STORI 92
Iesu yn Atgyfodi’r Meirw
A WYT ti’n gweld y ferch yn y llun? Mae hi’n 12 mlwydd oed. Iesu sy’n gafael yn ei llaw, a’i mam a’i thad sy’n sefyll wrth y gwely. Wyt ti’n gwybod pam maen nhw mor hapus? Gad inni weld.
Dyn pwysig oedd tad y ferch. Ei enw oedd Jairus. Un diwrnod aeth ei ferch mor sâl nes bod rhaid iddi fynd i’r gwely. Ond yn lle gwella, aeth hi’n waeth ac yn waeth. Roedd Jairus a’i wraig yn poeni’n ofnadwy, gan feddwl bod eu hunig ferch yn mynd i farw. Roedd Jairus wedi clywed am wyrthiau Iesu ac felly fe aeth i chwilio amdano.
Pan ddaeth Jairus o hyd i Iesu, roedd tyrfa fawr o’i gwmpas. Ond gwthiodd Jairus trwy’r dyrfa a syrthio ar ei liniau o flaen Iesu. ‘Mae fy merch yn wael iawn,’ meddai. ‘Plîs, wnei di ddod i’w gwella?’ Cytunodd Iesu i fynd.
Wrth iddyn nhw gerdded, roedd y dyrfa yn gwasgu o’u cwmpas. Yn sydyn, dyma Iesu yn stopio a gofyn: ‘Pwy gyffyrddodd â fi?’ Roedd Iesu wedi synhwyro bod nerth wedi llifo allan ohono ac felly roedd yn gwybod bod rhywun wedi cyffwrdd ag ef. Ond pwy? Dyma ddynes yn dod ato. Roedd hi wedi bod yn sâl iawn am 12 mlynedd, ond ar ôl cyffwrdd â dillad Iesu, roedd hi wedi cael ei hiacháu!
Pan welodd Jairus pa mor hawdd oedd i Iesu iacháu pobl, roedd yn teimlo’n hapusach. Ond yna, dyma un o’i weision yn cyrraedd a dweud: ‘Paid â phoeni Iesu ddim mwy. Mae dy ferch wedi marw.’ Clywodd Iesu neges y gwas a dywedodd wrth Jairus: ‘Paid ag ofni. Bydd dy ferch yn iawn.’
Pan gyrhaeddon nhw dŷ Jairus o’r diwedd, roedd pawb yn crio ac yn galaru. Dywedodd Iesu: ‘Peidiwch â chrio. Nid yw’r ferch wedi marw. Dim ond cysgu y mae.’ Ond chwerthin a wnaeth y bobl a gwneud hwyl am ben Iesu, oherwydd fe wydden nhw yn iawn fod y ferch wedi marw.
Gyda Jairus a’i wraig, a thri o’i apostolion, aeth Iesu i mewn i ystafell y ferch. Cydiodd Iesu yn ei llaw a dweud: ‘Fy ngeneth, cod!’ A dyma hi’n dod yn fyw. Cododd ar ei thraed a dechrau cerdded o gwmpas! Dyna pam roedd ei mam a’i thad mor hapus.
Nid dyna’r tro cyntaf i Iesu ddod â rhywun yn ôl yn fyw. Roedd Iesu wedi atgyfodi mab i wraig weddw a oedd yn byw mewn tref o’r enw Nain. Yn nes ymlaen, atgyfododd Iesu Lasarus, brawd Martha a Mair. Pan fydd Iesu yn teyrnasu dros y ddaear, fe fydd yn atgyfodi llawer iawn o bobl. Rydyn ni’n edrych ymlaen at hynny yn fawr iawn, on’d ydyn ni?