GWERS 46
Pam Dylen Ni Ymgysegru a Chael Ein Bedyddio?
Rydych chi’n ymgysegru i Jehofa drwy weddïo arno ac addo y byddwch yn ei addoli a rhoi ei ewyllys ef yn gyntaf yn eich bywyd. (Salm 40:8) Wedyn, rydych chi’n cael eich bedyddio er mwyn dangos i eraill eich bod chi wedi ymgysegru i Dduw. Mae hyn yn benderfyniad pwysig iawn a fydd yn newid eich bywyd. Pam bydd rhywun yn dewis gwneud hyn?
1. Pam bydd rhywun yn penderfynu ymgysegru?
Rydyn ni’n ymgysegru i Jehofa oherwydd ein bod ni’n ei garu. (1 Ioan 4:10, 19) Mae’r Beibl yn ein hannog: “Mae’n rhaid iti garu Jehofa dy Dduw â dy holl galon ac â dy holl enaid ac â dy holl feddwl ac â dy holl nerth.” (Marc 12:30) Rydyn ni’n dangos ein cariad at Dduw yn yr hyn rydyn ni’n ei ddweud a’i wneud. Yn union fel mae cwpl sy’n caru ei gilydd yn priodi, mae ein cariad at Jehofa yn ein cymell ni i ymgysegru iddo a chael ein bedyddio.
2. Pa fendithion sy’n dod o gael ein bedyddio?
Ar ôl ichi gael eich bedyddio, byddwch yn rhan o deulu hapus Jehofa. Byddwch yn profi ei gariad mewn nifer o ffyrdd ac yn parhau i agosáu ato. (Darllenwch Malachi 3:16-18.) Bydd Jehofa yn Dad ichi, a bydd gynnoch chi deulu o frodyr a chwiorydd ysbrydol ar draws y byd sy’n caru Duw ac yn eich caru chi. (Darllenwch Marc 10:29, 30.) Wrth gwrs, mae’n rhaid ichi gymryd camau penodol cyn ichi gael eich bedyddio. Mae angen ichi ddysgu am Jehofa, dod i’w garu, a rhoi ffydd yn ei Fab. Yn olaf, mae’n rhaid ichi gysegru eich bywyd iddo. Drwy gymryd y camau hyn a chael eich bedyddio, mae’n bosib ichi fwynhau bywyd am byth. Mae Gair Duw yn dweud: “Mae bedydd . . . yn eich achub chi.”—1 Pedr 3:21.
CLODDIO’N DDYFNACH
Ystyriwch pam mae’n bwysig ichi ymgysegru i Jehofa a chael eich bedyddio.
3. Mae’n rhaid i bob un ohonon ni ddewis pwy y byddwn yn ei wasanaethu
Yn Israel gynt, roedd pobl yn meddwl eu bod nhw’n gallu addoli Jehofa a’r gau dduw Baal ar yr un pryd. Ond anfonodd Jehofa ei broffwyd Elias i gywiro’r syniad hwnnw. Darllenwch 1 Brenhinoedd 18:21, ac yna trafodwch y cwestiwn hwn:
-
Pa benderfyniad roedd yn rhaid i’r Israeliaid ei wneud?
Yn debyg i’r Israeliaid, mae’n rhaid i ninnau hefyd ddewis pwy y byddwn ni’n ei addoli. Darllenwch Luc 16:13, ac yna trafodwch y cwestiynau hyn:
-
Pam na allwn ni addoli Jehofa a rhywun neu rywbeth arall ar yr un pryd?
-
Sut rydyn ni’n dangos ein bod ni’n dewis addoli Jehofa?
4. Meddyliwch am faint mae Jehofa yn eich caru chi
Mae Jehofa wedi rhoi nifer o roddion gwerthfawr inni. Beth gallwn ni ei roi iddo ef? Gwyliwch y FIDEO.
Sut mae Jehofa wedi dangos ei fod yn eich caru? Darllenwch Salm 104:14, 15 a 1 Ioan 4:9, 10, ac yna trafodwch y cwestiynau hyn:
-
Pa roddion gan Jehofa sy’n werthfawr i chi?
-
Sut mae’r rhoddion hyn yn gwneud ichi deimlo am Dduw?
Pan fyddwn ni’n derbyn anrheg werthfawr, rydyn ni eisiau diolch i’r un sydd wedi ei rhoi i ni. Darllenwch Deuteronomium 16:17, ac yna trafodwch y cwestiwn hwn:
-
Wrth ichi ystyried yr holl bethau mae Jehofa wedi eu gwneud ar eich cyfer, beth rydych chi eisiau ei roi yn ôl iddo?
5. Mae llu o fendithion yn dod ar ôl ymgysegru
Mae llawer o bobl yn credu y bydd enwogrwydd, gyrfa dda, neu arian yn dod â hapusrwydd. Ydy hynny’n wir? Gwyliwch y FIDEO, ac yna trafodwch y cwestiynau canlynol:
-
Er bod y brawd yn y fideo wrth ei fodd yn chwarae pêl-droed, pam rhoddodd y gorau i’w yrfa?
-
Penderfynodd y brawd ymgysegru i Jehofa, nid i bêl-droed. Ydych chi’n meddwl ei fod wedi gwneud y penderfyniad gorau? Pam?
Cyn i’r apostol Paul droi’n Gristion, roedd yn dilyn gyrfa bwysig. Roedd wedi astudio’r gyfraith Iddewig o dan athro enwog. Ond gadawodd hyn i gyd er mwyn bod yn Gristion. A oedd Paul yn difaru? Darllenwch Philipiaid 3:8, ac yna trafodwch y cwestiynau hyn:
-
Pam roedd Paul yn cymharu’r hyn a wnaeth cyn iddo fod yn Gristion â “sbwriel”?
-
Beth a gafodd yn lle hynny?
-
Sut byddech chi’n cymharu addoli Jehofa ag unrhyw beth arall y gallwch chi ei wneud yn eich bywyd?
BYDD RHAI YN DWEUD: “Dydy cysegru eich bywyd i Dduw ddim yn beth rhesymol.”
-
Pam rydych chi’n meddwl bod ymgysegru i Jehofa yn gwneud synnwyr?
CRYNODEB
Cariad sy’n ein cymell i ymgysegru i Jehofa a chael ein bedyddio.
Adolygu
-
Pam mae Jehofa yn haeddu cael ei garu a’i addoli?
-
Sut mae Jehofa yn gwobrwyo’r rhai sydd wedi eu bedyddio?
-
Hoffech chi ymgysegru i Jehofa?
DARGANFOD MWY
Gwelwch pam gwnaeth cantores ac athletwr ddewis cysegru eu bywydau i Jehofa.
Cwestiynau Pobl Ifanc—Sut Byddaf yn Defnyddio Fy Mywyd?—Edrych yn ôl (6:54)
Ystyriwch resymau eraill dros ymgysegru.
“Pam Mae’n Bwysig Inni Ymgysegru i Jehofa?” (Y Tŵr Gwylio, Ionawr 15, 2010)
Yn y fideo cerddoriaeth hwn, gwelwch pa mor hapus yw’r rhai sy’n ymgysegru i Jehofa.
Yn yr hanes “Am Flynyddoedd o’n I’n Gofyn i Fi Fy Hun, ‘Pam ’Dyn Ni Yma?’” sylwch beth helpodd un ddynes i feddwl am ei blaenoriaethau.
“Mae’r Beibl yn Newid Bywydau” (Y Tŵr Gwylio, Tachwedd 1, 2012)