STORI 6
Mab Da a Mab Drwg
EDRYCHA ar Cain ac Abel nawr. Mae’r ddau wedi tyfu’n ddynion. Ffermwr oedd Cain, yn tyfu grawn a ffrwythau a llysiau.
Bugail oedd Abel. Roedd yn hoffi gofalu am ŵyn bach. Roedd yr ŵyn yn tyfu’n ddefaid a chyn bo hir roedd gan Abel braidd mawr i ofalu amdano.
Un diwrnod fe wnaeth Cain ac Abel ddod ag offrymau i Dduw. Daeth Cain ag ychydig o’r bwyd yr oedd wedi ei dyfu, a daeth Abel â’r ŵyn gorau oedd ganddo. Roedd Jehofa wedi ei blesio gan Abel a’i offrwm. Ond nid oedd Cain a’i offrwm ef yn ei blesio o gwbl. Wyt ti’n gwybod pam?
Roedd Jehofa yn hoffi offrwm Abel yn well nag offrwm Cain oherwydd bod Abel yn ddyn da. Roedd yn caru Jehofa ac yn caru ei frawd. Ond roedd Cain yn ddrwg, ac nid oedd yn caru ei frawd.
Felly, dywedodd Duw wrth Cain y dylai newid ei agwedd. Ond doedd Cain ddim eisiau gwrando. Fe wylltiodd oherwydd bod Duw yn hoffi Abel yn fwy nag ef. Dywedodd Cain wrth Abel, ‘Gad inni fynd i’r caeau.’ Pan oedden nhw ar eu pennau eu hunain, fe wnaeth Cain daro ei frawd mor galed nes iddo farw. Onid oedd hynny yn rhywbeth ofnadwy i’w wneud?
Er bod Abel wedi marw, mae Duw yn dal i gofio amdano. Dyn da oedd Abel a dydy Jehofa byth yn anghofio pobl dda. Un diwrnod bydd Jehofa Dduw yn dod ag ef yn ôl yn fyw. Wedyn, fydd dim angen iddo farw eto. Bydd yn gallu byw am byth ar y ddaear. Wyt ti’n edrych ymlaen at ddod i adnabod pobl fel Abel?
Ond dydy pobl fel Cain ddim yn plesio Duw. Felly, ar ôl i Cain ladd ei frawd, fe wnaeth Duw ei gosbi drwy orchymyn iddo fynd i fyw yn bell oddi wrth ei deulu. Pan aeth Cain i ffwrdd, aeth un o’i chwiorydd gydag ef, a daeth hithau’n wraig iddo.
Ymhen amser, cafodd Cain a’i wraig blant. Priododd meibion a merched Adda ac Efa ac fe gawson nhw blant hefyd. Cyn bo hir, roedd llawer o bobl yn byw ar y ddaear. Beth am inni ddysgu am rai ohonyn nhw?