STORI 80
Pobl Duw yn Gadael Babilon
A WYT ti’n gweld yr Israeliaid yn gadael Babilon? Mae bron i ddwy flynedd wedi mynd heibio ers i’r Mediaid a’r Persiaid orchfygu Babilon. Pwy sydd wedi rhyddhau yr Israeliaid?
Cyrus, brenin Persia, sydd wedi eu rhyddhau. Ymhell cyn i Cyrus gael ei eni, fe wnaeth Jehofa ysbrydoli Eseia i broffwydo amdano. Roedd Eseia wedi ysgrifennu: ‘Byddi di’n gwneud yn union beth rydw i’n dymuno iti ei wneud. Bydd y drysau ar agor, fel y gelli di gipio’r ddinas.’ A dyna beth ddigwyddodd. Arweiniodd Cyrus yr ymosodiad ar Fabilon. Yn ystod y nos, aeth y Mediaid a’r Persiaid trwy’r drysau agored a chipio’r ddinas.
Ond roedd Eseia hefyd wedi proffwydo y byddai Cyrus yn rhoi gorchymyn i ailadeiladu Jerwsalem a’r deml. Daeth y broffwydoliaeth hon yn wir! Dywedodd Cyrus wrth yr Israeliaid: ‘Ewch yn ôl i Jerwsalem i adeiladu teml Jehofa, eich Duw.’ A dyna yn union beth mae’r Israeliaid yn y llun yn ei wneud.
Sut bynnag, nid oedd pob un o’r Israeliaid ym Mabilon yn gallu mynd yr holl ffordd yn ôl i Jerwsalem. Roedd hi’n daith hir o ryw 500 milltir (800 cilomedr) ac roedd llawer o’r Israeliaid yn rhy hen neu’n rhy sâl i deithio mor bell. Dywedodd Cyrus wrth y rhai a oedd yn aros ar ôl: ‘Rhowch arian ac aur a rhoddion eraill i’r bobl sy’n dychwelyd i ailadeiladu Jerwsalem a’r deml.’
Ar ben anrhegion yr Israeliaid, rhoddodd Cyrus yr holl lestri yr oedd Nebuchadnesar wedi eu dwyn o deml Jehofa pan ddinistriodd Jerwsalem. Roedd gan y bobl lwyth o bethau i’w cludo yn ôl i Jerwsalem.
Ar ôl teithio am ryw bedwar mis, cyrhaeddodd yr Israeliaid Jerwsalem. Roedd hi’n union 70 mlynedd ers i’r ddinas gael ei dinistrio. Trwy’r amser hyn i gyd, nid oedd neb wedi byw yn y wlad. O’r diwedd roedd yr Israeliaid yn ôl yn eu gwlad eu hunain. Ond fel y byddwn ni’n gweld, nid dyna oedd diwedd eu problemau.
Eseia 44:28; 45:1-4; Esra 1:1-11.