Coffadwriaeth Marwolaeth Iesu
Dydd Sadwrn, Ebrill 12, 2025
Unwaith y flwyddyn, mae Tystion Jehofa yn coffáu marwolaeth Iesu Grist, yn union fel gorchmynnodd Iesu: “Parhewch i wneud hyn er cof amdana i.”—Luc 22:19.
Rydyn ni’n eich gwahodd i’r digwyddiad hwn.
Cwestiynau Cyffredin
Am faint fydd y rhaglen yn para?
Bydd yn para am tua awr.
Ble mae’n digwydd?
Cysylltwch â Thystion Jehofa am fanylion lleol.
Oes rhaid talu am fynediad?
Nac oes.
A fydd ’na gasgliad?
Na fydd.
Beth dylwn i ei wisgo?
Does ’na ddim cod gwisg penodol, ond mae Tystion Jehofa yn trio dilyn cyngor y Beibl i wisgo’n weddus ac yn barchus. (1 Timotheus 2:9) Does dim rhaid i’ch dillad fod yn grand nac yn ffurfiol.
Beth fydd yn digwydd yn ystod y Goffadwriaeth?
Mae’r cyfarfod yn dechrau ac yn gorffen gyda chân, a bydd un o weinidogion Tystion Jehofa yn dweud gweddi. Bydd anerchiad yn trafod pa mor bwysig ydy marwolaeth Iesu a sut gallwn ni elwa o’r hyn mae Duw a Christ wedi ei wneud droston ni.
Am fwy o fanylion, gweler yr erthygl “Pam Mae Tystion Jehofa yn Wahanol i Grefyddau Eraill yn y Ffordd Maen Nhw’n Dathlu Swper yr Arglwydd?”
Pryd bydd y Goffadwriaeth yn y blynyddoedd i ddod?
2025: Dydd Sadwrn, Ebrill 12
2026: Dydd Iau, Ebrill 2