STORI 105
Aros yn Jerwsalem
Y BOBL yn y llun yw dilynwyr Iesu. Roedden nhw wedi gwrando ar Iesu ac aros yn Jerwsalem. Un diwrnod pan oedd y disgyblion gyda’i gilydd, dyma sŵn fel gwynt cryf yn rhuthro trwy’r tŷ. Yna, roedd fflamau o dân i’w gweld ar ben pob un o’r disgyblion. Wyt ti’n gallu gweld y fflamau ar eu pennau? Beth oedd ystyr hyn i gyd?
Gwyrth oedd hyn! Roedd Iesu yn ôl yn y nefoedd gyda’i Dad, ac roedd yn tywallt ysbryd glân Duw ar ei ddilynwyr. Wyt ti’n gwybod beth roedd yr ysbryd glân yn eu helpu nhw i’w wneud? Roedd yn eu helpu i siarad ieithoedd gwahanol.
Roedd pobl eraill yn Jerwsalem wedi clywed sŵn y gwynt mawr hefyd, a daeth tyrfa i weld beth oedd yn digwydd. Roedd rhai wedi dod o wledydd eraill ar gyfer Pentecost, gŵyl yr Iddewon. Pan glywon nhw’r disgyblion yn siarad, roedden nhw’n syfrdanu! Roedd y disgyblion yn siarad pob math o ieithoedd, ac yn sôn am yr holl bethau rhyfeddol roedd Duw wedi eu gwneud.
‘Mae’r bobl hyn yn dod o Galilea,’ meddai’r ymwelwyr. ‘Felly sut maen nhw’n gallu siarad ein hieithoedd ni?’
Cododd Pedr ar ei draed i gyfarch y dyrfa. Esboniodd fod Iesu wedi cael ei ladd, ond bod Jehofa wedi ei atgyfodi. ‘Bellach, mae Iesu yn y nefoedd, yn eistedd ar ochr dde Duw,’ meddai Pedr. ‘Fel yr addawodd, y mae wedi tywallt yr ysbryd glân arnon ni. Dyna pam rydych chi wedi gweld a chlywed y gwyrthiau hyn.’
Pan ddywedodd Pedr hynny, roedd llawer o’r bobl yn teimlo’n ddrwg am y ffordd i Iesu gael ei drin. ‘Beth dylen ni ei wneud?’ gofynnon nhw. Dywedodd Pedr: ‘Rhaid ichi newid eich bywydau a chael eich bedyddio.’ Felly y diwrnod hwnnw, daeth ryw 3,000 o bobl yn ddilynwyr Iesu a chael eu bedyddio.