MEHEFIN 6, 2022
INDONESIA
Rhyddhau Llyfrau Mathew a Marc yn Iaith Arwyddion Indonesia
Ar Fai 29, 2022, gwnaeth y Brawd Daniel Purnomo, aelod o Bwyllgor Cangen Indonesia, ryddhau llyfrau Mathew a Marc yn Iaith Arwyddion Indonesia. Cafodd llyfrau digidol y Beibl eu rhyddhau yn ystod rhaglen oedd wedi ei recordio o flaen llaw, a oedd wedi ei ffrydio i gynulleidfa o 2,127.
Sefydlodd Tystion Jehofa eu cynulleidfa iaith arwyddion gyntaf yn Indonesia ar Fedi 14, 2007, yn ninas Jambi, Swmatra. Yna yn 2011, cyfieithodd Tystion Jehofa dri chyhoeddiad i Iaith Arwyddion Indonesia: Hoffech Chi Wybod y Gwir?, Gwrando ar Dduw a Byw am Byth, a Dod yn Ffrind i Dduw! Yn 2011, cafodd y gylchdaith iaith arwyddion gyntaf ei sefydlu yn y wlad, cylchdaith sy’n ymestyn tua 3,000 cilomedr (1,800 milltir). Yn 2015, cafodd swyddfa gyfieithu ei hagor yn y maes i ofalu am yr angen cynyddol am gyhoeddiadau yn Iaith Arwyddion Indonesia. Heddiw, yn Indonesia, mae ’na 12 cynulleidfa iaith arwyddion, yn ogystal â 28 o grwpiau a rhag-grwpiau.
Llyfrau Mathew a Marc yw llyfrau cyntaf y Beibl i’w cyfieithu i Iaith Arwyddion Indonesia. Dywedodd y Brawd Purnomo yn ystod yr anerchiad lawnsio: “Mae’r arwyddo a’r cysyniad y tu ôl iddo yn y cyfieithiad hwn yn wych. Mae’r arwyddion yn cael eu mynegi’n dda ac yn llawn emosiwn, ac mi fyddan nhw’n eich helpu i ddychmygu cymeriadau’r Beibl gymaint yn well.”
Dywedodd un o’r cyfieithwyr: “Bydd y cyfieithiad hwn yn fy helpu i ddysgu mwy am Iesu, fel petaswn i’n siarad ag ef wyneb yn wyneb.”
Ein gweddi yw y bydd y cyfieithiad newydd hwn yn helpu’r rhai sy’n defnyddio Iaith Arwyddion Indonesia i weld Gair Duw ‘yn lamp i’w traed, ac yn oleuni i’w llwybr.’—Salm 119:105.