GWERS 1
Cyflwyniad Effeithiol
Actau 17:22
CRYNODEB: Dylai dy gyflwyniad ennyn diddordeb, amlygu’r pwnc, a dangos pam y dylai fod o ddiddordeb i dy wrandawyr.
SUT I FYND ATI:
-
Enynna ddiddordeb. Dewisa gwestiwn, gosodiad, profiad, neu eitem newyddion a fydd o ddiddordeb i dy wrandawyr.
-
Amlyga’r pwnc. Sicrha fod dy eiriau agoriadol yn egluro beth yw dy bwnc a dy nod.
-
Dangosa pam mae’r pwnc yn bwysig. Addasa’r hyn rwyt ti’n ei ddweud ar gyfer anghenion dy wrandawyr. Dylen nhw ddeall yn eglur sut gall y pwnc eu helpu nhw’n bersonol.