Deuteronomium 12:16; Eseciel 18:4) Ond sylwa, doedd dim rhaid i’r Israeliaid gael gwared ar bob un arlliw o waed o gorff yr anifail. Cyn belled â bod yr anifail wedi ei ladd yn y modd iawn ac wedi’i waedu, roedden nhw’n gallu ei fwyta â chydwybod lân, oherwydd eu bod nhw wedi dangos y parch dyledus tuag at y Rhoddwr-Bywyd.

7. Sut dangosodd Dafydd barch at sancteiddrwydd gwaed?

7 Roedd Dafydd yn ‘ŵr wrth fodd calon Duw,’ ac yn deall egwyddorion cyfraith Duw ynglŷn â gwaed. (Actau 13:22) Un tro, pan oedd syched mawr arno, rhuthrodd tri o’i ddynion i mewn i wersyll y gelyn i nôl dŵr iddo. Beth oedd ymateb Dafydd? Gofynnodd, “A allaf fi yfed gwaed gwŷr a fentrodd eu heinioes?” Yng ngolwg Dafydd, roedd y dŵr yn cynrychioli gwaed ei ddynion. Er gwaethaf ei syched, ‘tywalltodd ef yn offrwm’ i Jehofa.—2 Samuel 23:15-17.

8, 9. A newidiodd safbwynt Duw at fywyd a gwaed pan sefydlwyd y gynulleidfa Gristnogol? Esbonia.

8 Ryw 2,400 o flynyddoedd wedi’r gorchymyn i Noa, a thua 1,500 o flynyddoedd ar ôl i Israel dderbyn y Gyfraith, ysbrydolodd Jehofa gorff llywodraethol y gynulleidfa Gristnogol i ysgrifennu: “Penderfynwyd gan yr Ysbryd Glân a chennym ninnau beidio â gosod arnoch ddim mwy o faich na’r pethau angenrheidiol hyn: ymgadw rhag bwyta yr hyn sydd wedi ei aberthu i eilunod, neu waed, neu’r hyn sydd wedi ei dagu, a rhag anfoesoldeb rhywiol.”—Actau 15:28, 29.

9 Yn amlwg, fe welodd y corff llywodraethol cynnar fod gwaed yn gysegredig. Roedd camddefnyddio gwaed yr un mor ddifrifol ag eilunaddoliaeth neu anfoesoldeb rhywiol. Mae gwir Gristnogion heddiw yn derbyn y safbwynt hwnnw. Trwy ddefnyddio egwyddorion y Beibl, maen nhw’n gallu gwneud penderfyniadau sy’n plesio Jehofa ynglŷn â gwaed.

DEFNYDDIO GWAED AT BWRPAS MEDDYGOL

Sut byddwn i’n esbonio fy mhenderfyniad ynglŷn â ffracsiynau gwaed wrth y meddyg?

10, 11. (a) Beth yw safbwynt Tystion Jehofa at drallwyso gwaed cyfan neu brif gyfansoddion gwaed? (b) Ym mha faterion sy’n ymwneud â gwaed y gall barn Cristnogion amrywio?

10 Mae Tystion Jehofa yn credu bod “ymgadw rhag . . . gwaed” yn golygu peidio â derbyn trallwysiadau gwaed a pheidio â rhoi neu gadw eu gwaed eu hunain ar gyfer trallwysiadau. O barch at gyfraith Duw, dydyn nhw ddim yn derbyn prif gyfansoddion gwaed, sef celloedd coch, celloedd gwyn, platennau, a phlasma.

11 Heddiw, gall y cyfansoddion hyn gael eu prosesu a’u dadelfennu’n ffracsiynau sydd wedyn yn cael eu defnyddio mewn amryw ffyrdd. A fyddai Cristion yn derbyn y ffracsiynau hyn? Ai “gwaed” ydyn nhw? Rhaid i bob unigolyn benderfynu drosto’i hun. Mae hyn hefyd yn wir yn achos technegau meddygol sy’n ymwneud â’th waed dy hun, fel hemodialysis, hemowanedu (hemodilution), ac arbed celloedd, cyn belled nad yw’r gwaed yn cael ei storio.—Gweler yr Atodiad, tudalennau 215-218.

12. Sut dylen ni ystyried materion o gydwybod, a sut dylen ni ddelio gyda nhw?

12 Ai rhywbeth dibwys yw ein penderfyniadau personol i Jehofa? Nage, mae ganddo ddiddordeb mawr yn ein syniadau a’n cymhellion. (Darllen Diarhebion 17:3; 24:12.) Felly, ar ôl gweddïo ar Jehofa a gwneud ymchwil ar ryw driniaeth neu gynnyrch meddygol, fe ddylen ni wrando ar ein cydwybod Gristnogol. (Rhufeiniaid 14:2, 22, 23) Ni ddylai neb ddweud wrthon ni beth y dylen ni ei wneud, ac ni ddylen ni ofyn: “Beth byddet ti’n ei wneud petaet ti yn fy lle i?” Yn hyn o beth, mae gan bob Cristion “ei bwn ei hun i’w gario.” *Galatiaid 6:5; Rhufeiniaid 14:12; gweler y blwch  “Ydw i’n Ystyried Gwaed yn Sanctaidd?” ar dudalen 81.

CYFRAITH SY’N ADLEWYRCHU CARIAD TADOL JEHOFA

13. Beth mae deddfau ac egwyddorion Jehofa yn ei ddangos amdano? Rho enghraifft.

13 Mae cyfreithiau ac egwyddorion y Beibl yn dangos bod Jehofa yn Ddeddfwr doeth ac yn Dad cariadus sydd â diddordeb mawr yn lles ei blant. (Salm 19:7-11) Er nad rheol yn ymwneud ag iechyd oedd y gorchymyn i “ymgadw rhag . . . gwaed,” ond eto y mae yn ein hamddiffyn ni rhag problemau a all ddeillio o drallwysiadau gwaed. (Actau 15:20) Yn wir, ym marn llawer sy’n gweithio yn y maes meddygol, llawdriniaethau di-waed yw “safon aur” gofal meddygol modern. Mae’r datblygiadau hyn yn cadarnhau doethineb difesur Jehofa a’i gariad tadol.—Darllen Eseia 55:9; Ioan 14:21, 23.

14, 15. (a) Pa ddeddfau sy’n dangos cariad Duw tuag at ei bobl? (b) Sut mae’r egwyddorion y tu ôl i reolau diogelwch y Gyfraith yn berthnasol i ti?

14 Roedd deddfau Duw yn adlewyrchu ei ofal am bobl Israel gynt. Er enghraifft, gorchmynnodd Duw y dylid rhoi canllaw o amgylch pob to i atal damweiniau, oherwydd bod llawer o weithgareddau’r teulu yn digwydd ar do fflat y tŷ. (Deuteronomium 22:8; 1 Samuel 9:25, 26; Nehemeia 8:16; Actau 10:9) Gorchmynnodd Duw hefyd y dylid cadw teirw dan reolaeth. (Exodus 21:28, 29) O anwybyddu’r gorchmynion hyn byddai rhywun yn dangos nad oedd yn malio dim am les pobl eraill ac efallai yn dod yn waed-euog.

15 Sut gelli di roi egwyddorion y deddfau hyn ar waith? Meddylia am dy gar, dy yrru, dy anifeiliaid, dy gartref, dy weithle, a’r pethau rwyt ti’n eu gwneud yn dy amser hamdden. Mewn rhai gwledydd, damweiniau yw prif achos marwolaeth ymhlith pobl ifanc, gan eu bod nhw’n tueddu i fentro eu bywydau’n ddiangen. Ond, mae pobl ifanc sydd eisiau aros yng nghariad Duw yn gwerthfawrogi eu bywydau a dydyn nhw ddim yn chwilio am gyffro drwy wneud pethau peryglus. Maen nhw’n ddigon call i sylweddoli nad yw bod yn ifanc yn eu cadw nhw rhag niwed. Yn hytrach, maen nhw’n mwynhau cyfnod eu hieuenctid drwy osgoi pob math o helynt.—Diarhebion 22:3; Pregethwr 11:9, 10.

16. Pa egwyddorion Beiblaidd sy’n berthnasol i erthylu? (Gweler hefyd y troednodyn.)

16 Mae hyd yn oed bywyd plentyn heb ei eni’n werthfawr yng ngolwg Duw. Yn Israel gynt, petai rhywun yn anafu gwraig feichiog a hithau neu ei phlentyn yn marw, roedd y troseddwr yn euog o ddynladdiad, ac roedd rhaid iddo dalu “bywyd am fywyd.” * (Darllen Exodus 21:22, 23.) Dychmyga, felly, sut mae Jehofa yn teimlo o weld miliynau o fabanod yn cael eu herthylu bob blwyddyn, llawer ohonyn nhw wedi eu haberthu ar allor rhyddid rhywiol a bywyd cyfleus.

17. Sut byddet ti’n cysuro merch sydd wedi cael erthyliad cyn iddi ddysgu am safonau Duw?

17 Ond beth am ferch sydd wedi cael erthyliad cyn iddi ddysgu am safonau’r Beibl? Ydy hi y tu hwnt i faddeuant Duw? Dim o gwbl! Gall rhywun sydd wedi edifarhau fod yn sicr o dderbyn maddeuant Jehofa ar sail aberth Iesu. (Salm 103:8-14; Effesiaid 1:7) Yn wir, dywedodd Crist ei fod wedi dod “i alw pechaduriaid i edifeirwch, nid rhai cyfiawn.”—Luc 5:32.

OSGOI MEDDYLIAU CAS

18. Yn ôl y Beibl, beth sydd wrth wraidd tywallt gwaed?

18 Dydy peidio â brifo eraill ddim yn ddigon. Mae Jehofa yn gofyn inni gael gwared ar y casineb sy’n achosi cymaint o dywallt gwaed. Ysgrifennodd yr apostol Ioan: “Llofrudd yw pob un sy’n casáu ei gydaelod.” (1 Ioan 3:15) Nid peidio â hoffi rhywun sydd o dan sylw yma ond yn hytrach, ddymuno iddyn nhw farw. Daw casineb fel hyn i’r amlwg pan fo rhywun yn lladd ar eraill neu yn eu cyhuddo o bethau a fyddai’n haeddu cosb ddwyfol petaen nhw’n wir. (Lefiticus 19:16; Deuteronomium 19:18-21; Mathew 5:22) Mor bwysig, felly, yw gweithio’n galed i ddiwreiddio unrhyw ddrwgdeimlad a all lechu yn ein calonnau!—Iago 1:14, 15; 4:1-3.

19. Sut mae rhywun sy’n dilyn egwyddorion y Beibl yn deall Salm 11:5 a Philipiaid 4:8, 9?

19 Mae’r rhai sy’n parchu bywyd ac eisiau aros yng nghariad Duw yn osgoi pob math o drais. Dywed Salm 11:5 fod Jehofa yn casáu’r “sawl sy’n caru trais.” Yn ogystal â disgrifio personoliaeth Duw, mae’r adnod hon yn rhoi egwyddor bwysig inni. Y mae yn ein cymell ni i osgoi unrhyw fath o adloniant a all fagu blas ynon ni am drais. Yn yr un modd, mae’r ffaith fod Jehofa yn ‘Dduw tangnefedd’ yn annog ei weision i lenwi eu meddyliau a’u calonnau â phethau cariadus, pur, a chanmoladwy, sy’n hybu heddwch.—Darllen Philipiaid 4:8, 9.

CADW DRAW RHAG CYFUNDREFNAU GWAED-EUOG

20-22. Beth yw safiad Cristnogion ynglŷn â’r byd, a pham?

20 Yng ngolwg Duw, mae holl fyd Satan yn waed-euog. Mae’r systemau gwleidyddol, a ddarlunnir yn yr Ysgrythurau fel bwystfilod rheibus, wedi lladd miliynau, gan gynnwys llawer o weision Jehofa. (Daniel 8:3, 4, 20-22; Datguddiad 13:1, 2, 7, 8) Law yn llaw â’r grymoedd hyn, mae’r byd busnes a gwyddoniaeth wedi gwneud elw mawr drwy greu arfau ffiaidd. Gwir yw’r geiriau fod “yr holl fyd yn gorwedd yng ngafael yr Un drwg.”—1 Ioan 5:19.

21 Drwy aros yn niwtral o ran gwleidyddiaeth a rhyfel mae dilynwyr Iesu yn dangos ‘nad ydynt yn perthyn i’r byd,’ ac yn osgoi bod yn waed-euog, naill ai fel unigolion neu fel rhan o gymuned. * (Ioan 15:19; 17:16) Ac fel Crist, dydyn nhw ddim yn ymateb yn dreisgar i erledigaeth. Yn hytrach, maen nhw’n caru eu gelynion, a hyd yn oed yn gweddïo drostyn nhw.—Mathew 5:44; Rhufeiniaid 12:17-21.

22 Yn bwysicaf oll, mae gwir Gristnogion yn osgoi unrhyw gyswllt â “Babilon Fawr,” ymerodraeth fyd-eang gau grefydd. Dywed Gair Duw: “Ynddi hi y cafwyd gwaed y proffwydi a’r saint, a phawb a laddwyd ar y ddaear.” Rydyn ni’n cael ein rhybuddio: “Dewch allan ohoni, fy mhobl.”—Datguddiad 17:6; 18:2, 4, 24.

23. Beth mae dod allan o Fabilon Fawr yn ei feddwl?

23 Mae gadael Babilon Fawr yn golygu mwy na thynnu ein henwau oddi ar y rhestrau aelodaeth. Mae’n gofyn inni gasáu’r gweithredoedd drwg y mae gau grefydd yn eu caniatáu—pethau fel anfoesoldeb, ymhél â gwleidyddiaeth, a cheisio cyfoeth. (Darllen Salm 97:10; Datguddiad 18:7, 9, 11-17) Yn aml iawn, dyma’r pethau sy’n arwain at dywallt gwaed.

24, 25. (a) Beth yw sail trugaredd Duw at unigolyn sy’n waed-euog ond sydd bellach wedi edifarhau? (b) Mae hynny’n ein hatgoffa am beth yn y Beibl?

24 Cyn inni ddechrau addoli Jehofa, roedden ni i gyd, i ryw raddau, yn cefnogi byd Satan, ac felly yn waed-euog. Sut bynnag, oherwydd inni newid ein ffyrdd, meithrin ffydd yn aberth pridwerthol Crist, a chysegru ein bywydau i Dduw, y mae ef yn trugarhau wrthon ni ac yn ein hamddiffyn yn ysbrydol. (Actau 3:19) Mae hyn yn ein hatgoffa o’r dinasoedd noddfa gynt.—Numeri 35:11-15; Deuteronomium 21:1-9.

25 Beth oedd y dinasoedd noddfa? Petai Israeliad yn lladd rhywun yn ddamweiniol, roedd rhaid iddo ffoi i un o’r dinasoedd noddfa. Ar ôl i farnwyr benderfynu ar ei achos, roedd rhaid iddo aros y tu mewn i’r ddinas noddfa nes bod yr archoffeiriad yn marw. Wedyn, byddai’n rhydd i symud i fyw i rywle arall. Dyma esiampl hyfryd sy’n dangos trugaredd Duw a’r gwerth mawr y mae’n ei roi ar fywyd dyn! Mae Duw wedi darparu rhywbeth tebyg i’r dinasoedd noddfa, sef, aberth pridwerthol Crist. Dyma’r ffordd mae Duw yn ein hamddiffyn ni rhag colli ein bywydau oherwydd inni dorri gorchymyn Duw ynglŷn â sancteiddrwydd bywyd a gwaed. Sut gelli di ddangos dy fod yn gwerthfawrogi hyn? Wel, gwahodda eraill i dderbyn darpariaeth Duw o noddfa, yn enwedig o wybod bod y “gorthrymder mawr” yn prysur ddod.—Mathew 24:21; 2 Corinthiaid 6:1, 2.

PARCHU BYWYD DRWY BREGETHU’R DEYRNAS

26-28. Sut mae ein sefyllfa ni’n debyg i hanes y proffwyd Eseciel, a sut gallwn ni gadw ein hunain yng nghariad Duw?

26 Mae sefyllfa pobl Dduw heddiw yn debyg i hanes y proffwyd Eseciel, a gafodd ei benodi’n wyliwr ysbrydol i dŷ Israel. “Byddi’n clywed gair o’m genau ac yn rhoi rhybudd iddynt oddi wrthyf,” meddai Duw. Petai Eseciel yn esgeuluso ei gomisiwn, fe fyddai gwaed y rhai a ddienyddiwyd adeg dinistrio Jerwsalem ar ei ddwylo. (Eseciel 33:7-9) Ond roedd Eseciel yn ufudd a doedd dim gwaed ar ei ddwylo.

27 Heddiw mae byd cyfan Satan ar fin dod i ben. Felly, i Dystion Jehofa, mae cyhoeddi “dydd dial” Duw, ynghyd â’r neges am y Deyrnas, yn fraint ac yn ddyletswydd. (Eseia 61:2; Mathew 24:14) Wyt ti’n cymryd rhan lawn yn y gwaith hollbwysig hwn? Roedd Paul yn cymryd ei waith pregethu o ddifrif. Dyna pam y gallai ddweud: “Yr wyf . . . yn ddieuog o waed unrhyw un; oblegid nid ymateliais rhag cyhoeddi holl arfaeth Duw i chwi.” (Actau 20:26, 27) Dyna inni esiampl dda!

28 Wrth gwrs, i’n cadw ein hunain yng nghariad cynnes ein tad Jehofa, mae’n rhaid inni wneud mwy na pharchu bywyd a gwaed. Mae’n rhaid inni hefyd aros yn lân, neu’n sanctaidd, fel y byddwn ni’n ei weld yn y bennod nesaf.

^ Par. 5 Ynglŷn â’r geiriau “y mae bywyd y corff yn y gwaed,” dywed y cylchgrawn Scientific American: “Ar wahân i’r ystyr trosiadol, mae’r geiriau hyn yn llythrennol wir: y mae pob un math o gell gwaed yn angenrheidiol ar gyfer bywyd.”

^ Par. 12 Gweler Awake! Awst 2006, tudalennau 3-12, a gyhoeddir gan Dystion Jehofa.

^ Par. 16 Mae rhai cyfieithiadau o’r Beibl yn trosi’r testun Hebraeg hwn mewn modd sy’n awgrymu mai achosi marwolaeth y fam yn unig oedd yn haeddu’r gosb eithaf. Fodd bynnag, dywed geiriadurwyr y Beibl mai “anymarferol yw dweud bod y geiriau hyn yn cyfeirio at niwed i’r fam yn unig.” Sylwa, hefyd, nad oes dim yn y Beibl i awgrymu bod oedran yr embryo neu’r ffetws yn gwneud gwahaniaeth i farn Jehofa.

^ Par. 70 Gweler yr Atodiad, “Ffracsiynau Gwaed a Llawdriniaethau”, am wybodaeth fanylach.