STORI 112
Llongddrylliad
A WYT ti’n gweld y llong mewn trafferth? Y mae’n chwalu’n ddarnau! Wyt ti’n gweld yr holl bobl sydd wedi neidio i’r môr? Mae rhai eisoes wedi cyrraedd y lan. Ai Paul yw hwnnw? Gad inni weld beth ddigwyddodd.
Am ddwy flynedd roedd Paul wedi bod yn y carchar yng Nghesarea. Yna, cafodd ei roi ar long i fynd i Rufain gyda nifer o garcharorion eraill. Wrth iddyn nhw fynd heibio ynys Creta, cododd storm ofnadwy. Yn y gwyntoedd cryfion, nid oedd y morwyr yn gallu llywio’r llong. Nid oedden nhw’n gallu gweld yr haul yn ystod y dydd, na’r sêr yn ystod y nos. Aeth llawer o ddyddiau heibio, ac yn y diwedd collodd y bobl bob gobaith.
Yna, cododd Paul a dweud: ‘Nid oes neb yn mynd i farw. Dim ond y llong fydd yn cael ei cholli. Oherwydd daeth angel Duw ataf neithiwr a dweud: “Paid ag ofni, Paul! Mae’n rhaid iti sefyll dy brawf o flaen Cesar. Bydd Duw yn achub pawb sydd ar y llong.’”
Parhaodd y storm am 14 o ddyddiau, ac yna tua hanner nos, sylwodd y morwyr nad oedd y dŵr mor ddwfn! Rhag ofn bod y llong yn cael ei bwrw yn erbyn y creigiau, fe wnaethon nhw ollwng yr angorau. Yn y bore, dyma nhw’n gweld traeth o’u blaenau. Felly penderfynon nhw geisio gyrru’r llong i’r tir.
Wrth iddyn nhw anelu am y traeth, dyma’r llong yn taro banc tywod a mynd yn sownd. Gyda’r tonnau yn hyrddio drosti, dechreuodd y llong dorri’n ddarnau. Dywedodd y swyddog a oedd yn gyfrifol am y carcharorion: ‘Os medrwch chi nofio, neidiwch i’r dŵr a cheisiwch gyrraedd y lan. Dylai pawb arall neidio wedyn a cheisio cael gafael ar ddarnau o bren o’r llong.’ A dyna a wnaethon nhw. O’r 276 o bobl ar y llong, llwyddodd pob un i gyrraedd y traeth yn ddiogel, yn union fel roedd yr angel wedi addo.
Enw’r ynys oedd Malta. Roedd y bobl yno yn hynod o garedig. Fe wnaethon nhw ofalu am bawb o’r llong. Pan gododd y tywydd, cafodd Paul ei roi ar long arall a’i gymryd i Rufain.