GWERS 49
Sut Gallwch Chi Gael Teulu Hapus?—Rhan 1
Mae cwpl sydd newydd briodi yn gobeithio bydd hapusrwydd eu diwrnod priodas yn para am byth. Mae hyn yn bosib. Mae Cristnogion sydd wedi priodi ers blynyddoedd, ac sydd wedi gweithio’n galed i roi egwyddorion y Beibl ar waith yn gwybod hyn yn iawn.
1. Pa gyngor mae’r Beibl yn ei roi i wŷr?
Jehofa sydd wedi rhoi’r gŵr yn ben ar y teulu. (Darllenwch Effesiaid 5:23.) Mae Jehofa yn disgwyl i’r gŵr wneud penderfyniadau sydd o les i’r teulu. Mae’r Beibl yn annog gwŷr: “Parhewch i garu eich gwragedd.” (Effesiaid 5:25) Beth mae hynny yn ei olygu? Bydd gŵr cariadus yn trin ei wraig yn garedig, yn y cartref ac yng nghwmni pobl eraill. Y mae’n ei hamddiffyn ac yn gwneud ei orau i ofalu am ei hanghenion corfforol ac emosiynol. (1 Timotheus 5:8) Yn bwysicaf oll, mae’n gofalu am gyflwr ysbrydol ei wraig. (Mathew 4:4) Er enghraifft, mae’n gallu gweddïo a darllen y Beibl gyda’i wraig. Pan fydd gŵr yn gofalu am ei wraig, bydd yn cadw ei berthynas agos â Jehofa.—Darllenwch 1 Pedr 3:7.
2. Pa gyngor mae’r Beibl yn ei roi i wragedd?
Mae’r Beibl yn dweud: “dylai’r wraig ddangos parch dwfn tuag at ei gŵr.” (Effesiaid 5:33) Ym mha ffordd? Drwy feddwl am rinweddau ei gŵr a’r ymdrech mae’n ei gwneud i ofalu amdani hi a’r plant. Mae hi hefyd yn dangos parch drwy gefnogi ei benderfyniadau a thrwy fod yn garedig yn y ffordd mae hi’n siarad ag ef ac amdano ef, hyd yn oed os nad yw’n addoli Jehofa.
3. Sut gall cwpl gryfhau eu priodas?
Mae’r Beibl yn dweud am gyplau priod: “Bydd y ddau yn un cnawd.” (Mathew 19:5) Mae hyn yn golygu y dylen nhw frwydro yn erbyn unrhyw beth a allai wneud i’w cariad wanhau. Gallan nhw wneud hyn drwy dreulio amser gyda’i gilydd yn rheolaidd a thrwy siarad yn agored ac yn gariadus am eu teimladau a’u meddyliau. Dydyn nhw ddim yn gadael i unrhyw beth nac unrhyw un—heblaw am Jehofa—fod yn bwysicach na’u cymar. Maen nhw’n arbennig o ofalus i beidio â meithrin perthynas anaddas ag unrhyw un arall.
CLODDIO’N DDYFNACH
Gwelwch egwyddorion o’r Beibl sy’n gallu cryfhau eich priodas.
4. Dylai’r gŵr garu ei wraig a gofalu amdani
Mae’r Beibl yn dweud: “Dylai gwŷr garu eu gwragedd fel eu cyrff eu hunain.” (Effesiaid 5:28, 29) Beth mae hynny yn ei olygu? Gwyliwch y FIDEO, ac yna trafodwch y cwestiwn sy’n dilyn.
-
Ym mha ffyrdd gall gŵr ddangos ei fod yn caru ei wraig ac yn gofalu amdani?
Darllenwch Colosiaid 3:12, ac yna trafodwch y cwestiwn hwn:
-
Sut gall gŵr ddangos y rhinweddau hyn yn ei briodas?
5. Dylai’r wraig garu ei gŵr a’i barchu
Mae’r Beibl yn annog gwragedd i barchu eu gwŷr p’un a ydyn nhw’n gwasanaethu Jehofa neu beidio. Darllenwch 1 Pedr 3:1, 2, ac yna trafodwch y cwestiynau hyn:
-
Os ydy eich gŵr yn anghrediniwr, mae’n siŵr eich bod chi eisiau iddo addoli Jehofa. Yn eich barn chi, beth fyddai’n fwy effeithiol—pregethu iddo’n ddi-baid neu fod yn esiampl dda a dangos parch? Pam?
Gall gwŷr a gwragedd wneud penderfyniadau da fel tîm. Sut bynnag, ar adegau efallai bydd gwraig yn anghytuno â’i gŵr. Efallai bydd hi’n 1 Pedr 3:3-5, ac yna trafodwch y cwestiwn hwn:
esbonio ei theimladau mewn ffordd barchus, ond mae’n rhaid iddi hi gydnabod bod Jehofa wedi rhoi’r cyfrifoldeb i’r gŵr i benderfynu beth sydd orau i’r teulu. Dylai hi wneud ei gorau i gefnogi ei benderfyniad. Drwy wneud hyn, bydd hi’n cyfrannu at hapusrwydd y teulu. Darllenwch-
Sut mae Jehofa yn teimlo pan fydd gwraig yn parchu ei gŵr?
6. Gallwch ddatrys problemau yn eich priodas
Nid oes yr un briodas yn berffaith. Felly, mae’n rhaid i gyplau priod weithio’n galed i ddatrys problemau. Gwyliwch y FIDEO, ac yna trafodwch y cwestiynau sy’n dilyn.
-
Yn y fideo, beth oedd yn dangos bod y cwpl yn dechrau ymbellhau?
-
Pa gamau wnaethon nhw eu cymryd i gryfhau eu priodas?
Darllenwch 1 Corinthiaid 10:24 a Colosiaid 3:13. Ar ôl darllen pob adnod, trafodwch y cwestiwn hwn:
-
Sut gall rhoi’r cyngor hwn ar waith gryfhau eich priodas?
Mae’r Beibl yn dweud y dylen ni anrhydeddu pobl eraill. Mae hyn yn cynnwys trin rhywun mewn ffordd garedig a pharchus. Darllenwch Rhufeiniaid 12:10, ac yna trafodwch y cwestiynau hyn:
-
A ddylai gŵr neu wraig aros i’r llall ddangos parch cyn dilyn y cyngor hwn? Pam neu pam ddim?
BYDD RHAI YN DWEUD: “Dydyn ni ddim mor agos ag oedden ni.”
-
Sut byddech chi’n esbonio bod y Beibl yn gallu eu helpu nhw?
CRYNODEB
Gall gŵr a gwraig fod yn hapus os ydyn nhw’n caru ei gilydd, yn parchu ei gilydd ac yn rhoi egwyddorion y Beibl ar waith.
Adolygu
-
Sut gall gŵr gyfrannu at briodas hapus?
-
Sut gall gwraig gyfrannu at briodas hapus?
-
Os ydych chi’n briod, pa egwyddor o’r Beibl all eich helpu chi i gryfhau eich priodas?
DARGANFOD MWY
Gwelwch rai syniadau ymarferol ar gyfer mwynhau bywyd teuluol.
Gwyliwch fideo cerddoriaeth sy’n dangos y bendithion sy’n dod o roi cyngor Duw ar waith yn eich priodas.
Gwelwch beth mae’n ei olygu i fod yn ufudd i’r gŵr fel pen y teulu.
“Wragedd, Pam Ymostwng i’ch Gwŷr Fel Pen y Teulu?” (Y Tŵr Gwylio, Mai 15, 2010)
Sut daeth un cwpl dros heriau mawr—gan gynnwys eu hysgariad?