RHAN 2
O’r Dilyw hyd at y Waredigaeth o’r Aifft
Dim ond wyth o bobl a oroesodd y Dilyw, ond ymhen amser fe dyfodd y boblogaeth nes bod miloedd ar filoedd yn byw ar y ddaear. Yna, 352 o flynyddoedd ar ôl y Dilyw, cafodd Abraham ei eni. Byddwn ni’n dysgu sut y gwnaeth Duw gadw ei addewid drwy roi mab o’r enw Isaac i Abraham. O’r ddau fab a gafodd Isaac, Jacob oedd yr un a gafodd ei ddewis gan Dduw.
Roedd gan Jacob ddeuddeg mab a nifer o ferched. Roedd meibion Jacob yn casáu eu brawd bach Joseff, ac fe wnaethon nhw ei werthu i fod yn gaethwas yn yr Aifft. Yn nes ymlaen, daeth Joseff yn rheolwr pwysig yn yr Aifft. Pan ddaeth newyn mawr ar yr ardal, rhoddodd Joseff brawf ar ei frodyr i weld a oedden nhw wedi newid eu hagwedd. Yn y pen draw, 290 o flynyddoedd ar ôl i Abraham gael ei eni, symudodd teulu Jacob i’r Aifft.
Roedd teulu Jacob, yr Israeliaid, yn byw yn yr Aifft am 215 o flynyddoedd. Ar ôl i Joseff farw, daethon nhw’n gaethweision. Ymhen amser, cafodd Moses ei eni. Byddai Duw yn defnyddio Moses i arwain yr Israeliaid allan o’r Aifft. Mae RHAN 2 yn adrodd hanes 857 o flynyddoedd.
YN Y RHAN HON
STORI 13
Abraham—Ffrind i Dduw
Pam gwnaeth Abraham adael ei gartref cyffyrddus i fyw mewn pebyll am weddill ei oes?
STORI 16
Gwraig Dda i Isaac
Oedd Rebeca yn wraig dda oherwydd ei bod hi’n brydferth neu a oedd rheswm arall?
STORI 22
Joseff yn y Carchar
Aeth i’r carchar nid oherwydd iddo dorri’r gyfraith, ond oherwydd iddo wneud yr hyn sy’n iawn.
STORI 24
Rhoi Prawf ar y Brodyr
Sut gall Joseff wybod a yw ei frodyr wedi newid ers iddyn nhw ei werthu fel caethwas?
STORI 26
Ffyddlondeb Job
Collodd Job ei gyfoeth, ei iechyd, a’i blant i gyd. A oedd Duw yn ei gosbi?
STORY 27
Brenin Drwg yn yr Aifft
Pam gorchmynnodd Pharo i bob bachgen oedd yn cael ei eni i’r Israeliaid gael ei ladd?
STORI 28
Babi yn Cael ei Achub
Mae Pharo yn gorchymyn i fechgyn yr Israeliaid gael eu lladd, ond mae mam Moses yn gweld ffordd o achub ei mab.
STORI 29
Moses yn Ffoi
Roedd Moses yn meddwl ei fod yn barod i achub yr Israeliaid pan oedd yn 40 mlwydd oed, ond roedd yn anghywir
STORI 30
Perth yn Llosgi
Gyda chyfres o wyrthiau mae Duw yn dweud wrth Moses bod yr amser wedi dod iddo arwain yr Israeliaid allan o’r Aifft.
STORI 32
Y Deg Pla
Anfonodd Duw y deg pla ar yr Aifft oherwydd ystyfnigrwydd Pharo yn gwrthod gadael i’r Israeliaid fynd.
STORI 33
Croesi’r Môr Coch
Moses yn gwahanu’r Môr Coch trwy ddefnyddio grym Dduw ac mae’r Israeliaid yn croesi ar dir sych.