GWERS 06
Sut Dechreuodd Bywyd ar y Ddaear?
Duw “ydy’r ffynnon sy’n rhoi bywyd.” (Salm 36:9) Ydych chi’n credu hynny? Mae rhai yn credu mai hap a damwain sy’n gyfrifol am fywyd ar y ddaear. Ar y llaw arall, os mai Jehofa Dduw a greodd bywyd, oni fyddai pwrpas i fywyd? a Ystyriwch beth mae’r Beibl yn ei ddweud am ddechrau bywyd, a pham mae hynny’n rhesymol.
1. Sut dechreuodd y bydysawd?
Mae’r Beibl yn dweud: “Ar y dechrau cyntaf, dyma Duw yn creu y bydysawd a’r ddaear.” (Genesis 1:1) Mae’r rhan fwyaf o wyddonwyr yn cytuno y bu dechrau i’r bydysawd. Sut creodd Duw y bydysawd? Defnyddiodd ei rym gweithredol—ei ysbryd glân—i greu popeth yn y bydysawd, gan gynnwys y galaethau, y sêr, a’r planedau.—Genesis 1:2.
2. Pam creodd Duw y ddaear?
Ni wnaeth Jehofa greu’r ddaear “i fod yn ddiffaith, ond i bobl fyw arni.” (Eseia 45:18) Creodd y ddaear i fod yn gartref cyfforddus i bobl fyw arni am byth. (Eseia 40:28; 42:5) Mae gwyddoniaeth yn dangos bod y ddaear yn unigryw. Dyma’r unig blaned sy’n addas ar gyfer bywyd, hyd y gwyddom.
3. Ym mha ffordd mae pobl yn wahanol i’r anifeiliaid?
Ar ôl i Jehofa ffurfio’r ddaear, fe greodd fywyd arni. Yn gyntaf, creodd blanhigion ac anifeiliaid. Wedyn, “dyma Duw yn creu pobl ar ei ddelw ei hun.” (Darllenwch Genesis 1:27.) Ym mha ffordd mae pobl yn unigryw? Mae pobl wedi eu creu ar ddelw Duw, ac felly gallan nhw ddangos yr un priodoleddau â Duw, rhinweddau fel cariad a chyfiawnder. Mae wedi ein creu ni hefyd gyda’r gallu i ddysgu ieithoedd, i werthfawrogi celf, ac i fwynhau cerddoriaeth. Ac yn wahanol i’r anifeiliaid, gallwn addoli ein Creawdwr.
CLODDIO’N DDYFNACH
Ystyriwch y dystiolaeth bod bywyd wedi cael ei ddylunio a bod hanes y creu yn y Beibl yn rhesymol. Dysgwch beth mae’r rhinweddau a welwn mewn bodau dynol yn ei ddangos inni am Dduw.
4. Cafodd bywyd ei ddylunio
Mae pobl yn derbyn y clod am y dyluniadau maen nhw wedi eu copïo o fyd natur. Ond pwy ddylai gael y clod am y dyluniadau gwreiddiol? Gwyliwch y FIDEO, ac yna trafodwch y cwestiwn canlynol:
-
Pa bethau mae dylunwyr wedi eu copïo o fyd natur?
Mae pob tŷ yn cael ei ddylunio a’i adeiladu gan rywun. Ond pwy ddyluniodd ac adeiladodd bopeth ym myd natur? Darllenwch Hebreaid 3:4, ac yna trafodwch y cwestiynau hyn:
-
Pa bethau ym myd natur sydd wedi gwneud argraff arnoch chi?
-
Ydy hi’n rhesymol inni gredu bod y bydysawd a phopeth ynddo wedi cael eu dylunio? Pam?
Oeddech chi’n gwybod?
Gallwch weld erthyglau a fideos ar y pwnc hwn ar jw.org yn y gyfres “Wedi ei Ddylunio?” a’r gyfres “Safbwyntiau ar Darddiad Bywyd.”
“Wrth gwrs, mae pob tŷ yn cael ei adeiladu gan rywun, ond yr un a wnaeth adeiladu pob peth ydy Duw.”
5. Mae hanes y creu yn y Beibl yn rhesymol
Ym mhennod cyntaf llyfr Genesis, mae’r Beibl yn trafod dechreuad y ddaear a’r bywyd arni. Allwch chi ymddiried yn yr hanes hwnnw, neu ai chwedl ydy’r cwbl? Gwyliwch y FIDEO, ac yna trafodwch y cwestiynau canlynol:
-
Ydy’r Beibl yn dysgu bod y ddaear a’r bywyd arni wedi eu creu mewn chwe diwrnod 24 awr?
-
Ydych chi’n credu bod hanes y creu yn y Beibl yn rhesymegol? Pam, neu pam ddim?
Darllenwch Genesis 1:1, ac yna trafodwch y cwestiwn hwn:
-
Mae gwyddonwyr yn dweud y bu dechreuad i’r bydysawd. Sut mae hyn yn cymharu â’r hyn rydych chi newydd ei ddarllen yn y Beibl?
Mae rhai pobl yn meddwl bod Duw wedi defnyddio esblygiad i greu bywyd. Darllenwch Genesis 1:21, 25, 27, ac yna trafodwch y cwestiynau hyn:
-
Ydy’r Beibl yn dysgu bod Duw wedi creu bywyd syml ac yna ei adael i esblygu yn bysgod, mamaliaid, a bodau dynol? Neu a wnaeth Duw greu’r holl “fathau” sylfaenol o fywyd? b
6. Mae pobl yn greadigaeth unigryw gan Dduw
Rydyn ni’n wahanol i’r anifeiliaid y mae Jehofa wedi eu creu. Darllenwch Genesis 1:26, ac yna trafodwch y cwestiwn hwn:
-
Gan ein bod ni wedi ein creu ar ddelw Duw, beth mae ein gallu i ddangos cariad a chydymdeimlad yn ein dysgu ni am Dduw?
BYDD RHAI YN DWEUD: “Chwedl yw’r hanes am y greadigaeth yn y Beibl.”
-
Beth rydych chi’n ei feddwl? Pam?
CRYNODEB
Jehofa a greodd y bydysawd a’r bywyd ynddo.
Adolygu
-
Beth mae’r Beibl yn ei ddysgu am ddechreuad y bydysawd?
-
A wnaeth Duw adael i’r mathau gwahanol o fywyd esblygu o ffurf syml, neu a wnaeth Duw eu creu nhw i gyd?
-
Pam mae pobl yn unigryw?
DARGANFOD MWY
Gwelwch enghreifftiau o ddyluniad ym myd natur.
“Beth Rydyn Ni’n ei Ddysgu o Fyd Natur?” (Deffrwch!, Medi 2006)
Gwelwch sut mae tad yn esbonio hanes y creu yn y Beibl i’w fab ifanc.
Ystyriwch a ydy esblygiad yn cyd-fynd â’r Beibl.
“A Wnaeth Duw Ddefnyddio Esblygiad i Greu’r Gwahanol Fathau o Fywyd?” (Erthygl ar jw.org)
Ystyriwch a ydy’r cofnod ffosil ac arbrofion gwyddonol yn awgrymu bod bywyd wedi ei greu, neu ei fod wedi dechrau drwy hap a damwain.