Sut Rydych Chi’n Teimlo am y Beibl?
Ydych chi’n meddwl bod y Beibl . . .
-
yn llyfr o ddoethineb dynol?
-
yn llyfr llawn chwedlau?
-
yn llyfr oddi wrth Dduw?
MAE’R BEIBL YN DWEUD:
‘Duw sydd wedi ysbrydoli’r ysgrifau sanctaidd i gyd.’—2 Timotheus 3:16, beibl.net.
MAE HYNNY’N GOLYGU
Atebion i gwestiynau mawr bywyd.—Diarhebion 2:1-5.
Cyngor da ar gyfer bywyd hapus.—Salm 119:105.
Gobaith cadarn ar gyfer y dyfodol.—Rhufeiniaid 15:4.
OND ALLWN NI GREDU BETH MAE’R BEIBL YN EI DDWEUD?
Gallwn, am o leiaf dri rheswm:
-
Cysondeb rhyfeddol. Cafodd y Beibl ei ysgrifennu gan ryw 40 o bobl dros gyfnod o 1,600 o flynyddoedd. Ni wnaeth y rhan fwyaf o’r ysgrifenwyr erioed gwrdd â’i gilydd. Ond eto, un thema ganolog sydd yn rhedeg trwy’r holl lyfr!
-
Gonestrwydd wrth drin hanes. Doedd haneswyr y gorffennol ddim yn hoff iawn o gofnodi methiannau eu pobl. Ar y llaw arall, roedd ysgrifenwyr y Beibl yn onest wrth gofnodi eu camgymeriadau personol yn ogystal â methiannau’r genedl.—2 Cronicl 36:15, 16; Salm 51:1-4.
-
Proffwydoliaethau dibynadwy. Ryw 200 mlynedd o flaen llaw, dywedodd y Beibl y byddai hen ddinas Babilon yn cael ei dinistrio. (Eseia 13:17-22) Datgelodd yr union ffordd y byddai Babilon yn cwympo, a hyd yn oed enw’r gorchfygwr!—Eseia 45:1-3.
Cafodd nifer fawr o broffwydoliaethau eraill hefyd eu cyflawni, a hynny i’r manylyn lleiaf. Ond mae hynny i’w ddisgwyl mewn llyfr sy’n dod oddi wrth Dduw.—2 Pedr 1:21.
CWESTIWN I FEDDWL AMDANO
Sut gall Gair Duw wneud eich bywyd yn well?
Mae’r Beibl yn ateb y cwestiwn hwnnw yn ESEIA 48:17, 18 ac yn 2 TIMOTHEUS 3:16, 17.