STORI 113
Paul yn Rhufain
A WYT ti’n gweld y cadwyni am ddwylo Paul a’r milwr yn ei warchod? Roedd Paul yn y carchar yn Rhufain, yn aros i glywed beth roedd Cesar yn bwriadu ei wneud ag ef. Er bod Paul yn garcharor, roedd pobl yn cael mynd i’w weld.
Dri diwrnod ar ôl i Paul gyrraedd Rhufain, anfonodd am yr arweinwyr Iddewig. O ganlyniad, daeth llawer o’r Iddewon yn Rhufain i’w weld. Soniodd Paul wrthyn nhw am Iesu ac am Deyrnas Dduw. Roedd rhai’n credu Paul a dod yn Gristnogion, ond eraill yn gwrthod credu.
Cafodd Paul ei gadw yn y carchar am ddwy flynedd. Roedd yn pregethu i’r milwyr a oedd yn ei warchod, ac i bawb a ddeuai i’w weld. Clywodd hyd yn oed teulu Cesar am y newyddion da, a daeth rhai ohonyn nhw’n Gristnogion.
Ond pwy yw’r dyn sy’n ysgrifennu wrth y bwrdd? Elli di ddyfalu? Ie, dyna Timotheus. Roedd Timotheus hefyd wedi bod yn y carchar am bregethu’r newyddion da, ond wedyn cafodd ei ryddhau. Yna, aeth i helpu Paul. Wyt ti’n gwybod beth roedd Timotheus yn ei ysgrifennu? Gad inni weld.
Wyt ti’n cofio darllen am Philipi ac Effesus yn Stori 110? Roedd Paul wedi helpu i sefydlu cynulleidfaoedd yn y dinasoedd hynny. Felly, tra oedd Paul yn y carchar, ysgrifennodd lythyrau at y Cristnogion yno. Mae ei lythyrau at yr Effesiaid a’r Philipiaid i’w gweld yn y Beibl. Yn y llun, rydyn ni’n gweld Paul yn dweud wrth Timotheus beth i’w ysgrifennu at eu ffrindiau yn Philipi.
Roedd y Philipiaid yn garedig iawn wrth Paul. Roedden nhw wedi anfon anrheg ato yn y carchar, ac felly roedd Paul yn diolch iddyn nhw. Dyn o’r enw Epaffroditus oedd wedi dod â’r anrheg, ond fe aeth yn sâl a bu bron iddo farw. Ar ôl iddo wella, aeth Epaffroditus adref, gan fynd â’r llythyr oddi wrth Paul a Timotheus i’r Cristnogion yn Philipi.
Tra ei fod yn y carchar, ysgrifennodd Paul ddau lythyr arall sydd i’w cael yn y Beibl. Un yw Colosiaid, sef ei lythyr at y Cristnogion yn Colosae. Llythyr at Philemon, un o’i ffrindiau agos yn Colosae, oedd y llall. Roedd y llythyr hwnnw’n sôn am Onesimus, gwas Philemon.
Roedd Onesimus wedi gadael ei feistr Philemon, a mynd i Rufain. Rywsut neu’i gilydd, clywodd Onesimus am Paul ac aeth i’w weld yn y carchar. Soniodd Paul wrtho am y newyddion da ac fe ddaeth yn Gristion. Roedd Onesimus yn difaru ei fod wedi rhedeg i ffwrdd. Felly, wyt ti’n gwybod beth ysgrifennodd Paul yn ei lythyr at Philemon?
Gofynnodd Paul i Philemon faddau i Onesimus. ‘Rydw i’n anfon dy was yn ôl,’ ysgrifennodd Paul. ‘Ond nawr y mae’n fwy na gwas iti. Y mae’n frawd annwyl, yn Gristion.’ Pan aeth Onesimus yn ôl i Colosae, aeth â’r llythyrau at y Colosiaid ac at Philemon. Elli di ddychmygu pa mor hapus oedd Philemon o glywed fod ei was wedi dod yn Gristion?
Pan ysgrifennodd Paul at y Philipiaid ac at Philemon, roedd newyddion da ganddo. ‘Rydw i am anfon Timotheus atoch chi,’ dywedodd Paul wrth y Philipiaid, ‘ac yn fuan y byddaf innau’n dod i’ch gweld chi hefyd.’ Yn ei lythyr at Philemon, gofynnodd Paul iddo baratoi ystafell ar ei gyfer.
Ar ôl i Paul gael ei ryddhau, aeth i weld ei frodyr a chwiorydd Cristnogol mewn llawer o ddinasoedd. Ond wedyn, cafodd ei garcharu eto yn Rhufain. Y tro hwnnw, roedd Paul yn gwybod y byddai’n cael ei ladd. Ysgrifennodd at Timotheus a gofyn iddo ddod ato ar frys. ‘Rydw i wedi bod yn ffyddlon i Dduw,’ ysgrifennodd Paul, ‘ac fe fydd Duw yn rhoi’r wobr imi.’ Ychydig o flynyddoedd ar ôl i Paul farw, cafodd Jerwsalem ei dinistrio unwaith eto, y tro hwn gan y Rhufeiniaid.
Ond, nid dyna ddiwedd y Beibl. Ysbrydolodd Jehofa yr apostol Ioan i ysgrifennu’r llyfrau olaf, gan gynnwys llyfr Datguddiad. Mae’r llyfr hwn yn sôn am y dyfodol. Gad inni weld beth fydd yn digwydd.