MEHEFIN 20, 2023
MECSICO
Rhyddhau Cyfieithiad y Byd Newydd o’r Ysgrythurau Groeg Cristnogol yn yr Ieithoedd Nahwatl (Y Canolbarth) a Tarascan
Ar Fehefin 9, 2023, cafodd Cyfieithiad y Byd Newydd o’r Ysgrythurau Groeg Cristnogol ei ryddhau yn yr ieithoedd Nahwatl (Y Canolbarth) a Tarascan. Cafodd rhain eu rhyddhau ar ddiwrnodau cyntaf Cynadleddau Rhanbarthol “Byddwch yn Amyneddgar”! yn yr ieithoedd hynny. Dyma adroddiad byr ar beth ddigwyddodd.
Nahwatl (Y Canolbarth)
Gwnaeth y Brawd Sean Scribner, aelod o Bwyllgor Cangen Canolbarth America, ryddhau cyfieithiad o’r Ysgrythurau Groeg Cristnogol yn yr iaith Nahwatl (Y Canolbarth) i gynulleidfa o 1,474. Cafodd y gynhadledd ei chynnal yn nhalaith Puebla, Mecsico. Mae rhyw 500,000 o bobl yn siarad yr iaith yn bennaf yng nghanol a de Mecsico.
Roedd yr cyfieithwyr yn dewis yn ofalus ymadroddion sy’n hawdd eu deall ac yn cael eu defnyddio yn iaith bob dydd y werin bobl. Mae Cyfieithiad y Byd Newydd o’r Ysgrythurau Groeg Cristnogol yn yr iaith Nahwatl (Y Canolbarth) hefyd yn cynnwys troednodiadau sy’n esbonio geiriau pwysig mewn amryw dafodiaith. Ond yn bwysicaf oll mae’r enw dwyfol, Jehofa, wedi ei adfer drwy gydol yr Ysgrythurau—fel y dylai fod wedi.
Tarascan
Gwnaeth y Brawd Curtis Mills, aelod o Bwyllgor Cangen Canolbarth America, ryddhau cyfieithiad o’r Ysgrythurau Groeg Cristnogol yn yr iaith Tarascan yn ystod cynhadledd yn nhalaith Michoacan ym Mecsico i gynulleidfa o 662. Mae’n debyg bod ’na dros 175,000 o bobl ym Mecsico, a tua 60,000 o bobl yn yr Unol Daleithiau, yn siarad Tarascan.
Er bod cyfieithiadau eraill o’r Ysgrythurau Groeg Cristnogol ar gael yn yr iaith Tarascan, maen nhw’n anodd eu deall gan eu bod nhw’n cynnwys iaith hynafol a chymhleth. Yn ychwanegol i hynny, dydyn nhw ddim o hyd yn cyfleu gwirioneddau’r Beibl mewn ffordd gywir. Er enghraifft, mae un o’r cyfieithiadau hyn yn trosi Ioan 10:30 fel: “Rydw i a’r Tad yr un fath.” Ond mae Cyfieithiad y Byd Newydd o’r Ysgrythurau Groeg Cristnogol yn trosi’r adnod hon fel: “Rydw i a’r Tad yn un,” sy’n dangos nid yw Jehofa a Iesu yn gyfartal, ond maen nhw’n unol yn eu pwrpas a’u gweithredoedd.
Rydyn ni’n gweddïo bydd y Beiblau newydd hyn yn annog mwy o bobl i ddysgu am Jehofa a’i addoli.—Eseia 2:3.