STORI 35
Jehofa yn Rhoi’r Gyfraith
TUA deufis ar ôl i’r Israeliaid adael yr Aifft, cyrhaeddon nhw fynydd Sinai, sydd hefyd yn cael ei alw’n Horeb. Dyna’r lle y gwelodd Moses y berth yn llosgi a chlywed Jehofa yn siarad ag ef. Arhosodd y bobl yno a chodi gwersyll.
Gadawodd Moses y gwersyll a cherdded i fyny’r mynydd. Ar gopa’r mynydd, dywedodd Jehofa wrth Moses fod arno eisiau i’r Israeliaid ufuddhau iddo a bod yn bobl arbennig iddo. Pan aeth Moses yn ôl i’r gwersyll, dywedodd wrth y bobl beth roedd Jehofa wedi ei ddweud. Roedd yr Israeliaid eisiau bod yn eiddo i Jehofa, a chytunon nhw i fod yn ufudd iddo.
Yna, achosodd Jehofa i rywbeth rhyfedd ddigwydd. Daeth mellt a tharanau ar y mynydd nes bod y copa’n fwg i gyd. Clywodd y bobl lais Duw yn dweud: ‘Y fi yw Jehofa eich Duw a ddaeth â chi allan o’r Aifft. Peidiwch ag addoli neb ond y fi.’
Rhoddodd Duw naw gorchymyn arall i’r Israeliaid. Ond roedd ofn ar y bobl. Dywedon nhw wrth Moses: ‘Siarada di â ni, ond paid â gadael i Dduw siarad â ni, rhag ofn inni farw.’
Yn nes ymlaen, fe ddywedodd Jehofa wrth Moses: ‘Tyrd i fyny’r mynydd ata’ i unwaith eto. Rhoddaf iti’r gorchmynion ar ddwy lech o gerrig.’ Felly, aeth Moses i fyny’r mynydd unwaith eto. Arhosodd yno am 40 diwrnod a 40 noson.
Roedd gan Dduw lawer o ddeddfau eraill ar gyfer ei bobl. Ysgrifennodd Moses bopeth i lawr. Rhoddodd Duw y ddwy lech i Moses. Wedi eu hysgrifennu arnyn nhw oedd y deg cyfraith yr oedd Duw wedi eu rhoi i’r bobl. Yr enw ar y cyfreithiau hynny yw’r Deg Gorchymyn.
Mae’r Deg Gorchymyn yn bwysig. Ond roedd y deddfau eraill yr un mor bwysig. Un ohonyn nhw oedd: ‘Rwyt i garu Jehofa dy Dduw â’th holl galon, ac â’th holl feddwl, ac â’th holl enaid, ac â’th holl nerth.’ Un arall oedd: ‘Câr dy gymydog fel ti dy hun.’ Yn ôl Mab Duw, Iesu Grist, dyma’r ddau orchymyn pwysicaf i Jehofa eu rhoi i bobl Israel. Yn nes ymlaen, byddwn ni’n dysgu llawer mwy am Fab Duw a’i ddysgeidiaethau.
Exodus 19:1-25; 20:1-21; 24:12-18; 31:18; Deuteronomium 6:4-6; Lefiticus 19:18; Mathew 22:36-40.