GWERS 28
Beth Sydd ar Gael ar Ein Gwefan?
Dywedodd Iesu Grist wrth ei ddilynwyr: “Boed i’ch goleuni chwithau lewyrchu gerbron eraill, er mwyn iddynt weld eich gweithredoedd da chwi a gogoneddu eich Tad, yr hwn sydd yn y nefoedd.” (Mathew 5:16) Er mwyn gwneud hynny, rydyn ni’n defnyddio technoleg fodern, gan gynnwys y rhyngrwyd. Gwefan swyddogol Tystion Jehofa yw jw.org ac yno y cewch wybodaeth am ein daliadau a’n gwaith. Beth sydd ar y wefan?
Atebion y Beibl i gwestiynau sy’n codi’n aml. Gallwch ddod o hyd i atebion i rai o’r cwestiynau pwysicaf a ofynnwyd erioed. Er enghraifft, mae’r taflenni A Fydd Pobl yn Dioddef am Byth? ac A Fydd y Meirw yn Cael Byw Eto? ar gael mewn dros 600 o ieithoedd. Hefyd, mae’r New World Translation ar gael mewn dros 130 o ieithoedd ynghyd ag adnoddau eraill i’ch helpu chi i astudio’r Beibl, gan gynnwys y llyfr Beth Mae’r Beibl yn ei Wir Ddysgu? a’r rhifynnau diweddaraf o’r Watchtower a’r Awake! Gallwch ddarllen neu wrando ar lawer o’r cyhoeddiadau hyn ar-lein neu eu lawrlwytho mewn fformatiau fel MP3, PDF, ac EPUB. Medrwch chi hyd yn oed argraffu ychydig o dudalennau i’w rhoi i rywun sy’n dangos diddordeb, a hynny yn ei iaith ei hun! Mae fideos ar gael mewn ugeiniau o ieithoedd arwyddion. Cewch lawrlwytho darlleniadau dramatig o’r Beibl, dramâu, a cherddoriaeth hyfryd ichi wrando arnyn nhw yn eich amser eich hun.
Gwybodaeth ffeithiol am Dystion Jehofa. Ar ein gwefan, cewch newyddion a fideos am waith byd-eang a gwaith dyngarol Tystion Jehofa, ynghyd â digwyddiadau sy’n effeithio arnon ni. Hefyd, cewch wybodaeth am ein cynadleddau a manylion cyswllt y swyddfeydd cangen.
Drwy’r ffyrdd hyn, rydyn ni’n sicrhau bod goleuni’r gwirionedd yn disgleirio ledled y byd. Mae pobl ar bob cyfandir, gan gynnwys yr Antarctig, yn elwa. Rydyn ni’n gweddïo am i “air yr Arglwydd fynd rhagddo” drwy’r byd i gyd, er gogoniant Duw.—2 Thesaloniaid 3:1.
-
Sut mae jw.org yn helpu mwy o bobl i ddysgu gwirionedd y Beibl?
-
Beth sydd o ddiddordeb i chi ar ein gwefan?